Gwirfoddoli gyda’n Gwasanaeth Tystion
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd ag agwedd gyfeillgar, gefnogol ac empathig at eraill. Mae angen sgiliau gwrando a chyfathrebu llafar da arnoch. Rydym hefyd yn chwilio am bobl sy’n anfeirniadol ac yn ddiduedd wrth gefnogi pawb, ac sydd â’r hyder i gefnogi pobl sy’n agored i niwed a phobl ag anghenion penodol.
Eisiau ymuno â'n tîm?
Mae gennym gyfleoedd yng Nghymru a Lloegr. Cewch hyfforddiant llawn, cefnogaeth ac achrediad - a chroeso cynnes.
Gallwch wneud cais os ydych yn 18 oed neu’n hŷn. Hefyd, bydd angen i chi:
-
Bwriadu gwirfoddoli am o leiaf 12 mis - os ydych yn astudio gallwn drafod beth fydd yn digwydd yn ystod y gwyliau
- ymgymryd â’n hyfforddiant ar-lein
- cael cliriad DBS manylach
- Parodrwydd i ddefnyddio TG - e-bost, hyfforddiant ar-lein, ac o bosibl tabledi a mewnbynnu gwybodaeth ar ffurflenni ar-lein. Byddwch angen mynediad i'r rhyngrwyd, gan fod y rhan fwyaf o'n hyfforddiant ar-lein. Bydd angen cyfrif e-bost arnoch hefyd, gan y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i’ch cofrestru gyda’n systemau TG, a’n prif declyn cyfathrebu. Os nad oes gennych gyfrif e-bost ar hyn o bryd gallwn eich helpu i sefydlu un.
Cwestiynau cyffredin a gwybodaeth ychwanegol
Mae ein proffiliau rôl isod yn rhoi trosolwg o'n rolau, ond os hoffech wybod mwy am wirfoddoli efallai y bydd ein cwestiynau cyffredin yn ddefnyddiol.
Rydyn ni hefyd wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol at ei gilydd am wirfoddoli gyda ni - rydyn ni'n gobeithio y bydd yn eich helpu chi i benderfynu a ydych chi'n teimlo bod ein rolau'n iawn i chi.
Gallwch hefyd roi cynnig ar ein cwis byr i weld pa faes gwirfoddoli y gallai fod gennych ddiddordeb ynddo.
Ynglŷn â bod yn Wirfoddolwr Gwasanaeth Tystion
Mae 2 rôl wirfoddol y gallwch ddewis ohonynt:
- rôl yn y llys
- rôl allgymorth - y tu allan i Lundain yn unig
Ein rôl yn y llys
Byddwch yn cefnogi tystion (gan gynnwys dioddefwyr) a’u ffrindiau a’u teulu pan fyddant yn dod i’r llys. Byddwch yn rhoi gwybodaeth ymarferol iddynt am y broses, yn ogystal â chefnogaeth emosiynol i’w helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth roi tystiolaeth.
I gefnogi tystion y llys, bydd eich angen tua unwaith yr wythnos yn ystod oriau llys arferol.
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn a ddisgwylir gan ein gwirfoddolwyr yn y llys yn ein proffil rôl.
Sut i wneud cais
Os cliciwch ar ‘Gwneud Cais Nawr’ byddwch yn cael eich tywys i’n ffurflen gais gwirfoddolwyr ar-lein.
Bydd ein ffurflen gais yn gofyn rhai cwestiynau sylfaenol amdanoch chi’ch hun, ac yna beth a’ch cymhellodd i wneud cais am y rôl. Ceisiwch roi mwy nag un llinell o ymateb. Y mwyaf o wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni, y mwyaf y gallwn ni gael darlun i weld ai hon yw’r rôl iawn i chi.
Weithiau byddwn yn derbyn ceisiadau y mae;n rhaid i ni eu gwrthod, gan nad yw’r ymgeisydd wedi rhoi digon o wybodaeth i ni i wybod a fyddent yn addas ar gyfer y rôl. Dydyn ni ddim eisiau colli allan ar bobl a allai fod yn wirfoddolwyr gwych i ni.
Ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU: sylwch mai dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu hynny y cewch wirfoddoli. Gwnewch yn siŵr bod gennych hawl i wirfoddoli er mwyn osgoi torri telerau eich statws. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wahanol reolau fisa ar GOV.UK. Mae gan ddinasyddion Gwyddelig, dinasyddion yr UE/AEE â statws sefydlog neu cyn-sefydlog, a ffoaduriaid a cheiswyr lloches hawl lawn i wirfoddoli.
Eich gwybodaeth
Defnyddir y wybodaeth a roddwch i ni ar y ffurflen gais i’n helpu i benderfynu a fyddwch yn iawn ar gyfer ein rôl. Bydd yn cael ei weld gan ein Cydlynwyr Gwirfoddoli a’i rannu ar lefel leol gyda’r aelodau staff priodol a fydd yn arwain y broses recriwtio. Rydym hefyd yn gofyn ar wahân am wybodaeth a fydd yn ein helpu i fonitro amrywiaeth ein hymgeiswyr. Mae hwn yn ddienw ac ni fydd yn cael ei weld gan yr Arweinwyr Tîm.
Pam gwirfoddoli gyda ni?
![]() |
“Dod â'r gorau allan ynoch chi’ch hyn trwy helpu rhywun trwy’r hyn a allai fod y diwrnod anoddaf yn eu bywyd: mae’r wobr yn fwy nag unrhyw daliad.” Peter - Caernarfon |
![]() |
"Daeth gwirfoddoli i’r Gwasanaeth Tystion ar adeg pan oedd fy mywyd wedi cyrraedd isafbwynt go iawn. Cefais gefnogaeth ac anogaeth anhygoel gan fy rheolwr yn ogystal â gwirfoddolwyr eraill, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau ar hyd y ffordd. Mae fy hyder wedi cynyddu ac Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd bob tro rwy’n mynd i’r gwaith a gwybod fy mod yn helpu rhywun trwy gyfnod anodd” |
![]() |
"Byddwn yn argymell gwirfoddoli gyda'r Gwasanaeth Tystion i unrhyw un sydd â diddordeb yn y System Cyfiawnder Troseddol ac sy'n dymuno ymgyfarwyddo â’r achos llys. Mae'r rôl hon yn darparu her newydd bob dydd a all roi boddhad mawr a chaniatáu i chi ehangu a dysgu sgiliau newydd - mewn amgylchedd proffesiynol." |
Os oes gennych gwestiynau am wirfoddoli ewch i’n tudalen cwestiynau cyffredin neu cysylltwch â: ws-volunteering@citizensadvice.org.uk.