Adborth a chwynion
Gallwch wneud cwyn os nad ydych yn hapus:
-
gyda'r cyngor a roddwyd i chi
-
am sut rydych chi wedi cael eich trin
-
oherwydd eich bod wedi cael trafferth cysylltu
Dywedwch a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch pan fyddwn yn cysylltu â chi, er enghraifft maint ffont mwy.
Darganfod sut rydym yn delio â'ch cwynion.
Sut i wneud cwyn
Gallwch wneud cwyn mewn gwahanol ffyrdd - yn dibynnu ar beth mae'n ymwneud ag.
Os ydych yn cwyno am gyngor mewnfudo
Gallwch gwyno i ni neu i Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC).
Dylech gwyno i’r OISC o fewn 12 mis o gael y cyngor os gallwch.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC)
Llawr 5
21 Bloomsbury Street
Llundain
WC1B 3HF
Ffôn: 0345 000 0046
Ffacs: 020 7211 1553
E-bost: info@oisc.gov.uk
Gwefan: http://oisc.homeoffice.gov.uk/
Os credwch fod ein cyngor wedi gwneud ichi golli arian
Gallwch chi:
-
gwneud cwyn i ni
-
gofyn i gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol annibynnol wirio a oes gennych hawliad cyfreithiol yn ein herbyn
Os byddwch yn gwneud hawliad cyfreithiol, ni allwn ymdrin â chwyn am yr un mater nes bod yr hawliad wedi’i orffen.
Os ydych yn cwyno oherwydd bod ein llinellau ffôn yn brysur
Rydyn ni'n gwybod y gall fod yn anodd weithiau cysylltu â ni ar Adviceline. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud amseroedd aros yn fyrrach.
Rydym yn argymell eich bod yn ffonio eto ar amser gwahanol, neu'n ceisio cysylltu â ni mewn ffordd wahanol.
Os ydych chi eisiau cwyno am eich Cyngor ar Bopeth lleol, gallwch chi gysylltu â nhw a dweud eich bod chi eisiau cwyno.
Ar gyfer pob math o gŵyn, gallwch gwyno i’n tîm Gwasanaethau Cleient dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein. Os ydych yn cwyno am eich Cyngor ar Bopeth lleol, byddwn yn anfon y gŵyn atynt i ddelio â hi.
Darganfod sut rydym yn storio ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn gwneud cwyn.
Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu gwaith heb gael eu trin yn wael - darganfod sut rydym yn delio ag ymddygiad annerbyniol.
Tîm Gwasanaethau Cleientiaid Cyngor ar Bopeth
Ffôn: 03000 231 900
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
E-bost: feedback@citizensadvice.org.uk
Anfonwch eich cwyn atom
Defnyddiwch y ffurflen i anfon cwynion atom yn unig – ni fyddwn yn ateb os gofynnwch am gyngor.