People needing help with PIP appeals nearly doubles reports Citizens Advice Cymru
The number of people in Wales seeking help to challenge the outcome of their Personal Independence Payments (PIP) assessment last year has risen by 86%, Citizens Advice Cymru reveals.
Over 3,800 people turned to the charity for advice on how they might overturn their PIP assessment decision in the year ending March 2017, up from 2,059 in the year to March 2016.
PIP is a benefit that helps people to meet the extra costs of being disabled or having a long term health condition. For example it allows them to employ a carer who can help them get washed and dressed in the mornings, or to have a mobility scooter so they can travel to work.
To receive PIP people must have an assessment to work out the level of assistance they need. But long standing flaws with the system can result in some people being wrongly assessed.
Problems reported to Citizens Advice Cymru about PIP assessments include confusion over what evidence to submit in advance, being rushed for time during the assessment and the wrong information being recorded by assessors.
In some cases it’s possible to reverse a decision by asking for a reconsideration. If this doesn’t work people’s next option is to appeal their case at tribunal.
Citizens Advice Cymru also recorded a 78% increase in those needing help to take their PIP appeal to a tribunal and it helped 4,000 people with their legal challenge last year.
One person with serious mental health problems turned to the charity for help after being refused PIP. This was despite them being so unwell they had to be assessed at home and the individual’s father had to speak on their behalf.
PIP was the most common advice issue Citizens Advice Cymru helped with last year. Almost 20,000 people asked the charity for help with a PIP related problem, with the most common queries being about how to make a claim or checking eligibility.
Citizens Advice Cymru is calling for action to improve the quality and accuracy of the PIP application and assessment process.
Fran Targett Director of Citizens Advice Cymru said:
“Problems with PIP assessments mean many disabled people are not getting the support they need to get on with everyday life.
“The sharp rise in the number of people wanting help to appeal their PIP assessment decision shows the process isn’t capturing the challenges disabled people face on a daily basis, and action is needed to make the system more accurate.
“It’s crucial to get assessments right first time so that people aren’t unnecessarily put through the appeals process. Not only are people being denied immediate support they need, but making an appeal can also be costly and time consuming.”
-ends-
Nifer y bobl sydd angen cymorth gydag apeliadau PIP yn dyblu bron, yn ôl adroddiad Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth yn datgelu bod nifer y bobl yng Nghymru sy’n gofyn am gymorth i herio canlyniad eu hasesiad Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) wedi cynyddu y llynedd i 86%.
Mae dros 3,800 o bobl wedi gofyn i’r elusen am gymorth ar sut y gallen nhw wrthdroi penderfyniad eu hasesiad PIP yn y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth 2017, sy’n gynnydd o 2,059 yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2016.
Mae PIP yn fudd-dal sy’n helpu pobl i dalu costau ychwanegol anabledd neu o fod â chyflwr iechyd tymor hir. Er enghraifft, mae’n eu galluogi i gyflogi gofalwr sy’n gallu eu helpu i ymolchi a gwisgo yn y boreau, neu i gael sgwter symudedd fel y gallan nhw deithio i’r gwaith.
Er mwyn derbyn PIP mae'n rhaid i bobl gael asesiad er mwyn cyfrifo lefel y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Ond gall diffygion tymor hir gyda’r system arwain at asesiadau anghywir o rai pobl.
Mae problemau a adroddir i'r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth am asesiadau PIP yn cynnwys dryswch ynglŷn â’r dystiolaeth y dylid ei chyflwyno ymlaen llaw, bod y broses yn un frysiog oherwydd diffyg amser yn ystod yr asesiad ac aseswyr yn cofnodi’r wybodaeth anghywir.
Mewn rhai achosion mae’n bosibl gwrthdroi penderfyniad drwy ofyn i’r penderfyniad gael ei ailystyried. Os nad yw hyn yn gweithio, y dewis nesaf sydd gan bobl yw apelio eu hachos mewn tribiwnlys.
Mae Cyngor ar Bopeth hefyd wedi cofnodi cynnydd o 78% yn nifer y rhai sydd angen cymorth i fynd â’u hapêl PIP i dribiwnlys ac mae wedi helpu 4,000 o bobl gyda’u her gyfreithiol y llynedd.
Penderfynodd un unigolyn sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol ofyn i’r elusen am gymorth wedi i PIP gael ei wrthod. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith ei fod ef/hi mor wael fel bod yn rhaid cynnal yr asesiad yng nghartref yr unigolyn a bod yn rhaid i dad yr unigolyn siarad ar ran yr unigolyn.
Materion yn ymwneud â PIP oedd yr hyn y bu Cyngor ar Bopeth yn cynghori arno fwyaf y llynedd. Fe wnaeth 20,000 o bobl bron ofyn i’r elusen am gymorth gyda phroblem yn ymwneud â PIP, ac roedd yr ymholiadau mwyaf cyffredin yn ymwneud â’r ffordd o wneud hawliad neu wirio cymhwysedd.
Mae Cyngor ar Bopeth yn galw am weithredu er mwyn helpu i wella ansawdd a chywirdeb prosesau ymgeisio ac asesu PIP.
Meddai Fran Targett, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru:
“Mae problemau’n ymwneud ag asesiadau PIP yn golygu nad yw llawer o bobl anabl yn cael y cymorth y maen nhw ei angen ar gyfer bywyd bob dydd. “
“Mae’r cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sydd am gael cymorth i apelio penderfyniad eu hasesiad PIP yn dangos nad yw’r broses yn ymateb i’r heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd, ac mae angen gweithredu er mwyn gwneud y system yn fwy cywir.
“Mae’n hanfodol cynnal asesiadau cywir y tro cyntaf fel nad yw pobl yn cael eu rhoi drwy’r broses apelio’n ddiangen. Nid yn unig dyw pobl ddim yn cael y cymorth y maen nhw ei angen ar unwaith, ond gall apelio fod yn broses gostus a gall gymryd llawer o amser hefyd.”
-diwedd-
Notes to editors
The Citizens Advice service comprises a network of local Citizens Advice, all of which are independent charities, the Citizens Advice consumer service and national charity Citizens Advice. Together we help people resolve their money, legal and other problems by providing information and advice and by influencing policymakers. For more see the Citizens Advice website.
The advice provided by the Citizens Advice service is free, independent, confidential and impartial, and available to everyone regardless of race, gender, disability, sexual orientation, religion, age or nationality.
To get advice online or find your local Citizens Advice in England and Wales, visit citizensadvice.org.uk
You can get consumer advice from the Citizens Advice consumer service on 03454 04 05 06 or 03454 04 05 05 for Welsh language speakers.
Local Citizens Advice in England and Wales advised 2.5 million clients on 6.2 million problems in 2014/15. For full service statistics see our publication Advice trends.
Citizens Advice service staff are supported by more than 21,000 trained volunteers, working at over 2,500 service outlets across England and Wales.
Nodiadau i olygyddion
Mae’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn cynnwys rhwydwaith o ganghennau Cyngor ar Bopeth lleol, pob un yn elusennau annibynnol, gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr ac elusen genedlaethol Cyngor ar Bopeth. Gyda’n gilydd rydyn ni’n helpu pobl i ddatrys eu problemau ariannol, eu problemau cyfreithiol a’u problemau eraill drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor a dylanwadu ar wneuthurwyr polisi. Am ragor o wybodaeth gweler gwefan Cyngor ar Bopeth.
Mae’r cyngor y mae Cyngor ar Bopeth yn ei ddarparu yn annibynnol, yn gyfrinachol, yn ddiduedd, yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb waeth beth fo’u hil, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, oedran neu genedligrwydd.
I gael cyngor ar-lein neu i ddod o hyd i’ch swyddfa leol Cyngor ar Bopeth yng Nghymru a Lloegr, ewch i citizensadvice.org.uk
Gallwch gael cyngor gan wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06 neu 03454 04 05 05 ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Rhoddodd swyddfeydd lleol Cyngor ar Bopeth yng Nghymru a Lloegr gyngor i 2.5 miliwn o gleientiaid ar 6.2 miliwn o broblemau yn 2014/15. I weld ystadegau llawn y gwasanaeth, gweler ein cyhoeddiad Advice trends.
Mae staff y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn cael eu cefnogi gan fwy na 21,000 o wirfoddolwyr cymwys sy’n gweithio mewn dros 2,500 o ganolfannau gwasanaeth ledled Cymru a Lloegr.