Polisi preifatrwydd Cyngor ar Bopeth

Mae Cyngor ar Bopeth yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i helpu i ddatrys eich problemau, gwella ein gwasanaethau a mynd i'r afael â materion ehangach mewn cymdeithas sy'n effeithio ar fywydau pobl.

Rydym ond yn gofyn am y wybodaeth sydd ei hangen arnom. Rydym yn sicrhau bob tro mai chi sy'n penderfynu pa wybodaeth rydych yn fodlon ei rhoi i ni, ac rydym yn esbonio pam rydym eisiau'r wybodaeth, ac yn ei thrin yn gyfrinachol.

Wrth gofnodi a defnyddio eich gwybodaeth bersonol:

  • rydym ond yn ei defnyddio pan fydd gennym reswm da

  • rydym ond yn rhannu'r hyn sy'n angenrheidiol ac yn berthnasol

  • nid ydym yn gwerthu'r wybodaeth i neb

Rydym yn trin ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â chyfraith diogelu data.

Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan, rydym yn casglu math o ddata a elwir yn gwcis i gael gwybod beth rydych chi'n clicio arno. Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis.

Pwy sy'n gyfrifol am gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel

Mae'r elusen Cyngor ar Bopeth genedlaethol a’r rhwydwaith Cyngor ar Bopeth lleol yn gyfrifol am gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel a sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data. Mae hyn yn golygu ein bod yn 'rheolydd data ar y cyd' ar gyfer eich gwybodaeth bersonol.

Mae pob Cyngor ar Bopeth lleol yn elusen annibynnol ac yn aelod o'r elusen Cyngor ar Bopeth genedlaethol.

Bydd y Cyngor ar Bopeth lleol yn cofnodi eich gwybodaeth bersonol ar system gyfrifiadurol genedlaethol. Dim ond os oes ganddynt reswm da y gall staff o ganolfan Cyngor ar Bopeth lleol gwahanol gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol - er enghraifft, os ewch atyn nhw am gyngor neu ffoniwch ein llinell ffôn cenedlaethol. Mae gennym ni reolau a rheolaethau i atal pobl rhag cyrchu neu ddefnyddio eich gwybodaeth pan na ddylent.

Dywedwch wrth gynghorydd os ydych chi’n poeni bod eich manylion ar system genedlaethol. Byddwn yn gweithio gyda chi i gymryd camau ychwanegol i ddiogelu’ch gwybodaeth – er enghraifft drwy gofnodi’ch problem heb ddefnyddio’ch enw.

Os ydych wedi defnyddio Cyngor ar Bopeth lleol

Bydd ein polisi preifatrwydd Cyngor ar Bopeth yn darparu'r rhan fwyaf o wybodaeth berthnasol am yr hyn sy'n digwydd i'ch gwybodaeth bersonol.

Os ydych wedi rhoi eich gwybodaeth bersonol i Gyngor ar Bopeth lleol, gallech wirio ei bolisi preifatrwydd hefyd gan y gallai gynnwys rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am sut mae eich data yn cael ei chadw neu ei rhannu. Os ydych chi eisiau gwneud hyn, gallwch gysylltu â'r ganolfan yn uniongyrchol neu edrych ar ei gwefan.

Beth rydym yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth

Mae sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol yn dibynnu ar sut rydych chi'n rhyngweithio â ni.

  • Pan fyddwch yn derbyn cyngor gan gynghorydd

  • Defnyddio ein gwefan

  • Defnyddio ein gwasanaeth i ddefnyddwyr

  • Defnyddio ein gwasanaeth Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO)

  • Defnyddio ein Gwasanaeth Dystion

  • Pan fydd gennych apwyntiad Pension Wise

  • Pan fyddwch yn cysylltu â ni ynglŷn â swyddfa bost

  • Defnyddio Help i Hawlio

  • Gwneud cais am swydd neu gais i fod yn wirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion

  • Os cysylltwyd â chi i helpu gydag ymchwil, ymgyrchoedd neu newyddion

  • Pan fyddwch yn gwneud cwyn am ein gwasanaeth

  • Cofrestru ar gyfer cylchlythyr gan Gyngor ar Bopeth genedlaethol

  • Pan fyddwch yn cyflwyno rhodd i'n gwasanaeth

Pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth heb ganiatâd

Mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio neu'n rhannu eich gwybodaeth heb eich caniatâd ar adegau. Ni fyddwn yn gwneud hyn heb sail gyfreithiol. Gallai hyn gynnwys sefyllfaoedd lle mae'n rhaid i ni ddefnyddio neu rannu eich gwybodaeth:

  • i gydymffurfio â'r gyfraith, a elwir yn 'rhwymedigaeth gyfreithiol' - er enghraifft, os yw llys yn ein gorchymyn i rannu gwybodaeth

  • i ddiogelu bywyd rhywun, a elwir yn 'fuddiannau allweddol i fywyd' - er enghraifft, rhannu gwybodaeth â pharafeddyg os oedd cleient yn sâl yn ein canolfan

  • i gyflawni ein nodau a'n hamcanion fel sefydliad, a elwir yn 'fuddiannau dilys' - er enghraifft, i greu astudiaethau achos ac ystadegau dienw ar gyfer ein gwaith ymchwil cenedlaethol

  • i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu er budd ein swyddogaethau swyddogol, a bod gan y dasg neu'r swyddogaeth sylfaen glir yn y gyfraith, a elwir yn 'dasg gyhoeddus' - er enghraifft y Gwasanaeth Defnyddwyr

  • i gyflawni contract sydd gennym gyda chi, a elwir yn 'gontract' - er enghraifft, os ydych yn weithiwr cyflogedig mae'n bosibl y bydd angen i ni gadw eich manylion banc er mwyn eich talu

  • i amddiffyn ein hawliau cyfreithiol - er enghraifft, er mwyn datrys cwyn ein bod wedi rhoi'r cyngor anghywir

Cael help a rhoi gwybod am bryderon

Gallwch gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth lleol os ydych am:

  • darganfod mwy am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

  • dweud wrthym eich bod yn poeni am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth - er enghraifft os ydych yn meddwl ein bod wedi rhannu eich gwybodaeth pan na ddylem fod wedi rhannu eich gwybodaeth

Gallwch hefyd anfon e-bost at ein swyddog diogelu data DPO@citizensadvice.org.uk os:

  • mae angen mwy o help arnoch ar ôl siarad â'ch Cyngor ar Bopeth lleol

  • nid ydych wedi cael unrhyw gysylltiad â’ch Cyngor ar Bopeth lleol - er enghraifft oherwydd eich bod wedi siarad â ni gan ddefnyddio sgwrs yn lle hynny

  • nid yw'r broblem yn effeithio ar eich gwybodaeth bersonol eich hun yn unig - er enghraifft, os ydych chi'n meddwl bod problem gyda'n polisi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau data ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.