Diweddaru a phrofi eich statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Ar ôl i chi wneud cais i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, bydd y Swyddfa Gartref yn anfon llythyr atoch i ddweud wrthych ba statws y maent wedi'i roi i chi. Gelwir hyn yn eich llythyr penderfyniad.
Dysgwch beth i’w wneud os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad.
Os ydych chi’n aros am benderfyniad ynghylch eich cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Os ydych chi wedi gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae gennych hawl o hyd i fyw a gweithio yn y DU tra byddwch yn aros am benderfyniad. Gallwch brofi eich hawliau yn y DU drwy ddefnyddio:
eich pasbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol
eich tystysgrif gais Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - byddai eich tystysgrif wedi cael ei hanfon atoch drwy e-bost pan wnaethoch gais
Efallai y bydd eich tystysgrif ymgeisio wedi cael ei hanfon atoch drwy e-bost pan wnaethoch gais, neu efallai ei bod ar eich cyfrif ar-lein - mae'n dibynnu pryd y gwnaethoch gais. Os yw eich tystysgrif ar-lein, gallwch gael cod rhannu ar GOV.UK.
Bydd angen i'ch cyflogwr ddefnyddio'r Gwasanaeth Gwirio Cyflogwyr i gadarnhau eich hawl i weithio.
Gweld eich statws
Ar ôl i chi gael eich llythyr penderfyniad, gallwch weld eich statws preswylydd sefydlog neu breswylydd cyn-sefydlog ar GOV.UK.
Os ydych chi'n dod o'r UE, AEE neu'r Swistir, ni chewch gerdyn yn dangos eich statws cyn-sefydlog neu sefydlog - mae eich statws ar-lein yn unig.
Gweld statws eich plentyn
Bydd gan eich plentyn ei statws ar-lein ei hun. I weld statws eich plentyn ar GOV.UK, bydd angen y cyfeiriad e-bost neu’r rhif ffôn roeddech chi wedi’i ddefnyddio pan wnaethoch chi ei gais.
Profi eich hawl i weithio neu i rentu
Os ydych chi eisiau dangos eich statws i rywun, gallwch gael cod rhannu ar GOV.UK. Mae'n syniad da argraffu neu ysgrifennu'r cod pan fyddwch yn ei gael.
Gallwch roi eich cod rhannu i rywun sydd angen gwirio eich statws - er enghraifft, landlord neu gyflogwr.
Dim ond am 90 diwrnod y mae'r cod hwn yn ddilys - os na chaiff ei ddefnyddio o fewn y 90 diwrnod bydd angen i chi gael un newydd. Nid yw eich llythyr penderfyniad yn brawf o’ch statws.
Gall landlordiaid, cyflogwyr a chynghorau lleol wirio eich statws ar-lein os byddwch yn rhoi cod rhannu iddynt.
Os gwnaeth eich cyflogwr neu’ch landlord wirio eich statws cyn 1 Gorffennaf 2021 a’i fod am wneud hynny eto, gallai hyn fod yn wahaniaethu – oni bai ei fod yn gwneud hynny ar gyfer ei holl weithwyr neu bawb sy’n rhentu ganddo. Siaradwch â chynghorydd os ydych chi'n meddwl bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn.
Os ydych yn credu bod y Swyddfa Gartref wedi gwneud camgymeriad ynghylch eich statws mewnfudo
Gallwch lenwi ffurflen i ddweud wrthynt fod yr wybodaeth anghywir ganddynt - er enghraifft, os yw’n hen. I gael gwybod sut mae dweud wrth y Swyddfa Gartref bod yr wybodaeth sydd ganddi am eich statws yn anghywir, ewch i GOV.UK.
Profi eich hawl i ddod i’r DU
Mae’r hyn y mae angen i chi ei ddangos yn dibynnu ar ba ddinasyddiaeth sydd gennych.
Os ydych chi'n ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir
Pan fyddwch yn dod i'r DU, bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod sy'n gysylltiedig â'ch statws ar-lein - er enghraifft, eich pasbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol.
Os byddwch yn mynd i'r DU gan ddefnyddio eich pasbort, gallwch ei sganio eich hun gan ddefnyddio'r 'eGates' mewn meysydd awyr. Os byddwch yn defnyddio eich cerdyn adnabod, bydd angen i chi ei ddangos i swyddog mewnfudo.
Gallwch wirio neu newid y ddogfen adnabod sydd wedi chysylltu âch statws ar GOV.UK
Os ydych chi'n ddinesydd gwlad y tu allan i'r UE, AEE neu'r Swistir
Efallai eich bod wedi cael cerdyn preswylio biometrig Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE pan gawsoch statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog. Os oes gennych un, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd ag ef gyda chi pan fyddwch yn teithio - mae ei angen arnoch i ddod i mewn i'r DU.
Os nad oes gennych chi gerdyn preswylio biometrig Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae’r rheolau’n dibynnu a oes gennych y canlynol:
cerdyn preswylio biometrig yr AEE
trwydded preswylio biometrig
Os oes gennych gerdyn preswylio biometrig yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog, gallwch barhau i ddefnyddio eich cerdyn preswylio biometrig AEE i ddod i mewn i'r DU nes iddo ddod i ben. Fodd bynnag, mae cardiau preswylio EEA yn cael eu disodli gan gardiau preswylio Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Mae’n syniad da cyfnewid eich cerdyn preswylio AEE am gerdyn preswylio Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Gallwch gyfnewid eich cerdyn gwreiddiol am gerdyn preswylio Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar GOV.UK. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis 'cerdyn preswylio biometrig' ac nid 'trwydded breswyl fiometrig' pan fyddwch yn gwneud cais.
Ni allwch ddefnyddio eich cerdyn preswylio biometrig AEE gwreiddiol i fynd i mewn i wlad eich aelod o deulu'r UE, AEE neu'r Swistir mwyach - bydd angen i chi wirio a oes angen fisa arnoch.
Cardiau preswylio biometrig
Dogfen maint cerdyn credyd yw cerdyn preswyl biometrig. Bydd ganddo’r teitl ‘cerdyn preswylio’.
Os oes gennych gerdyn preswylio biometrig
Os oes gennych drwydded i aros yn y DU am reswm nad yw'n gysylltiedig â'r UE neu AEE, er enghraifft fel myfyriwr neu weithiwr medrus, gallwch barhau i ddefnyddio eich trwydded i ddod i mewn i'r DU.
Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog, gallwch gyfnewid eich trwydded am gerdyn preswylio biometrig Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar GOV.UK.
Efallai y byddwch am gyfnewid eich trwydded am gerdyn preswylio:
os nad yw eich trwydded wreiddiol yn dangos bod gennych 'ganiatâd amhenodol i aros' neu 'setliad'
os yw eich trwydded wreiddiol yn dweud nad oes gennych 'hawl i arian cyhoeddus'
os yw eich trwydded wreiddiol ar fin dod i ben
Bydd cerdyn preswylio biometrig Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn ei gwneud yn haws i chi ddod i’r DU pan fyddwch yn teithio. Os oes gennych statws preswylydd sefydlog, bydd hefyd yn dangos bod gennych hawl i hawlio budd-daliadau.
Trwyddedau preswylio biometrig
Dogfen maint cerdyn credyd yw trwydded preswylio fiometrig. Bydd ganddo’r teitl ‘trwydded preswylio’.
Profi eich hawl i hawlio budd-daliadau
Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar a oes gennych statws preswylydd sefydlog neu statws cyn-sefydlog.
Os oes gennych statws preswylydd sefydlog
Mae gennych yr un hawl i hawlio budd-daliadau â dinasyddion y DU.
Pan fyddwch yn mynd am gyfweliad yn y Ganolfan Waith bydd angen i chi brofi bod gennych statws preswylydd sefydlog. Gallwch chi wneud hynny drwy un o'r canlynol:
argraffu copi o'ch llythyr penderfyniad statws preswylydd sefydlog
rhoi cod rhannu i'r Ganolfan Waith er mwyn iddi allu gweld eich statws preswylydd sefydlog ar-lein - gallwch gael cod rhannu ar GOV.UK
Os bydd y Ganolfan Waith yn gofyn i chi am fwy o dystiolaeth neu'n dweud na all wirio eich statws preswylydd sefydlog, siaradwch â chynghorydd.
Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog
Does gennych chi ddim hawl i hawlio budd-daliadau yn awtomatig. Rhaid i chi ddangos bod gennych ‘hawl i breswylio’. Efallai bod gennych hawl i breswylio am wahanol resymau - er enghraifft, oherwydd pethau fel eich gwaith neu eich teulu. Edrychwch i weld a oes gennych hawl i breswylio.
Pan fyddwch yn mynd am gyfweliad yn y Ganolfan Waith bydd angen i chi brofi eich statws cyn-sefydlog a'ch hawl i breswylio.
Gallwch brofi bod gennych statws preswylydd cyn-sefydlog drwy naill ai:
argraffu copi o'ch llythyr penderfyniad statws preswylydd cyn-sefydlog
rhoi cod rhannu i'r Ganolfan Waith er mwyn iddi allu gweld eich statws preswylydd cyn-sefydlog ar-lein - gallwch gael cod rhannu ar GOV.UK
Bydd angen i chi hefyd roi tystiolaeth i'r Ganolfan Waith bod gennych hawl i breswylio. Os ydych chi'n gweithio, efallai mai eich slipiau cyflog a'ch contract cyflogaeth fydd eich tystiolaeth.
Os bydd y Ganolfan Waith yn dweud na all wirio eich statws preswylydd cyn-sefydlog, siaradwch â chynghorydd.
Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn am brawf o'ch statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog drwy ychwanegu neges at adran dyddlyfr eich cyfrif ar-lein. Dylech edrych ar eich dyddlyfr yn rheolaidd i wneud yn siŵr nad ydych yn colli unrhyw negeseuon.
Gallwch roi eich cod rhannu i’r Adran Gwaith a Phensiynau fel tystiolaeth - gallwch gael cod rhannu ar GOV.UK.
Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn am brawf o'ch statws, rhaid i chi ei roi iddi o fewn 1 mis. Mae’n bosibl y bydd eich taliadau’n dod i ben os byddwch chi’n methu’r dyddiad cau o 1 mis.
Os bydd eich taliadau'n cael eu stopio a chithau'n dal i beidio â rhoi prawf o'ch statws i'r Adran Gwaith a Phensiynau, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cais arall am Gredyd Cynhwysol.
Cadw eich statws yn gyfredol
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich cyfrif yn gyfredol
Os nad ydych chi'n cadw manylion eich cyfrif yn gyfredol, efallai na chewch chi fynd i'r DU.
Bydd angen i chi ddiweddaru eich statws ar-lein:
os byddwch yn adnewyddu neu'n disodli'r ddogfen adnabod yr oeddech yn arfer ei defnyddio i wneud cais - er enghraifft, os bydd eich pasbort yn dod i ben
os byddwch yn newid eich enw - er enghraifft, os byddwch yn priodi
os byddwch yn newid eich cyfeiriad, eich rhif ffôn neu'ch cyfeiriad e-bost - mae angen i'ch manylion cyswllt fod yn gyfredol er mwyn i chi allu gweld neu rannu eich statws
os ydych chi am newid eich dogfen adnabod neu ychwanegu un arall
Efallai y byddwch am ychwanegu dogfen adnabod arall er mwyn i chi allu ei defnyddio i deithio - er enghraifft, os gwnaethoch gais gan ddefnyddio eich cerdyn adnabod cenedlaethol ond eich bod am deithio gan ddefnyddio eich pasbort.
Gallwch ychwanegu neu newid eich dogfen adnabod gan ddefnyddio eich cyfrif Fisâu a Mewnfudo y DU ar-lein. Efallai y gofynnir i chi anfon eich pasbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol i'r Swyddfa Gartref.
Bydd yn cymryd nifer o wythnosau cyn y gallwch fewngofnodi gyda manylion eich dogfen adnabod newydd - gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw manylion eich hen un tan hynny.
Pan fyddwch yn ychwanegu dogfen adnabod newydd at eich statws ar-lein, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio'r ddogfen adnabod honno yn y dyfodol.
Peidiwch â phoeni os na allwch chi weld eich hen ddogfen adnabod ar eich cyfrif. Mae’n dal yno, ond efallai mai dim ond yr un mwyaf diweddar rydych chi wedi’i ychwanegu y bydd y system yn ei ddangos.
Gallwch ddiweddaru eich statws ar-lein ar GOV.UK.
Os na chewch gadarnhad ar ôl i chi ddiweddaru eich statws ar-lein, neu os ydych chi wedi bod yn aros mwy na 4 wythnos, cysylltwch â Chanolfan Datrys y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Newid o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog
Gallwch wneud cais i newid o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog pan fyddwch yn gymwys. Cael gwybod sut i newid i statws preswylydd sefydlog.
Os na allwch gael mynediad at eich statws ar-lein
Efallai na fyddwch chi’n gallu cael gafael ar eich statws ar-lein:
os byddwch yn methu cael gafael ar y cyfeiriad e-bost neu’r rhif ffôn roeddech chi wedi’i ddefnyddio i sefydlu’r cyfrif mwyach
os byddwch wedi newid y pasbort neu'r ddogfen adnabod rydych chi'n ei defnyddio yn eich cyfrif
Gallwch gysylltu â Chanolfan Penderfyniadau’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a byddan nhw’n gallu adfer eich cyfrif a rhannu eich statws ar eich rhan.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 01 Gorffennaf 2021