Newid o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae’n para am 5 mlynedd. Ar ddiwedd y 5 mlynedd, bydd fel arfer yn ymestyn 2 flynedd arall. Does dim rhaid i chi wneud cais am yr estyniad - bydd yn digwydd yn awtomatig.

Bydd y Swyddfa Gartref yn anfon e-bost atoch i gadarnhau'r estyniad - bydd hyn yn digwydd hyd at 2 fis cyn i'ch statws cyn-sefydlog ddod i ben.

Dylech wneud cais o hyd i newid i statws preswylydd sefydlog ar ôl i chi fod yn y DU am 5 mlynedd. Mae'r estyniad i'ch statws cyn-sefydlog yn golygu bod gennych fwy o amser i newid - mae'n well gwneud cais cyn gynted ag y gallwch.

Os ydych chi wedi treulio amser yn byw yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, mae hyn yn cyfrif fel amser yn byw yn y DU.

Efallai na fyddwch yn gallu cael statws preswylydd sefydlog ar ôl 5 mlynedd:

  • os ydych chi wedi treulio mwy na 6 mis y tu allan i'r DU mewn unrhyw gyfnod o 12 mis

  • os cawsoch statws preswylydd cyn-sefydlog fel aelod o deulu dinesydd o'r UE, AEE neu'r Swistir a bod eich sefyllfa chi neu sefyllfa aelod o'ch teulu wedi newid

Gwirio eich bod chi wedi byw yn y DU ers 5 mlynedd

Mae'r diwrnod y bydd eich 5 mlynedd yn dechrau yn dibynnu ar p'un ai a ydych chi'n un o ddinasyddion yr UE, AEE neu'r Swistir ai peidio.

Os ydych chi'n ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir

Mae eich 5 mlynedd yn dechrau o’r diwrnod y gwnaethoch ddechrau byw yn y DU, nid y diwrnod y cawsoch statws preswylydd cyn-sefydlog. Gallwch wneud cais am statws preswylydd sefydlog cyn i'ch statws cyn-sefydlog ddod i ben - mae'n syniad da gwneud hyn cyn gynted ag y byddwch wedi byw yn y DU am 5 mlynedd. Does dim rhaid i chi aros nes bod eich statws cyn-sefydlog ar fin dod i ben i wneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Os ydych chi'n ddinesydd gwlad y tu allan i'r UE, AEE neu'r Swistir

Mae'r rheolau ynghylch pryd mae eich 5 mlynedd o breswylio'n dechrau yn wahanol yn dibynnu ar a ydych chi'n aelod agos o'r teulu neu'n aelod o'r teulu estynedig. 

Rydych chi’n aelod agos o’r teulu:

  • os ydych chi’n ŵr, gwraig neu bartner sifil

  • os ydych chi'n nain neu'n daid neu'n hen nain neu hen daid dibynnol

  • os ydych chi’n blentyn neu'n ŵyr/wyres o dan 21 oed

  • os ydych chi’n blentyn dibynnol 21 oed neu hŷn

Mae eich 5 mlynedd yn dechrau naill ai o'r diwrnod y daethoch i'r DU neu'r diwrnod y daethoch yn aelod agos o deulu dinesydd o'r UE, AEE neu'r Swistir, pa un bynnag oedd y diweddaraf. Er enghraifft, petaech chi’n dod i’r DU ac yna’n priodi dinesydd o’r Almaen, mae eich 5 mlynedd yn dechrau ar y diwrnod y gwnaethoch briodi. Does dim ots os nad oedd gan ddinesydd yr UE, AEE na’r Swistir statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog ar y pryd.

Rydych chi’n aelod estynedig o’r teulu:

  • os ydych chi'n bartner hirdymor nad yw'n briod neu mewn partneriaeth sifil

  • os ydych chi’n frawd neu chwaer

  • os ydych hi’n fodryb neu ewythr

  • os ydych hi’n nith neu nai

  • os ydych chi’n gefnder neu gyfnither

Os oedd gennych drwydded teulu pan wnaethoch gyrraedd y DU, mae eich 5 mlynedd yn dechrau ar y diwrnod hwnnw. Os nad oedd gennych un o'r rhain, mae eich 5 mlynedd yn dechrau ar y diwrnod y cawsoch gerdyn preswylio.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog a statws preswylydd sefydlog fel aelod o'r teulu.

Gallwch wneud cais am statws preswylydd sefydlog a chyn-sefydlog fel aelod o’r teulu ar GOV.UK.

Os na allwch newid i statws preswylydd sefydlog ar ôl 5 mlynedd

Gallwch un ai:

  • wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn ystod yr estyniad 2 flynedd i'ch statws cyn-sefydlog

  • gwneud cais i gael statws preswylydd cyn-sefydlog am 5 mlynedd arall

Gwneud cais am statws preswylydd sefydlog yn ystod yr estyniad 2 flynedd

Gallwch ychwanegu’r amser o’ch cyfnod gwreiddiol o statws preswylydd cyn-sefydlog at gyfnod yr estyniad. Yna gallwch wneud cais am statws preswylydd sefydlog ar ôl i chi fod yn y DU am 5 mlynedd yn olynol.

Dylech wneud yn siŵr bod statws aelodau eich teulu wedi cael ei ymestyn hefyd. Os nad yw wedi cael ei ymestyn, cysylltwch â Chanolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Canolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Rhif ffôn: 0300 123 7379

O’r tu allan i’r DU: +44 203 080 0010 

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8.30pm

Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9.30am i 4.30pm

Gallwch ofyn cwestiwn am y cynllun ar GOV.UK - byddant yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Gwneud cais i gael statws preswylydd cyn-sefydlog am 5 mlynedd arall

Dylech wneud cais cyn i’ch statws cyn-sefydlog ddod i ben.

Fel arfer, gallwch adio’r amser at ei gilydd o’r ddau gyfnod statws cyn-sefydlog. Yna gallwch wneud cais am statws preswylydd sefydlog ar ôl i chi fod yn y DU am 5 mlynedd yn olynol.

Efallai y gallwch gael statws preswylydd cyn-sefydlog eto drwy wneud cais fel aelod o’r teulu. Gallwch wneud hyn os oes gennych aelod o'r teulu o'r UE, AEE neu'r Swistir sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog. Mae'n rhaid iddyn nhw fod wedi byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.

Gallwch wneud cais fel aelod o’r teulu p’un ai a oedd eich cyfnod cyntaf o statws cyn-sefydlog fel aelod o’r teulu ai peidio. Rhagor o wybodaeth am wneud cais fel aelod o'r teulu.

Os na allwch wneud cais fel aelod o'r teulu, efallai y gallwch gael statws preswylydd cyn-sefydlog eto os yw'r ddau o'r canlynol yn berthnasol:

  • roedd yr amser a dreuliwyd y tu allan i’r DU cyn 31 Rhagfyr 2020

  • roeddech chi’n ôl yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020

Os ydych chi wedi treulio dros 6 mis y tu allan i’r DU

Efallai na fyddwch yn gallu cael statws preswylydd sefydlog os gwnaethoch dreulio mwy na 6 mis y tu allan i’r DU mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Efallai y bydd rhai eithriadau i hyn. Efallai y byddwch yn dal i allu cael statws preswylydd sefydlog os oeddech y tu allan i'r DU am hyd at 12 mis am y canlynol:

  • ‘rheswm pwysig’ – er enghraifft, beichiogrwydd neu astudio

  • unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws – mae hyn yn cynnwys gwarchod, cyfrifoldebau gofalu a dilyn canllawiau i beidio â theithio

Os oeddech chi allan o’r DU oherwydd y coronafeirws

Os oeddech chi allan o’r DU am fwy na 12 mis yn olynol oherwydd y coronafeirws, ni fydd hyn yn torri eich parhad preswylio. Mae 12 mis cyntaf eich amser allan o’r DU yn cyfrif tuag at y 5 mlynedd y bydd ei hangen arnoch i gael statws preswylydd sefydlog. Dydy gweddill y cyfnod ar ôl 12 mis ddim yn cyfrif.

Os oeddech chi allan o'r DU am 2 gyfnod o rhwng 6 a 12 mis, ni fydd hyn yn torri eich parhad preswylio ar yr amod:

  • Roedd 1 cyfnod am reswm pwysig

  • Roedd 1 cyfnod am reswm yn ymwneud â’r coronafeirws

Mae’r holl gyfnod cyntaf o’ch amser allan o’r DU yn cyfrif tuag at y 5 mlynedd y bydd ei hangen arnoch i gael statws preswylydd sefydlog. Mae 6 mis cyntaf yr ail gyfnod hefyd yn cyfrif. Dydy gweddill yr ail gyfnod ar ôl 6 mis ddim yn cyfrif.

Os oeddech chi allan o’r DU oherwydd gwasanaeth milwrol

Os oeddech chi allan o’r DU am fwy na 12 mis yn olynol oherwydd gwasanaeth milwrol, ni fydd hyn yn torri eich parhad preswylio.

Enghraifft

Mae Marta yn ddinesydd Pwylaidd sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog. Symudodd i’r DU ym mis Ionawr 2019.

Aeth Marta i Wlad Pwyl:

  • am 7 mis rhwng mis Chwefror a mis Medi 2020 - ni allai ddod yn ôl yn gynharach oherwydd y coronafeirws

  • am 8 mis rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Gorffennaf 2021 – rhoddodd enedigaeth a bu’n rhaid iddi aros i wella ar ôl cymhlethdodau

Mae gan Marta barhad o ran preswylio yn y DU o hyd. Mae hyn yn golygu y bydd hi’n gallu gwneud cais am statws preswylydd sefydlog pan fydd hi wedi bod yn y DU am 5 mlynedd.

Mae’r cyfnod cyntaf tra’r oedd Marta allan o’r DU yn cyfrif tuag at y 5 mlynedd y bydd eu hangen arni i gael statws preswylydd sefydlog. Dim ond 6 mis cyntaf yr ail gyfnod sy’n cyfrif tuag at y 5 mlynedd. Mae hyn yn golygu bod y 5 mlynedd wedi’u gohirio am 2 fis rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2021.

Bydd Marta yn gallu gwneud cais am statws preswylydd sefydlog ym mis Mawrth 2024 – 5 mlynedd a 2 fis ar ôl iddi symud i’r DU.

Efallai y bydd rhai pobl sydd wedi ymddeol neu wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio yn gallu cael statws preswylydd sefydlog os ydynt wedi byw yn y DU am lai na 5 mlynedd. Gallwch gael gwybod am wneud cais os ydych wedi ymddeol neu wedi gorfod rhoi'r gorau i weithio.

Os cawsoch statws cyn-sefydlog fel aelod o’r teulu a bod eich sefyllfa wedi newid

Os newidiodd eich perthynas ag aelod o’ch teulu cyn i chi gyrraedd 5 mlynedd, efallai na fyddwch yn gallu cael statws preswylydd sefydlog. Mae’n dibynnu beth sydd wedi newid.

Os yw eich perthynas â’ch partner wedi dod i ben

Os cawsoch statws cyn-sefydlog fel partner a bod eich perthynas wedi dod i ben, ni allwch gael statws preswylydd sefydlog oni bai fod eithriad yn berthnasol.

Os nad oeddech erioed wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil, bydd eich perthynas yn dod i ben pan fyddwch yn gwahanu.

Os oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil, nid yw gwahanu oddi wrth eich partner yn dod â'ch perthynas i ben. Dim ond ar ôl i chi ysgaru neu ddirwyn eich partneriaeth sifil i ben y bydd eich perthynas yn dod i ben.

Mae eithriadau os:

  • oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil am o leiaf 3 blynedd

  • oes gennych chi a'ch cynbartner blentyn

  • daeth eich perthynas i ben oherwydd cam-drin domestig

Os oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil am o leiaf 3 blynedd

Os ydych wedi ysgaru neu wedi diddymu eich partneriaeth sifil, gallwch ddal i gael statws preswylydd sefydlog ar ôl 5 mlynedd os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • roeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil am o leiaf 3 blynedd

  • roeddech wedi treulio o leiaf blwyddyn o’ch priodas neu bartneriaeth sifil yn byw yn y DU

  • roedd eich partner yn y DU pan ddechreuoch chi’r achos ysgaru neu ddiddymu

Os oes gennych chi a'ch cynbartner blentyn

Gallwch ddal i gael statws sefydlog ar ôl 5 mlynedd os yw eich plentyn o dan 18 oed ac yn byw yn y DU. Rhaid i chi fod yn gyfrifol am eich plentyn neu fod mewn cysylltiad ag ef.

Os daeth eich perthynas i ben oherwydd cam-drin domestig

Gallwch wneud cais i aros yn y DU yn barhaol os daeth eich perthynas i ben oherwydd cam-drin domestig. Gwiriwch beth yw cam-drin domestig.

Gallwch un ai:

  • uwchraddio eich statws cyn-sefydlog i statws sefydlog - dim ond ar ôl i chi fod yn y DU am 5 mlynedd y gallwch wneud hyn

  • gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros

Bydd yn rhaid i chi benderfynu beth sy’n iawn i chi. Os ydych yn cael statws preswylydd sefydlog, gallwch dreulio hyd at 5 mlynedd y tu allan i'r DU heb golli eich statws. Os ydych chi’n cael caniatâd amhenodol i aros, gallwch dreulio hyd at 2 flynedd y tu allan i'r DU heb golli eich statws.

Gwiriwch y rheolau ynghylch gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros os ydych chi wedi profi cam-drin domestig.

Os yw aelod o’ch teulu wedi marw

Os yw aelod o’ch teulu wedi marw, gallwch ddal i gael statws preswylydd sefydlog ar ôl 5 mlynedd:

  • os oeddech wedi byw yn y DU fel aelod o’u teulu am o leiaf blwyddyn cyn iddo farw

  • os ydych chi dan 21 oed a'ch bod mewn addysg

Os nad yw’r rhain yn berthnasol, ni allwch gael statws preswylydd sefydlog.

Os yw aelod o’ch teulu wedi gadael y DU

Os yw aelod o'ch teulu wedi gadael y DU, dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol y gallwch gael statws preswylydd sefydlog ar ôl 5 mlynedd:

  • os ydych chi dan 21 oed a'ch bod mewn addysg

  • os ydych chi'n gyfrifol am blentyn dan 21 oed sydd mewn addysg

Os nad yw’r rhain yn berthnasol, ni allwch gael statws preswylydd sefydlog.

Os ydych chi wedi rhoi’r gorau i fod yn ddibynnol ar aelod o’ch teulu

Gallwch ddal i gael statws preswylydd sefydlog ar ôl 5 mlynedd os cawsoch statws preswylydd cyn-sefydlog fel:

  • plentyn dibynnol dan 21 oed

  • rhiant dibynnol

Mae'r rheolau'n wahanol os cawsoch statws cyn-sefydlog fel math arall o berthynas dibynnol - er enghraifft fel plentyn dibynnol 21 oed neu hŷn. Dim ond os ydych chi’n dal yn ddibynnol arnyn nhw y gallwch chi gael statws preswylydd sefydlog – neu os oeddech chi’n ddibynnol ar 31 Rhagfyr 2020. Os nad ydych chi'n meddwl y gallwch chi ddangos hyn, gofynnwch am help gan gynghorydd mewnfudo arbenigol.

Os yw'r aelod o'ch teulu yn bartner i ddinesydd yr AEE neu'r Swistir

Os yw sefyllfa’r partner wedi newid ac nad yw’n gallu newid i statws sefydlog, efallai na fyddwch yn gallu cael statws preswylydd sefydlog chwaith. Gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol.

Gwneud cais i newid i statws sefydlog

I wneud cais i newid i statws preswylydd sefydlog, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich dogfen adnabod - eich pasbort, cerdyn adnabod cenedlaethol, neu gerdyn neu drwydded preswylio biometrig

  • rhif ffôn symudol

  • cyfeiriad e-bost

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • prawf o'ch perthynas os ydych chi'n gwneud cais am blentyn neu aelod arall o'r teulu - dysgwch pa dystiolaeth y gallwch ei defnyddio

Efallai y bydd angen i chi ddarparu prawf o ba mor hir rydych chi wedi byw yn y DU os na all y Swyddfa Gartref ddilysu hyn o'ch Rhif Yswiriant Gwladol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am baratoi i wneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Gweld pa ddogfen adnabod i'w defnyddio

Os ydych chi'n ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir, eich dogfen adnabod yw eich pasbort neu'ch cerdyn adnabod cenedlaethol.

Os ydych chi'n dod o'r tu allan i'r UE, AEE neu'r Swistir, eich dogfen adnabod yw eich pasbort, 'cerdyn preswylio biometrig' neu 'drwydded preswylio fiometrig'.

Dylech ddefnyddio’r un ddogfen adnabod a ddefnyddiwyd gennych wrth wneud cais am statws cyn-sefydlog. Os yw eich dogfen adnabod wedi newid ers hynny, bydd angen i chi ddiweddaru eich cyfrif Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) gyda manylion eich dogfen adnabod newydd. Dylech wneud hyn cyn gwneud cais i newid i statws preswylydd sefydlog.

Gallwch ddiweddaru eich cyfrif UKVI ar GOV.UK.

Gallwch wneud cais i newid i statws preswylydd sefydlog ar GOV.UK.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau eich statws drwy e-bost, a bydd eich statws yn newid yn eich cyfrif ar-lein.

Beth i'w wneud os bydd eich cais yn methu

Os nad ydych chi’n cael statws preswylydd sefydlog a’ch bod yn meddwl bod camgymeriad wedi’i wneud, efallai y gallwch wneud cais am adolygiad gweinyddol ar GOV.UK. Mae hyn yn costio £80, a byddwch yn cael yr arian hwn yn ôl os bydd y penderfyniad yn cael ei newid oherwydd camgymeriad.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 26 Gorffennaf 2021