Paratoi i wneud cais am statws preswylydd sefydlog a chyn-sefydlog

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Y dyddiad cau i’r rhan fwyaf o bobl wneud cais am statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE oedd 30 Mehefin 2021. 

Dim ond ar ôl y dyddiad cau hwn y gallwch wneud cais i’r cynllun:

Does dim rhaid i chi fod yn y DU i wneud cais.

Os ydych chi'n cael trafferth gwneud cais i'r cynllun, siaradwch â chynghorydd.

Efallai y bydd aelodau o'ch teulu hefyd yn gallu gwneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - hyd yn oed os nad ydynt yn dod o'r UE, AEE neu'r Swistir.

Efallai y byddant yn gallu gwneud cais os yw’r canlynol yn wir:

  • os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog

  • dechreuodd eich perthynas â nhw erbyn 31 Rhagfyr 2020 – oni bai eich bod yn ddinesydd y Swistir

Os yw aelod o’ch teulu yn blentyn a aned ar ôl 31 Rhagfyr 2020, gallwch hefyd wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar ei gyfer.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddod â theulu i’r DU.

Mae'r AEE yn cynnwys gwledydd yr UE a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.

Casglwch bopeth sydd ei angen arnoch i wneud cais

Mae angen y canlynol arnoch:

Penderfynu pa ddogfen adnabod i’w defnyddio

Os yw eich dogfen adnabod wedi dod i ben, rhaid i chi ei hadnewyddu cyn gwneud cais.

Os nad oes gennych chi ddogfen adnabod neu os nad ydych chi’n gallu cael gafael arni, dylech gysylltu a'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os ydych chi'n dod o'r UE, AEE neu'r Swistir

Gallwch ddefnyddio naill ai eich pasbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol. 

Mae’n haws gwneud cais os byddwch yn dewis dogfen adnabod sydd â sglodyn biometrig. Mae hyn yn golygu y gallwch ei sganio a does dim rhaid i chi ei hanfon at y Swyddfa Gartref. 

Os oes ganddo sglodyn, bydd y symbol hwn arno:

Biometric chip image

Os ydych chi'n dod o'r tu allan i'r UE, AEE neu'r Swistir

Mae'n haws gwneud cais os ydych yn defnyddio cerdyn preswyl gyda sglodyn biometrig - os oes gennych un. Gelwir hyn yn 'gerdyn preswyl biometrig'. 

Mae gennych gerdyn preswylio biometrig os yw'n dweud 'Cerdyn Preswylio' ar y brig a 'Hawl i Breswylio yn yr UE' ar y cefn. Mae’r symbol hwn arno hefyd:

Biometric chip image
Os oes gennych chi gerdyn preswylio biometrig

Gallwch sganio eich cerdyn preswylio biometrig pan fyddwch yn gwneud cais. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi anfon eich pasport i'r Swyddfa Gartref. Hefyd, does dim rhaid i chi brofi eich perthynas â'ch aelod o'r teulu o'r UE, AEE neu'r Swistir.  

Os nad oes gennych chi gerdyn preswylio biometrig

Gallwch ddefnyddio eich pasbort neu gerdyn preswylio gyda sglodyn biometrig. Rhaid i chi eu hanfon i’r Swyddfa Gartref. 

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'ch perthynas ag aelod o'ch teulu o'r UE, AEE neu'r Swistir. 

Mae angen i chi hefyd gael sganio eich olion bysedd a thynnu llun. Gelwir hyn yn apwyntiad biometrig. Cewch wybod sut i wneud hyn ar ddiwedd y ffurflen gais ar-lein.

Profi pa mor hir rydych chi wedi byw yn y DU

Fel arfer, bydd angen i chi brofi am ba mor hir rydych chi wedi byw yn y DU pan fyddwch chi’n gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog.

Y ffordd hawsaf o brofi hyn yw rhoi eich rhif Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn gwneud cais. Os na fyddwch yn rhoi eich rhif Yswiriant Gwladol, rhaid i chi ddarparu dogfennau. 

Os ydych chi wedi cael misoedd pan nad oeddech chi’n gweithio neu’n byw y tu allan i’r DU, efallai y bydd bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Efallai y bydd angen i chi ddarparu dogfennau i ymdrin â’r bylchau hynny.

Nid oes angen i chi brofi am ba hyd yr ydych wedi byw yn y DU os oes gennych 'ddogfen breswylio barhaol', 'caniatâd amhenodol i aros' neu 'caniatâd amhenodol i ddod i mewn'.

Os yw eich plentyn dan 21 oed, efallai y bydd yn rhaid i chi brofi ei fod yn byw yn y DU. Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gyfer eich teulu.

Dod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol

Gallwch ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol ar slip cyflog neu lythyr gan Gyllid a Thollau EM. Ffoniwch y llinell gymorth Yswiriant Gwladol os na allwch ddod o hyd iddo.

Llinell Gymorth Yswiriant Gwladol Cyllid a Thollau EM ar gyfer gweithwyr ac unigolion

Rhif ffôn: 0300 200 3500

Ffôn testun: 0300 200 3519

Ffôn o’r tu allan i’r DU: +44 191 203 7010

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm

Dydd Sadwrn, 8am i 4pm

Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Gwiriwch faint o dystiolaeth sydd ei hangen arnoch

Gallwch gynnwys unrhyw amser rydych chi wedi byw yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yn ystod eich cyfnod yn byw yn y DU.

Os ydych chi’n gwneud cais hwyr am statws preswylydd cyn-sefydlog, dim ond y canlynol sydd angen i chi eu dangos:

  • eich bod wedi byw yn y DU am o leiaf 1 diwrnod ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny

  • nad ydych wedi gadael y DU am fwy na 6 mis ers 31 Rhagfyr 2020

I gael statws preswylydd sefydlog, dim ond am 6 mis allan o bob 12 mis am 5 mlynedd yn olynol y bydd angen tystiolaeth arnoch. Does dim rhaid iddo fod y 5 mlynedd diwethaf. Gallwch ddarparu tystiolaeth ar gyfer cyfnod gwahanol o 5 mlynedd - ar yr amod nad ydych wedi byw y tu allan i'r DU am 5 mlynedd yn olynol ers hynny.

Efallai y gallwch gael statws preswylydd sefydlog hyd yn oed os ydych chi wedi byw y tu allan i'r DU am fwy na 6 mis o unrhyw 12 mis, oherwydd roeddech chi:

  • yn rhoi genedigaeth, yn sâl iawn, yn astudio, hyfforddi neu wedi cael eich anfon i weithio dramor gan eich cyflogwr - am gyfnod o hyd at 12 mis

  • ar wasanaeth milwrol gorfodol - am unrhyw gyfnod

  • yn gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU neu'n aelod o deulu rhywun yn y lluoedd arfog

  • gweithio i lywodraethau’r DU, yr Alban neu Gymru, gweithrediaeth Gogledd Iwerddon neu’r Cyngor Prydeinig

  • yn aelod o deulu rhywun sy’n gweithio i lywodraethau’r DU, yr Alban neu Gymru, gweithrediaeth Gogledd Iwerddon neu’r Cyngor Prydeinig

Cysylltwch a'ch Cyngor ar Bopeth agosaf i gael cyngor ar yr hyn y gallwch ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer y cyfnodau hyn y tu allan i’r DU.

Gweld pa ddogfennau y gallwch eu defnyddio

Rhaid i bob dogfen gynnwys eich enw a dyddiad arnynt.

Mae'n well defnyddio dogfennau sy'n cwmpasu cyfnod hwy o amser. Dim ond 10 dogfen y gallwch eu llwytho i fyny pan fyddwch yn gwneud cais. Bydd y Swyddfa Gartref yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o ddogfennau arnynt.

Os ydych chi wedi cael bylchau mewn cyflogaeth

Os ydych chi wedi cael bylchau yn eich cyflogaeth, efallai na fydd gennych gofnod treth a budd-daliadau llawn. Yn ystod y cais, byddwch yn cael gwybod a oes angen i chi lwytho dogfennau i fyny i brofi eich bod wedi bod yn byw yn y DU yn ystod y cyfnodau pan nad oeddech yn gweithio.

Defnyddiwch dystiolaeth fel:

  • biliau'r dreth gyngor

  • cyfriflen morgais ar gyfer tŷ neu fflat

  • eich cytundeb tenantiaeth a thystiolaeth eich bod wedi gwneud taliadau - er enghraifft, cyfriflen banc neu dderbynneb

  • cyfriflenni banc blynyddol neu grynodebau cyfrifon

  • slipiau cyflog

  • biliau dŵr, nwy neu drydan

  • biliau eraill ar gyfer eich cartref a thystiolaeth eich bod wedi'u talu - er enghraifft ar gyfer atgyweiriadau, yswiriant cartref neu fynd ag anifail anwes at y milfeddyg

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os ydych chi'n hunangyflogedig neu'n rhedeg busnes

Os nad oes gennych gofnod treth a budd-daliadau llawn, defnyddiwch dystiolaeth fel:

  • cyfrifon busnes blynyddol

  • biliau'r dreth gyngor

  • cyfriflen morgais ar gyfer tŷ neu fflat

  • eich cytundeb tenantiaeth a thystiolaeth eich bod wedi gwneud taliadau - er enghraifft, cyfriflen banc neu dderbynneb

  • cyfriflenni banc blynyddol neu grynodebau cyfrifon

  • anfonebau am waith rydych wedi'i wneud yn y DU a thystiolaeth eich bod wedi talu - er enghraifft cyfriflen banc

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os nad ydych yn gweithio a bod eich biliau yn enw rhywun arall

Os nad oes gennych gofnod treth a budd-daliadau llawn a bod rhywun arall yn talu'r biliau yn eich cartref, defnyddiwch dystiolaeth fel:

  • llythyrau neu gardiau apwyntiad gan eich meddyg teulu, ysbyty neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall - er enghraifft ffisiotherapydd

  • cyfriflenni banc blynyddol neu grynodebau cyfrifon

  • cyfriflenni banc misol yn dangos taliadau a dderbyniwyd neu wariant yn y DU

  • tocyn awyren, trên, fferi neu long wedi’i ddefnyddio sy'n dangos y dyddiad y daethoch i'r DU

  • stamp yn eich pasbort sy'n dangos eich bod wedi dod i'r DU

  • biliau ffôn symudol yn eich enw gyda’ch cyfeiriad yn y DU

  • biliau eraill ar gyfer eich cartref a thystiolaeth eich bod wedi'u talu - er enghraifft ar gyfer atgyweiriadau, yswiriant cartref neu fynd ag anifail anwes at y milfeddyg

Os na allwch chi gael unrhyw dystiolaeth, siaradwch â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. Gallwch ofyn i'r ymgynghorydd roi llythyr i chi yn profi eich bod wedi cael apwyntiad.

Gallwch hefyd ofyn i adrannau'r llywodraeth neu elusennau am lythyr yn dangos eich bod wedi cael apwyntiad neu eu bod wedi'ch helpu.

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os ydych yn byw mewn cartref gofal

Os ydych yn byw mewn cartref gofal, defnyddiwch dystiolaeth fel:

  • llythyr gan eich cartref gofal cofrestredig yn dangos eich bod yn byw yno

  • cyfriflenni banc blynyddol neu grynodebau cyfrifon

  • datganiadau pensiwn

  • cyfriflenni banc misol yn dangos y taliadau a gawsoch neu'r arian rydych chi wedi’i wario yn y DU

  • llythyrau neu gardiau apwyntiad gan eich meddyg teulu, ysbyty neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall - er enghraifft ffisiotherapydd

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os ydych yn byw mewn tŷ a rennir

Os ydych chi’n byw mewn tŷ a rennir, defnyddiwch dystiolaeth fel:

  • biliau ffôn symudol yn eich enw gyda’ch cyfeiriad yn y DU

  • llythyrau neu gardiau apwyntiad gan eich meddyg teulu, ysbyty neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall - er enghraifft ffisiotherapydd

  • cyfriflenni banc blynyddol neu grynodebau cyfrifon

  • cyfriflenni banc misol yn dangos taliadau a dderbyniwyd neu wariant yn y DU

  • tocyn awyren, trên, fferi neu long wedi’i ddefnyddio sy'n dangos y dyddiad y daethoch i'r DU

  • stamp yn eich pasbort sy'n dangos eich bod wedi dod i'r DU

Os na allwch chi gael unrhyw dystiolaeth, siaradwch â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. Gallwch ofyn i'r ymgynghorydd roi llythyr i chi yn profi eich bod wedi cael apwyntiad.

Gallwch hefyd ofyn i adrannau'r llywodraeth neu elusennau am lythyr yn dangos eich bod wedi cael apwyntiad neu eu bod wedi'ch helpu.

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os ydych chi eisiau profi eich bod wedi byw yn y DU am 5 mlynedd wahanol

Mae’n well defnyddio tystiolaeth sy’n cynnwys cyfnodau hwy o amser. Defnyddiwch dystiolaeth fel:

  • dogfennau treth - er enghraifft eich P60 neu P45

  • llythyr gan eich cyflogwr yn cadarnhau eich cyflogaeth

  • datganiadau pensiwn yn dangos cyfraniadau pensiwn eich cyflogwr

  • biliau'r dreth gyngor

  • cyfriflen morgais ar gyfer tŷ neu fflat

  • eich cytundeb tenantiaeth a thystiolaeth eich bod wedi gwneud taliadau - er enghraifft, cyfriflen banc neu dderbynneb

  • cyfriflenni banc blynyddol neu grynodebau cyfrifon

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os ydych chi eisiau profi eich bod wedi cyrraedd y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020

Gallwch ddefnyddio tystiolaeth fel:

  • tocyn cwmni hedfan, trên, fferi neu long wedi'i ddefnyddio sy'n dangos y dyddiad y daethoch i'r DU

  • stamp yn eich pasbort sy’n dangos eich bod wedi cyrraedd y DU

  • cyfriflen banc misol yn dangos yr arian yr ydych wedi'i wario neu ei dderbyn yn y DU

  • bil ffôn symudol yn eich enw gyda’ch cyfeiriad yn y DU

  • bil treth gyngor, dŵr, nwy neu drydan

  • llythyr neu gerdyn apwyntiad gan eich meddyg teulu, ysbyty neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall - er enghraifft, ffisiotherapydd

Os na allwch chi gael unrhyw dystiolaeth, siaradwch â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. Gallwch ofyn i'r ymgynghorydd roi llythyr i chi yn profi eich bod wedi cael apwyntiad.

Gallwch hefyd ofyn i adrannau'r llywodraeth neu elusennau am lythyr yn dangos eich bod wedi cael apwyntiad neu eu bod wedi'ch helpu.

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os oes gennych chi 'ddogfen preswylio'n barhaol'

Gelwir hon weithiau’n ‘ddogfen sy’n tystio i breswylio’n barhaol’.

Bydd angen i chi roi rhif eich dogfen preswylio'n barhaol pan fyddwch yn gwneud cais.

Does dim angen i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol na darparu dogfennau i ddangos ers faint rydych chi wedi byw yn y DU.

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Os oes gennych 'ganiatâd amhenodol i aros'

Does dim rhaid i chi wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i aros yn y DU ar ôl Brexit. Os byddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi nodi’r dyddiad y cawsoch ganiatâd amhenodol i aros. Efallai y byddwch yn dod o hyd iddo mewn llythyr gan y Swyddfa Gartref neu ar stamp yn eich pasbort.

Rhagor o wybodaeth am aros yn y DU ar ôl Brexit. 

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Os ydych wedi'ch cael yn euog o drosedd neu'n aros am dreial

Pan fyddwch yn gwneud cais i'r cynllun, bydd angen i chi ateb cwestiynau am droseddau yr ydych wedi'ch cael yn euog ohonynt yn y DU neu mewn gwledydd eraill sydd ar eich cofnod troseddol yno. Mae angen i chi hefyd ateb cwestiynau am droseddau rydych chi’n aros i fynd i’r llys ar eu cyfer. Dim ond os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn y bydd angen i chi wneud hyn.

Beth sy’n cyfrif fel trosedd yn y DU

Mae gennych gofnod troseddol os cawsoch eich dyfarnu’n euog o drosedd mewn llys ynadon neu lys y goron yng Nghymru a Lloegr. Os cawsoch eich dyfarnu’n euog o drosedd yn yr Alban, gallai fod wedi bod mewn llys ynadon heddwch, llys siryf neu uchel lys. 

Does dim rhaid i chi ddweud:

  • os aethoch i'r llys am rywbeth nad oedd yn droseddol - gelwir hyn yn fater sifil ac mae'n cynnwys pethau fel problemau dyled a gwrandawiadau teulu

  • os ydych chi wedi cael dirwy parcio neu ddirwy gan gyngor lleol am dorri rheolau traffig - gelwir hyn yn 'hysbysiad tâl cosb'

  • os ydych chi wedi cyflawni trosedd gyrru ac ni chawsoch wŷs gan lys

  • os ydych chi wedi cael rhybudd mewn gorsaf heddlu

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi gofnod troseddol neu os ydych chi'n aros i fynd i'r llys, dylech gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol cyn i chi wneud cais.

Pwysig

Cofnodion troseddol 

Bydd y Swyddfa Gartref yn archwilio cofnodion troseddol y DU a rhai rhyngwladol. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn dweud celwydd am eich cofnod troseddol neu drosedd y cawsoch eich cyhuddo ohoni.

Os ydych chi dan 18 oed

Ni ofynnir cwestiynau i chi am droseddu ond bydd y Swyddfa Gartref yn gwirio cofnodion troseddol yn y DU. Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi gofnod troseddol, dylech gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol cyn i chi wneud cais. 

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 01 Gorffennaf 2021