Gweld a all aelodau eich teulu gael statws cyn-sefydlog neu statws sefydlog

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir sy'n byw yn y DU, gall rhai o'ch teulu hefyd wneud cais i ddod i fyw yn y DU. Gallant wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE:

  • os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog

  • os dechreuodd eich perthynas ag aelod o'ch teulu erbyn 31 Rhagfyr 2020 - oni bai eich bod yn ddinesydd y Swistir

Os yw aelod o’ch teulu yn blentyn a gafodd ei eni ar ôl 31 Rhagfyr 2020, gallwch hefyd wneud cais iddo ddod i fyw yn y DU.

Os daethoch i’r DU ar fisa ar ôl 31 Rhagfyr 2020, ni allwch ddefnyddio Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i ddod â’ch teulu i’r DU. Bydd angen i chi wirio a yw eich fisa yn caniatáu i chi ddod â’ch teulu i’r DU.

Mae'r AEE yn cynnwys gwledydd yr UE a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy hefyd.

Os yw eich partner hirdymor eisoes yn y DU

Gall eich partner wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE fel ‘partner hirdymor’:

  • os nad ydyn nhw'n briod â chi

  • os ydyn nhw wedi bod mewn perthynas hirdymor â chi ers cyn 31 Rhagfyr 2020

Rhaid i’ch partner hirdymor brofi bod ganddo ganiatâd i fod yn y DU i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Gall wneud hyn gan ddefnyddio naill ai cerdyn preswylio neu drwydded teulu.

Os yw eich partner wedi bod yn byw yn y DU ers 31 Rhagfyr 2020, gall hefyd wneud cais os oes ganddo fisa dilys - gallai hyn fod yn fisa teulu, gwaith neu fyfyriwr. Bydd angen i’ch partner wneud cais hwyr i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Dylai eich partner wirio a yw’n gallu gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu breswylydd sefydlog.

Os nad oes gan eich partner gerdyn preswyl, trwydded teulu neu fisa

Bydd angen iddynt adael y DU a gwneud cais am drwydded teulu. Dim ond pan fyddant wedi bod y tu allan i'r DU am 6 mis y gallant wneud cais am drwydded teulu. Edrychwch i weld a all eich partner wneud cais am drwydded teulu.

Mae sut mae eich aelod o’ch teulu yn gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn dibynnu ar o ble mae'n dod a’i statws mewnfudo. Mae’n bwysig holi sut dylai aelod o’ch teulu wneud cais cyn dod i’r DU.

Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig

Mae rhai sefyllfaoedd lle gall aelodau o’ch teulu wneud cais am statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog.

Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig

Os oes gennych aelodau agos o’ch teulu nad ydynt yn ddinasyddion Prydeinig, gallant wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE mewn rhai sefyllfaoedd.

Aelodau agos o’r teulu yw eich:

  • gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner tymor hir

  • rhieni neu neiniau a theidiau dibynnol

  • plant neu wyrion dan 21 oed

  • plant dibynnol dros 21 oed

Dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol y gall aelodau agos o’ch teulu wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE:

  • os ydych chi'n ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir a gafodd ddinasyddiaeth Brydeinig ar ôl i chi ddod i'r DU - gelwir hyn yn 'naturioli'

  • os cawsoch eich geni yng Ngogledd Iwerddon 

Os oeddech chi’n byw gyda nhw yn yr UE, AEE neu’r Swistir tra’r oedd y DU yn rhan o’r UE, mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE wedi mynd heibio. Dydyn nhw ddim yn gallu gwneud cais hwyr. Os oes ganddynt statws preswylydd cyn-sefydlog, gallant wneud cais am:

  • estyniad i’w statws cyn-sefydlog

  • statws preswylydd sefydlog - ar ôl iddyn nhw fyw yn y DU am 5 mlynedd

Siaradwch â chynghorydd os yw un o’r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i chi.

Os ydych chi’n ddinesydd Gwyddelig

Os yw aelod o'ch teulu am ddod i fyw i'r DU, bydd angen iddo wneud cais i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu i ddinasyddiaeth Wyddelig os yw'n gymwys. Edrychwch i weld a all eich aelod o'ch teulu gael dinasyddiaeth Wyddelig ar Gwybodaeth i Ddinasyddion - gwefan gyngor yw hon sy'n cael ei rhedeg gan lywodraeth Iwerddon.

Os yw aelod o'ch teulu am wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, bydd angen i chi wirio a yw'n gymwys.

Os cawsoch eich geni yng Ngogledd Iwerddon

Gall aelodau o'ch teulu wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • os oes gennych ddinasyddiaeth Wyddelig neu Brydeinig - neu'r ddau

  • pan gawsoch eich geni, roedd gan un o'ch rhieni ddinasyddiaeth Wyddelig neu Brydeinig - neu statws mewnfudo a oedd yn gadael iddynt fyw yn y DU yn barhaol

  • gwnaethoch ddechrau byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddod ag aelodau eich teulu i’r DU os cawsoch eich geni yng Ngogledd Iwerddon ar GOV.UK.

Cyn i aelod o’ch teulu ddod i’r DU

Cyn i aelod o’ch teulu ddod i’r DU, holwch:

  • a allant wneud cais i ddod i'r DU - mae hyn yn dibynnu ar eu perthynas â chi

  • a ddylent wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE cyn iddynt gyrraedd - mae hyn yn dibynnu ar ba ddinasyddiaeth sydd ganddynt a'u statws mewnfudo

Gweld a all aelod o'ch teulu wneud cais i ddod i'r DU

Dim ond rhai o aelodau eich teulu all wneud cais - mae'n dibynnu ar sut rydych chi'n perthyn iddyn nhw. 

Dylech hefyd wirio pa dystiolaeth y bydd ei hangen arnynt i brofi eu bod yn perthyn i chi.

Plant dan 21 oed

Os yw eich plentyn dan 21 oed, gall wneud cais am drwydded teulu neu i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae eich plentyn yn cynnwys eich llysblentyn, eich plentyn mabwysiedig, eich ŵyr/wyres a’ch gorwyr/wyres.

Os cafodd eich plentyn ei eni ar ôl 31 Rhagfyr 2020, gallwch wneud cais o hyd i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar ei gyfer.

Gallwch wneud cais am eich plentyn neu gall wneud cais amdano'i hun. Bydd angen i chi brofi sut maen nhw’n perthyn i chi.

Profi perthynas eich plentyn â chi

Os yw eich plentyn yn ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir, dylech ddefnyddio ei dystysgrif geni neu fabwysiadu i brofi ei berthynas â chi. Os yw'r plentyn yn wyres neu'n ŵyr/wyres, mae angen tystysgrifau geni arnoch hefyd sy'n profi eich perthynas â'i riant.

Os yw eich plentyn yn dod o'r tu allan i'r UE, AEE neu'r Swistir, dylech ddefnyddio ei gerdyn preswylio i brofi pwy ydyw. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi brofi ei berthynas â chi oherwydd eich bod wedi profi hynny wrth wneud cais am y cerdyn.

Os nad oes ganddo gerdyn preswylio, dylech ddefnyddio:

  • ei dystysgrif geni

  • ei dystysgrif mabwysiadu

  • ei orchymyn gwarcheidiaeth - mae'n bwysig cael caniatâd gan y llys a gyhoeddodd y gorchymyn cyn i chi ei rannu â'r Swyddfa Gartref

  • trwydded teulu

  • ei dystysgrif geni a'ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil - os mai llysblentyn i chi ydyw

  • tystysgrifau geni sy'n profi eich perthynas â'i riant - os ydych chi'n nain neu'n daid neu'n hen nain/taid

Os ydych chi’n gofalu am blentyn – er enghraifft, plentyn maeth neu nith neu nai – y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE oedd 30 Mehefin 2021. Gallant wneud cais hwyr i'r cynllun:

  • os oes ganddynt gerdyn preswylio fel aelod o'r teulu estynedig

  • os oeddent wedi gwneud cais am y cerdyn erbyn 31 Rhagfyr 2020

Gweld a oes gan eich plentyn ddinasyddiaeth Brydeinig

Efallai fod eich plentyn eisoes yn ddinesydd Prydeinig os cafodd ei eni yn y DU neu os oes ganddo riant Prydeinig. Gallwch weld a yw eich plentyn eisoes yn ddinesydd Prydeinig.

Os yw eich plentyn eisoes yn ddinesydd Prydeinig, gallwch wneud cais am basport Prydeinig ar ei gyfer ar GOV.UK.

Plant dros 21 oed

Dim ond os ydynt yn dibynnu arnoch chi y gallant wneud cais am drwydded teulu neu i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. 

Mae hyn yn cynnwys eich:

  • llysblentyn - rhaid i chi fod wedi priodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil gyda’i riant arall cyn 1 Ionawr 2021

  • plentyn sydd wedi’i fabwysiadu – rhaid i chi fod wedi’i fabwysiadu cyn 1 Ionawr 2021

  • ŵyr/wyres neu or-ŵyr/wyres

Mae eich plentyn yn dibynnu arnoch chi os nad yw'n gallu diwallu ei anghenion sylfaenol heb eich cymorth ariannol neu'ch gofal - gallai fod mewn addysg amser llawn, yn anabl neu'n sâl.

Bydd angen i'ch plentyn brofi ei berthynas â chi a phrofi ei fod yn ddibynnol arnoch chi. 

Profi ei berthynas â chi

Gall eich plentyn brofi ei berthynas â chi gan ddefnyddio:

  • ei dystysgrif geni neu fabwysiadu

  • ei orchymyn gwarcheidiaeth

  • cerdyn preswylio

  • trwydded teulu

Os mai'r plentyn yw eich llysblentyn, bydd angen ei dystysgrif geni a'ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil arno.

Os yw'n ŵyr/wyres neu’n or-ŵyr/wyres, bydd angen tystysgrifau geni arno sy’n profi eich perthynas â’i rieni a’i nain a’i daid.

Profi ei fod yn dibynnu arnoch chi

Os oedd gan eich plentyn gerdyn preswylio fel plentyn dibynnol, does dim rhaid iddo brofi ei fod yn dibynnu arnoch chi eto.

Os nad oes gan eich plentyn gerdyn preswylio, bydd angen iddo brofi ei fod yn dibynnu arnoch i dalu am ei anghenion sylfaenol. 

Y ffordd orau o brofi bod eich plentyn yn dibynnu arnoch chi yw profi eich bod yn anfon arian ato y tu allan i'r DU. Gallai ddefnyddio cyfriflenni banc sy’n dangos:

  • taliadau rhent neu forgais ar gyfer ei gartref

  • taliadau rheolaidd a wnewch iddo - er enghraifft, ffioedd ysgol neu goleg

  • taliadau i ddiwallu ei anghenion meddygol

Gall ddefnyddio ei gyfriflenni banc neu eich rhai chi.

Os yw eich plentyn yn anabl neu'n sâl, rhaid iddo hefyd brofi mai dyma pam ei fod yn dibynnu arnoch chi. Y ffordd orau o brofi hyn yw drwy gael llythyr gan ysbyty neu gan eich meddyg teulu.

Gwŷr, gwragedd a phartneriaid sifil

Gall eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wneud cais am drwydded teulu neu i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE:

  • gwnaethoch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil erbyn 31 Rhagfyr 2020

  • roeddech chi wedi byw gyda’ch gilydd ers o leiaf 2 flynedd erbyn 31 Rhagfyr 2020

Bydd angen iddynt brofi eu perthynas â chi. Gallant wneud hyn gan ddefnyddio:

  • cerdyn preswylio

  • cerdyn preswylio y tu mewn i'w basbort - os gwnaethant gais amdano yn seiliedig ar eich perthynas

  • trwydded teulu

  • eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil 

  • tystysgrif cofrestru - os gwnaethant gais amdani ar sail eich perthynas

Gall eich partner ddal i ddefnyddio tystysgrif cofrestru i brofi ei berthynas â chi, hyd yn oed os nad yw'n ddilys mwyach.

Partneriaid hirdymor

Gall eich partner hirdymor wneud cais am drwydded teulu neu i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar yr amod:

  • eich bod chi wedi byw gyda’ch gilydd ers o leiaf 2 flynedd erbyn 31 Rhagfyr 2020

  • bod tystiolaeth arall eich bod mewn perthynas hirdymor cyn 31 Rhagfyr 2020 - er enghraifft, roedd gennych blentyn gyda'ch gilydd cyn y dyddiad hwn

Bydd angen i’ch partner brofi ei berthynas â chi. Gall wneud hyn gan ddefnyddio cerdyn preswylio neu gerdyn teulu.

Os nad oes ganddo gerdyn preswylio na thrwydded teulu, gall ddefnyddio pethau fel:

  • tystysgrif cofrestru

  • cyfriflenni banc ar y cyd

  • biliau cyfleustodau ar y cyd

  • datganiadau morgais neu gytundebau tenantiaeth ar y cyd

  • tystysgrif geni eich plentyn

  • gohebiaeth swyddogol arall sy'n dangos y ddau ohonoch yn yr un cyfeiriad, er enghraifft llythyr budd-dal

Os na all eich partner brofi ei fod mewn perthynas hirdymor â chi cyn 31 Rhagfyr 2020, ni all wneud cais. Efallai y gall wneud cais i ddod i'r DU gan ddefnyddio fisa gwahanol - holwch a all gael fisa partner.

Rhieni a neiniau a theidiau

Gall eich rhieni a'ch neiniau a'ch teidiau wneud cais am drwydded teulu neu i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os ydynt yn dibynnu arnoch chi.

Mae eich rhieni a’ch neiniau a’ch teidiau yn cynnwys eich rhieni mabwysiadol a’ch hen neiniau a theidiau, a rhai eich gŵr, gwraig neu bartner sifil.

Bydd angen i’ch rhieni a’ch neiniau a’ch teidiau brofi eu perthynas â chi. Gallant wneud hyn gan ddefnyddio:

  • cerdyn preswylio

  • trwydded teulu

  • eich tystysgrif geni neu'ch tystysgrif mabwysiadu - os mai nhw yw eich rhiant

  • tystysgrifau geni neu fabwysiadu i chi a rhiant - os mai nhw yw eich nain neu'ch taid

  • tystysgrifau geni neu fabwysiadu i chi, rhiant a nain neu daid - os mai nhw yw eich hen nain neu daid

Os ydynt yn aelod o deulu eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil, rhaid iddynt hefyd ddangos prawf o'r berthynas hon - er enghraifft, eich tystysgrif priodas.

Bydd angen i chi hefyd brofi bod eich rhiant yn dibynnu arnoch oherwydd eu hoedran neu os oes ganddynt anabledd neu salwch. Gallwch brofi hyn drwy ddefnyddio:

  • tystiolaeth eu bod yn ariannol ddibynnol arnoch - er enghraifft, cyfriflenni banc yn dangos yr arian yr ydych wedi'i anfon atynt

  • tystiolaeth y maent yn dibynnu arnoch chi am ofal neu gymorth - er enghraifft, llythyr gan eu meddyg

Brodyr, chwiorydd ac aelodau eraill o’r teulu

Fel arfer, ni all aelodau eraill eich teulu wneud cais i ymuno â chi yn y DU o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais oedd 30 Mehefin 2021. Os oes ganddyn nhw gerdyn preswylio neu drwydded teulu, efallai y byddan nhw’n gallu gwneud cais hwyr i’r cynllun – rhaid iddyn nhw fod wedi gwneud cais am y cerdyn neu’r drwydded erbyn 31 Rhagfyr 2020. Gall eich aelod o’r teulu weld a yw’n gallu gwneud cais hwyr.

Eich aelodau eraill o’ch teulu yw:

  • brodyr neu chwiorydd

  • modrybedd neu ewythrod

  • nai neu nithod

  • cefndryd neu gyfnitherod

Os yw eich brawd neu’ch chwaer yn dibynnu arnoch chi

Efallai y gallant gael fisa i fyw yn y DU os ydynt yn dibynnu arnoch oherwydd eu hoedran neu os oes ganddynt anabledd neu salwch.

Dim ond os oes gennych un o'r canlynol y gallant wneud cais am fisa:

  • statws preswylydd sefydlog 

  • statws preswylydd cyn-sefydlog a’ch bod wedi cyrraedd y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020

Mae'r fisâu hyn yn ddrud ac yn anodd eu cael - os yw eich brawd neu'ch chwaer yn ystyried gwneud cais am un, siaradwch â chynghorydd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fisâu ar gyfer perthnasau dibynnol sy’n oedolion ar GOV.UK.

Edrychwch i weld sut y dylai aelod o’ch teulu wneud cais

Mae sut y dylai aelod o'ch teulu wneud cais yn dibynnu ar ba ddinasyddiaeth sydd ganddynt a'u statws mewnfudo.

Os yw'r aelod o'ch teulu yn ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir

Fel arfer, dylai aelod o’ch teulu wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE fel aelod o’r teulu cyn iddo ddod i’r DU. Bydd angen iddynt wneud cais gan ddefnyddio ap 'Ymadael â’r UE' y llywodraeth.

Pan fydd ganddynt statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog, gallant ddod i fyw yn y DU.

Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE o’r tu allan i’r DU ar gael ar GOV.UK.

Os na all aelod o'ch teulu ddefnyddio'r ap i wneud cais i'r cynllun, gall wneud cais am drwydded teulu yn lle hynny. Os ydynt yn dod i’r DU ar drwydded teulu, gallant wneud cais i’r cynllun pan fyddant yn cyrraedd. Gall aelod o’ch teulu wneud cais am drwydded teulu ar GOV.UK.

Nid yw'r drwydded yn rhoi'r hawl i aelod o'ch teulu hawlio budd-daliadau na chael cymorth gyda thai yn y DU. Efallai y byddant yn cael yr hawliau hyn pan fyddant yn gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog.

Os oes gan aelod o'ch teulu fisa dilys eisoes, gall ddod i'r DU ar ei fisa a gwneud cais i'r cynllun pan fydd yn cyrraedd.

Os yw aelod o'ch teulu yn ddinesydd gwlad y tu allan i'r UE, AEE neu'r Swistir

Mae sut y dylai aelod o'ch teulu wneud cais yn dibynnu ar a oes ganddo gerdyn preswylio.

Os oes gan aelod o'ch teulu gerdyn preswylio

Os yw ei gerdyn preswylio yn ddilys, dylai wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE fel aelod o’r teulu cyn iddo ddod i’r DU.

Pan fydd ganddynt statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog, gallant ddod i fyw yn y DU.

Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE o’r tu allan i’r DU ar gael ar GOV.UK.

Os bydd aelod o'ch teulu yn dod i'r DU cyn gwneud cais

Gallai fod yn anodd i aelod o’ch teulu ddod i’r DU gan ddefnyddio ei gerdyn preswylio. Dyna pam ei bod yn syniad da iddo gael statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog cyn iddo gyrraedd. 

Os bydd aelod o’ch teulu yn dod i’r DU gan ddefnyddio ei gerdyn preswylio, rhaid iddo wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE o fewn 28 diwrnod i gyrraedd.

Os yw cerdyn preswylio aelod o'ch teulu wedi dod i ben

Ni all eich aelod o’r teulu wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE o’r tu allan i’r DU os nad oes ganddo gerdyn preswylio dilys.

Os yw aelod o’ch teulu yn y sefyllfa hon, dylai wneud cais am drwydded deulu Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar GOV.UK. Gall wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE pan fydd yn cyrraedd y DU.

Os nad oes gan aelod o'ch teulu gerdyn preswylio

Fel arfer, mae angen i aelod o’ch teulu gael trwydded deulu Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i ddod i’r DU. Nid oes angen trwydded arno os oes ganddo eisoes fisa teulu, gwaith neu fyfyriwr dilys.

Mae angen iddo fod y tu allan i’r DU i wneud cais am y drwydded. Mae’n rhad ac am ddim gwneud cais am y drwydded. 

Dim ond os oes gennych statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog y gall aelod o’ch teulu wneud cais am y drwydded.

Nid yw'r drwydded yn rhoi'r hawl i aelod o'ch teulu hawlio budd-daliadau na chael cymorth gyda thai yn y DU. Efallai y byddant yn cael yr hawliau hyn pan fyddant yn gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog.

Gwneud cais am drwydded teulu

Pan fydd aelod o’ch teulu yn gwneud cais am y drwydded, rhaid iddo gynnwys cyfieithiadau Saesneg o unrhyw ddogfennau sydd mewn iaith arall.

Bydd trwydded aelod o'ch teulu yn ddilys am 6 mis o'r diwrnod y caiff ei rhoi.

Gall eich aelod o’ch teulu wneud cais am drwydded deulu Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar GOV.UK.

Gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Rhaid i’ch aelod o’r teulu wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog o fewn 3 mis i gyrraedd y DU.

Os bydd ei drwydded teulu yn dod i ben cyn iddo gael penderfyniad ar ei gais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, gall ddefnyddio ei dystysgrif ymgeisio i brofi ei hawliau yn y DU.

Fel arfer, bydd aelod o’ch teulu yn cael ei dystysgrif drwy e-bost ar ôl gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog. Bydd yn cael y dystysgrif drwy'r post os bydd yn gwneud cais ar ffurflen bapur.

Pan fydd aelod o’ch teulu’n gwneud cais

Pan fydd aelod o’ch teulu’n gwneud cais, bydd angen iddo roi eich enw chi. Bydd angen iddo hefyd roi'r rhif ymgeisio a gawsoch pan wnaethoch gais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog. 

Mae rhif eich cais yn cynnwys 16 digid. Gallwch ddod o hyd iddo ar eich:

  • llythyr penderfyniad - os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog yn barod

  • tystysgrif ymgeisio - byddai hon wedi cael ei hanfon atoch drwy e-bost pan wnaethoch gais

Gallwch weld beth mae angen i aelod o’ch teulu ei wneud i wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog.

Os nad yw aelod o’ch teulu yn gymwys ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Dim ond os gall gael fisa gwaith, astudio neu deulu y gall fyw yn y DU. Gallwch weld a all aelod o’ch teulu gael fisa ar GOV.UK.

Gall eich aelod o’r teulu ymweld â’r DU am hyd at 6 mis.

Os nad yw aelod o'ch teulu yn dod o'r UE, AEE neu'r Swistir, efallai y bydd angen iddo dalu am fisa i ymweld â'r DU. Os yw aelod o'ch teulu yn y sefyllfa hon,

mae'n cael ei alw'n 'wladolyn visa'. Gallwch weld a yw eich aelod o’ch teulu yn wladolyn fisa ar GOV.UK.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 01 Gorffennaf 2021