Gweld a allwch chi gael statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae angen caniatâd arnoch i fyw yn y DU os ydych yn dod o wlad yn yr UE, Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu'r Swistir.

Mae'r AEE yn cynnwys gwledydd yr UE a Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein.

Mae eich opsiynau ar gyfer aros yn y DU yn dibynnu ar eich sefyllfa. 

Y dyddiad cau i’r rhan fwyaf o bobl wneud cais am statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE oedd 30 Mehefin 2021. Efallai y byddwch chi’n dal yn gallu gwneud cais os ydych chi yn un o’r sefyllfaoedd hyn:

  • roeddech chi wedi dechrau byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 ac mae gennych reswm da dros wneud cais hwyr - rhaid i chi gynnwys tystiolaeth i brofi hyn

  • os oes gan aelod o'ch teulu statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog a'ch bod am ymuno â nhw yn y DU

  • os oes gennych drwydded breswylio neu fisa biometrig dilys - ar wahân i ganiatâd amhenodol

Os nad ydych chi yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn, dim ond am hyd at 6 mis y cewch aros yn y DU fel ymwelydd. Os ydych am fyw yn y DU, bydd angen fisa gwaith, astudio neu deulu arnoch. Gallwch weld a allwch gael fisa ar GOV.UK.

Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd Gwyddelig, does dim angen caniatâd arnoch i aros yn y DU. Os oes gennych aelodau o'r teulu nad ydynt yn Brydeinig nac yn Wyddelig, gallwch weld a all eich teulu aros yn y DU.

Os gwnaethoch gais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE erbyn 30 Mehefin 2021

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae gennych ganiatâd i aros yn y DU.

Os gwnaethoch gais mewn pryd a’ch bod yn aros am benderfyniad, gallwch weld sut mae profi eich hawliau yn y DU.

Os gwnaethoch ddechrau byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020

Os nad ydych wedi gwneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE eto, mae'r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar eich statws mewnfudo.

Dylech wirio a allwch wneud cais hwyr am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog:

  • os nad oes gennych drwydded preswylio na fisa biometrig

  • os oes gennych ganiatâd amhenodol

Os oes gennych drwydded breswylio neu fisa biometrig dilys, mae angen i chi wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog cyn i'ch caniatâd ddod i ben. Nid yw hyn yn cyfrif fel cais hwyr.

Os gwnaethoch ddechrau byw yn y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020

Os oes gennych chi aelod o’r teulu yn y DU sydd â statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog, efallai y gallwch wneud cais i aros gyda nhw yn y DU o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Rhaid i’ch perthynas â nhw fod wedi dechrau cyn 31 Rhagfyr 2020.

Gallwch hefyd wneud cais ar ran eich plentyn os cafodd ei eni ar ôl 31 Rhagfyr 2020.

Dim ond os oes gennych chi un o’r canlynol y cewch chi wneud cais i aros gyda’ch aelod o’r teulu:

  • trwydded deulu Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu Ardal Economaidd Ewrop - rhaid i chi wneud cais o fewn 3 mis i gyrraedd y DU

  • cerdyn preswylio

  • fisa dilys - er enghraifft, fisa gwaith, astudio neu deulu

Os daethoch i'r DU fel ymwelydd a'ch bod yn ddinesydd gwlad y tu allan i'r UE, AEE neu'r Swistir, bydd angen i chi adael a gwneud cais o'r tu allan i'r DU.

Rhagor o wybodaeth am wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE fel aelod o’r teulu, gan gynnwys gwneud cais o’r tu allan i’r DU.

Os nad ydych chi’n gymwys i wneud cais fel aelod o’r teulu sy’n ymuno, ni allwch wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Os ydych am fyw yn y DU, bydd angen fisa gwaith, astudio neu deulu arnoch. Gallwch weld a allwch gael fisa ar GOV.UK.

Os ydych chi'n ddinesydd gwlad y tu allan i'r UE, AEE neu'r Swistir

Efallai y gallwch wneud cais hwyr i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os oes gennych deulu yn y DU sy'n dod o'r UE, AEE neu'r Swistir ac mae'r ddau o'r canlynol yn wir:

  • roeddech chi a’r aelod o’ch teulu yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020

  • dechreuodd eich perthynas â nhw cyn 31 Rhagfyr 2020 – oni bai eu bod yn ddinesydd y Swistir

Mae angen i chi wneud cais i'r cynllun hyd yn oed os oes gennych chi gerdyn preswylio parhaol gan nad yw'n ddilys rhagor.

Gwiriwch a allwch chi wneud cais am Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os nad oeddech chi'n byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020

Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os daethoch i’r DU gyda’r canlynol:

  • trwydded deulu Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu Ardal Economaidd Ewrop

  • cerdyn preswylio

  • fisa gwaith, astudio neu deulu dilys

Os daethoch i'r DU fel ymwelydd, bydd angen i chi adael a gwneud cais o'r tu allan i'r DU. Rhagor o wybodaeth am wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE o’r tu allan i’r DU.

Os daeth eich perthynas i ben neu os bu farw aelod o’ch teulu

Efallai y gallwch wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os yw eich perthynas â dinesydd o'r UE, AEE neu'r Swistir wedi dod i ben. 

Does dim rhaid i'r aelod o'r teulu fod yn bartner i chi - er enghraifft, gallai fod yn rhiant neu'n blentyn i chi.

Os yw eich perthynas ag aelod o'ch teulu wedi chwalu oherwydd cam-drin domestig, gallwch wneud cais o hyd i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - dylech gael cyngor arbenigol ar fewnfudo yn gyntaf.

Os cawsoch chi ysgariad neu os bu farw aelod o’ch teulu, edrychwch i weld a ydych chi’n dal i allu gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar GOV.UK.

Gwneud cais hwyr i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Os colloch chi’r dyddiad cau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae eich hawliau yn y DU wedi newid.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i’r rhan fwyaf o bobl oedd 30 Mehefin 2021. Os ydych chi wedi dod i'r DU ers hynny i ymuno ag aelod o'ch teulu sydd â dinasyddiaeth yr UE neu AEE, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 3 mis ar ôl i chi ddod i'r DU.

Gallwch wneud cais hwyr os oedd gennych reswm da dros fethu'r dyddiad cau - dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl. Rhaid i chi gynnwys tystiolaeth i ddangos pam nad oedd modd i chi wneud cais mewn pryd.

Efallai fod gennych reswm da:

  • nid oedd modd i chi wneud cais ar amser am resymau ymarferol

  • nid oedd modd i chi wneud cais ar amser am resymau tosturiol

  • nid oeddech chi’n gwybod bod angen i chi wneud cais

Efallai fod rhesymau da eraill pam na allech chi wneud cais mewn pryd.

Os nad oedd modd i chi wneud cais ar amser am resymau ymarferol

Efallai fod gennych reswm da os ydych yn gwneud cais hwyr oherwydd:

  • yr oeddech yn ddigartref 

  • os ydych chi'n anabl neu os oes gennych anghenion cymorth eraill

  • roeddech chi yn y carchar a doeddech chi ddim yn gallu cael gafael ar gyngor na dogfennau

Gallwch hefyd wneud cais hwyr os nad oeddech yn gallu cael y dystiolaeth yr oedd ei hangen arnoch mewn pryd. Os ydych chi'n aros am basbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol newydd, gallwch wneud cais hwyr o hyd. Bydd angen i chi:

  • ofyn i'ch llysgenhadaeth am lythyr yn cadarnhau eich bod wedi gwneud cais am basbort neu gerdyn adnabod newydd

wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar ffurflen bapur - dysgwch fwy am wneud cais ar ffurflen bapur

Os nad oedd modd i chi wneud cais ar amser am resymau tosturiol

Efallai fod gennych reswm da os ydych yn gwneud cais hwyr oherwydd:

  • eich bod wedi profi trais domestig

  • eich bod yn blentyn ac nad oedd eich rhieni wedi gwneud cais ar eich rhan

  • eich bod yn blentyn mewn gofal neu wedi gadael gofal yn ddiweddar

  • eich bod yn ddioddefwr masnachu pobl

Os nad oeddech chi’n gwybod bod angen i chi wneud cais

Efallai fod gennych reswm da os ydych yn gwneud cais hwyr oherwydd:

  • eich bod wedi cael ‘dogfen preswylio'n barhaol’ – gelwir hon weithiau’n ‘ddogfen sy’n tystio i breswylio’n barhaol’

  • eich bod wedi bod yn byw yn y DU ers amser hir - a bod eich landlord neu'ch cyflogwr wedi dweud wrthych ar ôl 30 Mehefin 2021 nad oedd angen i chi wneud cais

  • eich bod wedi teithio allan o'r DU ar ôl 30 Mehefin 2021 ac yna wedi dod yn ôl i'r DU - ac na chawsoch wybod ar ffin y DU bod angen i chi wneud cais

Profi eich rhesymau dros wneud cais hwyr

Pan fyddwch yn gwneud cais hwyr, dylech ddweud beth yw eich rhesymau.

Rhaid i chi gynnwys tystiolaeth i ddangos pam eich bod yn gwneud cais hwyr.

Dylai eich tystiolaeth sicrhau’r canlynol:

  • dangos bod gennych reswm da dros beidio â gwneud eich cais tan nawr

  • cyfrif am yr holl amser ers y dyddiad cau

Os ydych chi'n dod o'r UE, AEE neu'r Swistir ac yn dod i'r DU ar fisa ymwelydd, bydd angen i chi gynnwys tystiolaeth i brofi'r dyddiad y daethoch i'r DU - er enghraifft, gyda thocyn neu stamp mynediad.

Siaradwch â chynghorydd os nad ydych chi’n siŵr pa dystiolaeth i’w defnyddio.

Os nad oes gennych reswm da dros wneud cais hwyr

Os bydd y Swyddfa Gartref yn penderfynu nad oes gennych reswm da dros wneud cais hwyr, bydd yn cael ei ystyried yn 'annilys' ac ni fydd gennych hawl i apelio.

Fel arfer, ni fyddwch yn gallu profi bod gennych reswm da dros wneud cais hwyr os ydych wedi gwneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE o'r blaen ac wedi cael eich gwrthod. Mae eich cais blaenorol yn dangos eich bod yn ymwybodol o’r dyddiad cau ac yn gallu gwneud cais mewn pryd.

Siaradwch â chynghorydd cyn i chi wneud cais hwyr.

Gwiriwch beth yw eich hawliau os nad ydych wedi gwneud cais

Os gwnaethoch gyrraedd y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 ac nad ydych wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE eto, nid oes gennych ganiatâd i fod yn y DU. Bydd hyn yn effeithio ar eich hawliau.

Os byddwch yn gwneud cais hwyr, byddwch yn cael eich hawliau'n ôl tra'ch bod yn aros am benderfyniad.

Os ydych chi eisiau gadael y DU a dod yn ôl eto

Os byddwch yn gadael y DU, efallai na chewch fynd i mewn i'r wlad eto. 

Os gwnaethoch adael y DU a chael eich gwrthod pan ddaethoch yn ôl, dylech wneud cais i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE o'r tu allan i'r DU - os ydych yn gymwys i wneud cais hwyr.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau neu'n dymuno gwneud cais newydd

Ni allwch hawlio'r rhan fwyaf o fudd-daliadau nes i chi gael statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog - mae hyn yn cynnwys Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau

Efallai y bydd yn rhaid i chi roi’r gorau i’w cael os na wnaethoch chi gais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog erbyn 30 Mehefin 2021.

Os bydd eich budd-daliadau'n dod i ben, gallwch wneud hawliad newydd os cewch statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog.

Os ydych chi’n aros am benderfyniad gan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, dylech gael hawlio budd-daliadau os cyrhaeddoch chi’r DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 a gallwch ddangos naill ai:

  • eich bod chi wedi byw yn y DU ers 5 mlynedd

  • bod gennych yr hawl i breswylio

Gallwch weld a oes gennych hawl i breswylio.

Os ydych chi eisiau gweithio neu astudio

Os ydych am ddechrau gweithio neu astudio, bydd yn rhaid i chi brofi eich hawl i weithio neu astudio. Ni allwch wneud hyn nes y cewch statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog.

Os gwnaethoch ddechrau gweithio neu astudio erbyn 30 Mehefin 2021 a'ch bod eisoes wedi profi eich hawl i weithio neu astudio, ni ddylai fod yn rhaid i chi brofi hynny eto.

Os gofynnir i chi brofi eich hawl i weithio neu astudio eto, gall fod yn wahaniaethu.

Os ydych chi eisiau dod â theulu i’r DU

Ni all aelodau o’ch teulu wneud cais i ymuno â chi yn y DU drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE nes i chi gael statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog.  

Gallwch weld a all aelodau o’ch teulu ymuno â chi yn y DU.

Gweld beth sydd angen i chi wneud cais amdano

Mae'r hyn y mae angen i chi wneud cais amdano yn dibynnu ar ba mor hir rydych chi wedi byw yn y DU ac a ydych chi wedi gwneud cais i aros yn y DU o'r blaen.

Os ydych chi wedi treulio amser yn byw yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, mae hyn yn cyfrif fel amser yn byw yn y DU.

Os ydych chi wedi byw yn y DU ers 5 mlynedd

Dylech wneud cais hwyr am statws preswylydd cyn-sefydlog. I'w gael, bydd angen i chi brofi'r canlynol:

  • eich bod wedi byw yn y DU am o leiaf 1 diwrnod ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny

  • nad ydych wedi gadael y DU am fwy na 6 mis ers 31 Rhagfyr 2020

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog, gallwch fyw a gweithio yn y DU am hyd at 5 mlynedd. 

Er bod gennych statws preswylydd cyn-sefydlog, gallwch adael y DU am gyfanswm o 6 mis mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Os ydych chi i ffwrdd am fwy na 6 mis, efallai y byddwch yn colli eich statws cyn-sefydlog.

Ar ôl i chi fyw yn y DU am 5 mlynedd yn olynol, dylech wneud cais am statws preswylydd sefydlog i aros yn hirach. Gall y 5 mlynedd gynnwys amser cyn i chi gael statws preswylydd cyn-sefydlog.

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ei angen arnoch i wneud cais am statws cyn-sefydlog.

Os oeddech chi wedi ymddeol neu wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio

Os ydych chi'n cael Pensiwn Gwladwriaeth y DU, byddwch yn cael statws preswylydd sefydlog yn awtomatig os bydd eich cais hwyr i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn llwyddiannus.

Efallai y cewch statws preswylydd sefydlog os ydych wedi byw yn y DU am lai na 5 mlynedd a bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • bu'n rhaid i chi roi'r gorau i weithio'n barhaol oherwydd damwain neu salwch

  • gwnaethoch ymddeol yn gynnar

gwnaethoch roi'r gorau i weithio ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth -gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK

Siaradwch â chynghorydd cyn i chi wneud cais.

Os ydych chi wedi byw yn y DU ers 5 mlynedd neu fwy

Dylech wneud cais hwyr am statws preswylydd sefydlog.

Os byddwch chi’n cael statws preswylydd sefydlog, gallwch wneud y canlynol:

  • byw a gweithio yn y DU cyhyd ag y dymunwch

  • byw y tu allan i'r DU am hyd at 5 mlynedd yn olynol heb golli eich statws - 4 blynedd os ydych chi'n dod o'r Swistir

  • dod â’ch teulu i fyw yn y DU

  • gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig flwyddyn ar ôl cael eich statws - neu'n syth os yw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn ddinesydd Prydeinig

Gweld beth sydd ei angen arnoch i wneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Os oes gennych ddogfen 'preswylio'n barhaol'

Gelwir hon weithiau’n ‘ddogfen sy’n tystio i breswylio’n barhaol’.

Dydy eich dogfen preswylio'n barhaol ddim yn ddilys rhagor. Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am statws preswylydd sefydlog, holwch i weld a allwch wneud cais hwyr.

Bydd gennych yr un hawliau â statws preswylydd sefydlog ag oedd gennych gyda phreswylio’n barhaol.

Efallai y byddwch hefyd yn ei chael yn haws gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig ar ôl i chi gael statws preswylydd sefydlog.

Gweld beth mae angen i chi ei wneud i wneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Os oes gennych 'ganiatâd amhenodol i aros' neu 'ganiatâd amhenodol i ddod i mewn'

Nid oes angen i chi wneud cais i aros yn y DU os oes gennych ganiatâd amhenodol i aros neu i ddod i mewn. 

Fodd bynnag, os bydd angen i chi fyw y tu allan i’r DU yn y dyfodol, gallech wneud cais hwyr i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE am statws preswylydd sefydlog. Gallwch fyw y tu allan i'r DU am 5 mlynedd heb golli eich statws sefydlog. Gyda chaniatâd amhenodol i aros, dim ond am 2 flynedd y cewch fyw y tu allan i’r DU.

Os oes gennych ganiatâd amhenodol i aros ac nad oeddech yn sylweddoli y gallech wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae'r llywodraeth wedi dweud bod hyn yn rheswm da dros wneud cais hwyr.

Os nad ydych chi’n siŵr a oes gennych ganiatâd amhenodol i aros

Os oes gennych ganiatâd amhenodol i aros, fel arfer bydd gennych un o'r canlynol:

  • stamp neu ddogfen yn eich pasbort

  • llythyr gan y Swyddfa Gartref

  • trwydded preswylio gyda sglodyn biometrig (a elwir yn 'drwydded breswyl fiometrig')

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych ganiatâd amhenodol i aros neu os na allwch ddod o hyd i'r dogfennau, dylech holi a allwch wneud cais hwyr am statws preswylydd sefydlog. Os daethoch i'r DU cyn 1989, gallwch hefyd wneud cais i'r Cynllun Windrush i gael dogfennau newydd. Mae’r ddau gynllun yn rhad ac am ddim.

Gweld beth sydd ei angen arnoch i wneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Os cawsoch chi neu eich plentyn eich geni yn y DU

Os cawsoch chi eich geni yn y DU, efallai na fydd angen i chi wneud cais i aros - efallai eich bod eisoes yn ddinesydd Prydeinig.

Edrychwch i weld a ydych chi’n ddinesydd Prydeinig ar GOV.UK.

Os nad ydych eisoes yn ddinesydd Prydeinig neu os nad ydych am gael dinasyddiaeth, holwch a allwch wneud cais hwyr am statws preswylydd sefydlog.  

Gweld beth sydd ei angen arnoch i wneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Os cafodd eich plentyn ei eni yn y DU

Os oes gennych chi statws preswylydd sefydlog pan fydd eich plentyn yn cael ei eni, bydd yn cael dinasyddiaeth Brydeinig yn awtomatig.

Os cawsoch statws preswylydd sefydlog ar ôl i’ch plentyn gael ei eni, bydd yn dal yn ddinesydd Prydeinig os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech chi'n gymwys ar gyfer statws preswylydd sefydlog ar 30 Mehefin 2021

  • os cafodd ei eni ar ôl 30 Mehefin 2021

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog, neu os nad ydych wedi gwneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE eto, bydd angen i chi wneud cais i'r cynllun ar gyfer eich plentyn o fewn 3 mis i'w enedigaeth. Os na wnewch chi hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd y GIG am driniaeth yn yr ysbyty y mae eich plentyn yn ei chael.

Os ydych chi'n ddinesydd Maltaidd neu'n ddinesydd Cypraidd

Os oeddech chi'n byw yn y DU ar 1 Ionawr 1973 neu cyn hynny, efallai na fydd angen i chi wneud cais i aros yn y DU. Efallai eich bod wedi cael caniatâd amhenodol i aros heb wneud cais amdano.

Os oes gennych ganiatâd amhenodol i aros, bydd gennych fel arfer:

  • stamp neu ddogfen yn eich pasbort

  • llythyr gan y Swyddfa Gartref

  • trwydded preswylio gyda sglodyn biometrig (a elwir yn 'drwydded breswyl fiometrig')

Ni fyddwch yn gallu gwneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os oes gennych 'hawl preswylio' yn y DU yn barod. Os oes gennych hawl preswylio, nid oes angen caniatâd arnoch o dan y rheolau mewnfudo neu gyfraith yr UE i fyw yn y DU. Dylai fod gennych dystysgrif hawl preswylio yn eich pasbort cyfredol neu flaenorol.

Os nad ydych chi’n siŵr a oes gennych ganiatâd amhenodol i aros

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych ganiatâd amhenodol i aros neu os na allwch ddod o hyd i'r dogfennau, gallwch wneud cais:

  • i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar gyfer statws preswylydd sefydlog

  • drwy’r Cynllun Windrush ar gyfer dogfennau newydd i brofi bod gennych ganiatâd amhenodol i aros

Mae’r ddau gynllun yn rhad ac am ddim.

Os bydd angen i chi fyw y tu allan i'r DU yn y dyfodol, dylech holi a allwch wneud cais hwyr am statws preswylydd sefydlog. Gallwch fyw y tu allan i'r DU am 5 mlynedd heb golli eich statws sefydlog. Gyda chaniatâd amhenodol i aros, dim ond am 2 flynedd y cewch fyw y tu allan i’r DU.

Gweld beth sydd ei angen arnoch i wneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais i’r Cynllun Windrush ar gael ar GOV.UK.

Hawlio budd-daliadau a chael cymorth gyda thai

Os oes gennych statws preswylydd sefydlog, gallwch wneud cais am fudd-daliadau neu gymorth gyda thai gan eich cyngor lleol.

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog, gallwch wneud cais am fudd-daliadau a chymorth tai os oes gennych 'hawl i breswylio' hefyd - mae hyn yn dibynnu ar bethau fel eich gwaith a'ch teulu.

Gallwch weld a oes gennych hawl preswylio i gael budd-daliadau a gweld a oes gennych hawl preswylio i gael tŷ.

Siaradwch â chynghorydd os ydych chi'n poeni am hawlio budd-daliadau a chael help gyda thai.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 01 Gorffennaf 2021