Cyngor ar Bopeth Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
Cyngor ar Bopeth Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
Rydyn ni’n darparu cyngor cyfrinachol, diduedd am ddim, ac yn ymgyrchu ar faterion o bwys sy’n effeithio ar fywydau pobl.
Ein nod yw helpu pawb i ddod o hyd i ffordd ymlaen, beth bynnag yw’r problemau sydd o'u blaenau.
Rydyn ni'n rhwydwaith annibynnol ac yn rhan o rwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru a Lloegr.
Sut allwn ni helpu?
Cael cyngor ar-lein gan Cyngor ar Bopeth
Mwy
Mae pobl yn dod atom i drafod pob math o bethau. Efallai fod gennych chi broblemau sy'n ymwneud ag arian, budd-daliadau, tai neu swyddi.
Efallai eich bod yn wynebu argyfwng, neu yn ystyried eich dewisiadau yn unig.
Rydyn ni'n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio unrhyw achos o wahaniaethu a welwn.
Gwirfoddolwch gyda ni
Mae ein gwirfoddolwyr medrus yn dod o gefndiroedd gwahanol ac yn ein helpu gyda phopeth a wnawn.
Dyma ein rolau diweddaraf. Allwch chi ymuno â nhw?
Ymgyrchoedd
Rydyn ni'n defnyddio profiadau, straeon a thystiolaeth ein cleientiaid er mwyn ymchwilio ac ymgyrchu dros gyflwyno newidiadau cadarnhaol yn lleol ac yn genedlaethol.
Cyfrannwch i helpu ni barhau i roi cyngor am ddim
Heb gefnogaeth hael pobl fel chi, allwn ni ddim parhau i wneud ein gwaith.
Diolch i'n holl gefnogwyr a phartneriaid
Bridgend County Borough Council, Welsh Government Initiative and Communities First.