Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Siarcod benthyg

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ynglŷn â siarcod benthyg

Mae’r wybodaeth hon yn esbonio benthyca anghyfreithlon a’r hyn ddylech wneud os ydych wedi benthyg gan siarc arian.

Beth yw siarc benthyg

Os ydych am fenthyca arian yn gyfreithiol, mae’n rhaid eich bod wedi cael eich awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae pobl sy’n benthyca arian heb awdurdodiad yr FCA yn torri’r gyfraith. Cânt eu hadnabod fel siarcod benthyg.

Mae siarcod benthyg yn aml yn gweithio o gartref, yn codi cyfraddau llog uchel iawn ac nid ydynt yn rhoi llawer o ddogfennaeth i chi sy’n cadarnhau’r trefniadau sydd rhyngoch.

Mae siarcod benthyg yn aml yn cymryd camau anghyfreithlon i gasglu eu harian, megis bygwth trais neu gymryd eich cardiau credyd neu bethau gwerthfawr. Mewn achosion eithafol, maen nhw wedi gorfodi rhai i buteindra a delio cyffuriau.

Os yw siarc benthyg yn eich bygwth neu’n ymddwyn yn dreisgar, cysylltwch â’r heddlu ar unwaith.

Gwirio bod benthyciwr wedi’i awdurdodi

Os ydych yn benthyg arian gan rywun sydd heb drwydded, nhw sydd wedi torri’r gyfraith, nid chi. Gallwch ddarganfod p’un ai bod gan fenthyciwr arian awdurdodiad drwy wirio'r gofrestr ar wefan yr FCA yn www.fca.org.uk.

Beth i’w wneud os oes arnoch arian i siarc benthyg

Os ydych yn credu bod benthyciwr arian yn gweithredu heb drwydded, yn Lloegr neu yn yr Alban, gallwch siarad yn gyfrinachol â Llinell Frys Benthyca Arian Anghyfreithlon ar 0300 555 2222. Os ydych chi’n ffonio o’r Alban, bydd eich galwad yn cael ei chyfeirio at brosiect o’r enw Scottish Illegal Money Lending Project. Rydych hefyd yn medru ffonio’r Prosiect yn uniongyrchol ar 0141 287 6655.

Yng Nghymru a Lloegr, rydych hefyd yn medru e-bostio’r Tîm Benthyca Arian Anghyfreithlon, e-bostiwch reportaloanshark@stoploansharks.gov.uk neu anfonwch neges o’ch ffôn symudol gyda’r geiriau loan shark a’ch neges at 60003.

Yng Nghymru, gallwch adrodd unrhyw bryderon ynglŷn â benthyciwr arian i Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru sy’n gweithredu llinell gymorth 24 awr gyfrinachol ar 0300 123 33 11.

Yng Ngogledd Iwerddon gallwch gysylltu â Llinell Defnyddwyr Safonau Masnach ar 0300 123 6262.

Gall yr ymgynghorwyr eich helpu. Mae’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eu helpu i gymryd camau i stopio benthyca arian anghyfreithlon.

Cewch hyd i fwy o wybodaeth am siarcod benthyg ar wefan Directgov sef www.direct.gov.uk.

Os ydych mewn dyled neu os ydych yn meddwl am fenthyg gan siarc benthyg, mynnwch gyngor yn gyntaf, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o fenthyg arian a chael credyd gan gynnwys delio â siarcod benthyg, gweler Mathau o fenthyciadau.

Gallai’r wybodaeth ganlynol yn Adviceguide hefyd fod yn gynorthwyol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

Directgov

Gwefan: www.direct.gov.uk

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.