Kept in the dark (Wales) | Adroddiad Kept in the dark (Cymru)
Kept in the dark (Wales) [ 460 kb]
Last year Citizens Advice Cymru helped more people who can't afford to top up their prepayment meter (PPM) than in the whole of the last 10 years combined.
The difficulties many PPM users are facing is confirmed by new Citizens Advice research which found 32% of PPM users in Wales have been disconnected from their energy supply over the last year because they can’t afford to top-up.
Worryingly, during 2022 our local offices in Wales also helped more and more people who have been moved onto a PPM (including having their smart meter switched to prepay mode) as a result of falling behind on energy bills.
Adroddiad Kept in the Dark (Cymru) [ 460 kb]
Llynedd helpodd Cyngor ar Bopeth Cymru fwy o bobl a oedd yn methu â fforddio rhoi arian tuag at eu mesuryddion rhagdalu (PPM) mewn blwyddyn nag yr oedden nhw wedi’i wneud yn ystod y deng mlynedd flaenorol.
Mae’r anawsterau y mae llawer o ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu yn eu hwynebu wedi’u cadarnhau gan ymchwil newydd gan Gyngor ar Bopeth a ganfu fod 32% o ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu yng Nghymru wedi’u datgysylltu o’u cyflenwad ynni dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd na allant fforddio ychwanegu ato.
Yn destun pryder, yn ystod 2022 fe wnaeth ein swyddfeydd lleol yng Nghymru hefyd helpu mwy o bobl sydd wedi cael eu symud i fesuryddion rhagdalu (gan gynnwys newid eu mesurydd clyfar i ddull rhagdalu) o ganlyniad i fod ar ei hôl hi gyda’u biliau ynni.
Ym mis Medi 2022 galwodd Cyngor ar Bopeth am waharddiad dros dro dros y gaeaf ar osod mesuryddion rhagdalu (gan gynnwys switshis o bell) ar gyfer dyledion. Erbyn hyn, nid ydym yn credu bod hyn yn ddigonol.