Defnyddio ein gwefan - ein polisi preifatrwydd
Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan rydym yn casglu gwybodaeth gennych fel data lleoliad, cwcis, neu wybodaeth bersonol a gawsom gennych drwy lenwi ffurflenni ar-lein.
Cyngor trwy we-sgwrs ac e-bost
Os ydych chi'n defnyddio gwe-sgwrs, cyngor e-bost neu ffurflen i ofyn am gyngor, gallwch ddysgu mwy am sut rydym yn defnyddio ac yn storio eich gwybodaeth.
Cwcis
Rydym yn defnyddio data a elwir yn gwcis i gael gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan - er enghraifft, pa dudalennau rydych chi'n clicio arnynt a pha ddyfais rydych chi'n ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella eich profiad o'n gwefan.
Dysgwch fwy am sut rydym yn casglu ac yn defnyddio cwcis pan fyddwch yn pori ein gwefan.
Eich lleoliad
Gyda'ch caniatâd, rydym yn casglu data am eich lleoliad - hyd at bellter o 1 cilomedr sgwâr. Nid oes modd defnyddio'r wybodaeth hon i'ch adnabod - mae'n gwbl ddienw.
Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod pobl yn cael y cynnwys sy'n berthnasol i ble maent yn byw.
Hefyd, mae'n golygu bod modd i ni weld sut mae'r galw am ein cynnwys yn newid yn ôl lleoliad - er enghraifft, os oes llawer o bobl yn edrych ar gyngor ar dai mewn un ardal o'r wlad, gallwn dargedu ein gwasanaethau i ddiwallu'r angen hwnnw neu ymchwilio i'r rhesymau am y problemau gyda thai yn yr ardal honno.
Sut rydym yn casglu eich data lleoliad
Byddwn yn defnyddio Google Analytics i gasglu eich data lleoliad. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan am y tro cyntaf, bydd blwch yn ymddangos ar ochr chwith uchaf eich sgrin yn dweud y byddai Cyngor ar Bopeth yn hoffi gwybod eich lleoliad. Gallwch ddewis ei rwystro, neu ganiatáu i'ch lleoliad gael ei rannu gyda ni.
Ni fyddwn byth yn casglu eich data lleoliad ar dudalennau yn ymwneud â cham-drin domestig neu drais, nac ar dudalennau yn ymwneud â mewnfudo.
Os nad ydych am i Google Analytics gasglu eich data, gallwch optio allan drwy lawrlwytho'r plwg optio allan i'ch dyfais.
Storio a rhannu eich data lleoliad
Mae eich data lleoliad yn cael ei storio yn Google Analytics. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Google i gael rhagor o wybodaeth am sut mae'n trin eich data.
Rydym yn lawrlwytho eich data o Google Analytics i'n systemau mewnol diogel. Byddwn yn defnyddio'r data i greu ystadegau dienw yn ymwneud â sut mae pobl mewn lleoliadau gwahanol yn defnyddio ein gwefan. Gallem rannu'r ystadegau hyn â swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol i'w helpu i nodi pa gyngor y mae pobl yn chwilio amdano yn eu hardal.
Rydym yn cadw data lleoliad am 38 mis cyn ei ddileu.
Os ydych wedi defnyddio nodwedd arall ar ein gwefan
Hefyd, rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch yn y sefyllfaoedd canlynol:
-
rydych yn defnyddio'r swyddogaeth 'Tudalen e-bost' ar ein tudalennau gwe
-
rydych yn gynghorydd sydd wedi defnyddio'r ffurflen adborth i roi adborth i ni
-
rydych yn cwblhau llythyrau templed ar ein tudalennau cyngor
Os ydych wedi defnyddio'r swyddogaeth 'Tudalen e-bost'
Byddwn yn casglu eich enw, eich cyfeiriad e-bost a chyfeiriad e-bost y person rydych am anfon y dudalen ato. Rydym yn casglu'r manylion hyn fel bod modd i chi e-bostio dolen o'r dudalen at rywun rydych chi'n ei adnabod. Hefyd, rydym yn casglu ac yn storio'r dyddiad a'r amser pan anfonwyd eich e-bost.
Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio yn system rheoli cynnwys ein gwefan, a dim ond staff TG Cyngor ar Bopeth sy'n gallu gweld y wybodaeth.
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth â gweinydd e-bost Amazon AWS fel bod modd iddo anfon yr e-bost atoch ar ein rhan. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall ac ni fydd yn cael ei rhannu ag unrhyw un arall.
Mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar ein system am gyfnod amhenodol, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei dileu.
Os ydych chi wedi defnyddio'r ffurflen adborth
Nid ydym yn casglu eich manylion personol pan fyddwch yn cwblhau ein ffurflen adborth, oni bai eich bod yn gynghorydd.
Os ydych yn gynghorydd
Pan fyddwch yn gadael adborth ar ein gwefan fel cynghorydd, rydym yn gofyn am eich manylion cyswllt gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn. Mae'n ddewisol - gallwch adael adborth yn ddienw os dymunwch.
Byddwn yn cael eich caniatâd i gasglu eich gwybodaeth fel hyn drwy ofyn i chi roi tic mewn bocs yn ein ffurflen adborth.
Rydym yn defnyddio eich adborth i wella ein gwefan. Gallai hyn gynnwys materion fel cywiro dolenni sydd wedi torri neu wella ein cyngor ar-lein.
Rydym yn defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu â chi ynglŷn â'ch adborth os oes angen.
Rydym ond yn defnyddio eich gwybodaeth am resymau eraill os oes angen gwirioneddol i ni wneud hynny - er enghraifft, i ymchwilio i gwynion.
Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol.
Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel ar ein systemau mewnol ein hunain. Mae'r holl gynghorwyr a staff sy'n cael mynediad at eich data wedi cael hyfforddiant diogelu data er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn sensitif ac yn ddiogel.
Mae'r ffurflen adborth yn cael ei darparu gan ein partner ymchwil dibynadwy, Survey Monkey. Rydym yn cadw eich manylion yn ddiogel ar ei system.
Rydym yn cadw eich adborth am gyfnod amhenodol, ond byddwn yn dileu eich manylion personol ar ôl 2 flynedd - mae hyn yn cynnwys eich enw, eich manylion cyswllt ac enw eich Cyngor ar Bopeth lleol.
Os ydych wedi defnyddio llythyr templed
Nid yw'r wybodaeth a nodwyd gennych yn eich llythyr yn cael ei chadw ar ein systemau. Cyn gynted ag y byddwch yn cau'r adnodd neu'r dudalen we, bydd y wybodaeth yn cael ei dileu o'n systemau.
Cysylltu â ni ynglŷn â'ch gwybodaeth
Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i holi am y canlynol:
-
pa wybodaeth amdanoch sy'n cael ei storio gennym
-
os ydych am newid neu ddiweddaru eich manylion
-
os ydych am i ni ddileu eich manylion o'n cofnodion
Anfonwch neges atom: individualrights@citizensadvice.org.uk.
Os ydych chi eisiau cwyno
Os nad ydych yn hapus â sut rydym wedi ymdrin â'ch data, gallwch gwyno.