Beth sy’n digwydd ar ôl yr achos os ydych chi’n dyst
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y byddwch chi am adael y llys ar ôl rhoi tystiolaeth. Ond bydd yr achos yn parhau a gallwch eistedd yn ystafell y llys i wrando ar y gweddill neu ddod yn ôl i weld y dyfarniad.
Gallai fod yn ddefnyddiol i chi hefyd siarad am y profiad gyda gwirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion cyn i chi adael y llys.
Os ydych chi am wybod canlyniad yr achos
Ar ddiwedd y treial, bydd y llys yn rhoi'r canlyniad - bydd y diffynnydd yn euog neu'n ddieuog. Os byddant yn eu cael yn euog, bydd y llys yn rhoi dedfryd iddynt - bydd hyn yn digwydd naill ai yn syth ar ôl y treial neu ar ddiwrnod arall.
Os oeddech yn dyst i'r erlyniad, bydd yr Uned Gofal Tystion (neu'r heddlu) yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad y treial. Os cafwyd y diffynnydd yn euog, bydd yr Uned Gofal Tystion hefyd yn dweud wrthych beth yw'r ddedfryd ac yn egluro beth mae'n ei olygu.
Os oeddech yn dyst dros yr amddiffyniad, gallwch gysylltu â'r llys neu gyfreithiwr yr amddiffyniad a fydd yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.
Os mai chi oedd dioddefwr y drosedd, gallwch ddarparu datganiad yn y gwrandawiad pan fydd y diffynnydd yn cael ei ddedfrydu - os dymunwch. Bydd gwneud datganiad yn gadael i chi esbonio sut mae'r drosedd wedi effeithio arnoch chi. Bydd yr heddlu yn dweud mwy wrthych am wneud datganiad a sut i gael cymorth.
Rhagor o wybodaeth am ddedfrydu.
Os ydych chi’n poeni am gael eich bygwth am eich bod wedi ymddangos fel tyst
Dywedwch wrth yr heddlu ar unwaith. Gallwch hefyd ofyn i’r Gwasanaeth Tystion eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau eraill a all gynnig help a chefnogaeth i chi.
Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni eich bod am gael eich bygwth.
Beth fydd yn digwydd os oes apêl
Os oes apêl yn erbyn y ddedfryd neu’r euogfarn, mae’n annhebygol iawn y bydd yn rhaid i chi fod yn dyst eto.
Os oes rhaid i chi fynd yn ôl i'r llys, gall rhywun o'r Gwasanaeth Tystion eich helpu eto. Gallwch wirio sut i gysylltu â'r Gwasanaeth Tystion.
Helpwch ni i wella ein cyngor ar fynd i'r llys. Dywedwch wrthym sut y gallwn wella ein gwefan yn yr arolwg 3 munud hwn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.