Paratoi i fynd i’r llys fel tyst

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Byddwch yn cael gwybod dyddiad y treial gan y person a ofynnodd i chi fynd i’r llys.

Byddan nhw’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud am bethau fel trafnidiaeth a gofal plant, er mwyn i chi allu cynllunio ymlaen llaw.

Os ydych yn poeni am fynd i’r llys, gallwch gael cymorth cyfrinachol am ddim gan y Gwasanaeth Tystion. Gallant roi cymorth emosiynol i chi a'ch helpu i ddeall proses y llys.

Gallwch ddarganfod mwy am y Gwasanaeth Tystion a sut i gael cymorth.

Os ydych chi angen amser i ffwrdd o’r gwaith

Os nad ydych chi eisoes wedi siarad gyda’ch cyflogwr, rhowch wybod iddyn nhw cyn gynted â phosibl y byddwch chi angen amser i ffwrdd o’r gwaith.

Does dim rhaid i’ch cyflogwr eich talu chi am amser i ffwrdd o’r gwaith pan fyddwch chi’n mynd i’r llys fel tyst. Ond gallwch hawlio treuliau am golli enillion – gofynnwch i wirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion am ffurflen ar ddiwrnod yr achos.

Os yw’ch cyflogwr yn gwrthod rhoi amser i ffwrdd i chi

Dylech siarad gyda’ch swyddog gofal tystion neu gyfreithiwr yr amddiffyniad.

Gall y llys roi ‘gwŷs tyst’ i chi er mwyn i chi allu ei ddangos i’ch cyflogwr i brofi bod yn rhaid i chi fynd.

Os na allwch chi fynd i’r llys ar y dyddiad dan sylw

Os ydych chi’n sâl neu os oes argyfwng teuluol er enghraifft, dywedwch wrth eich swyddog gofal tystion neu gyfreithiwr yr amddiffyniad ar unwaith. Efallai y gall y llys barhau â’r achos heboch chi, ond yn aml bydd yn rhaid iddynt newid y dyddiad er mwyn i chi allu rhoi tystiolaeth.

Beth i’w wisgo yn y llys

Does dim rheolau ynglŷn â beth ddylech chi ei wisgo yn y llys, ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwisgo'n smart. Beth bynnag y byddwch chi’n ei wisgo, gofalwch eich bod yn gyfforddus gan y gallai fod yn ddiwrnod hir.

Os ydych chi angen trefnu gofal plant

Gallwch hawlio hyd at £67 am bob diwrnod y byddwch chi yn y llys i dalu am ofal plant.

Os ydych chi’n dod â’ch plant i’r llys, yna bydd angen i chi ddod â ffrind neu berthynas gyda chi i ofalu amdanynt – ni chaniateir plant dan 14 oed yn ystafell y llys oni bai eu bod yn rhoi tystiolaeth.

Holwch i weld a oes gan y llys y byddwch yn mynd iddo gyfleusterau newid babi, os oes eu hangen arnoch chi.

Os ydych chi’n poeni am fynd i’r llys oherwydd coronafeirws

Dylai’r llys ddilyn rheolau penodol i’ch cadw’n ddiogel – gallwch ddarllen y canllawiau diweddaraf ar GOV.UK.

Gallwch wirio sut i baratoi os bydd y llys yn trefnu gwrandawiad dros y ffôn neu alwad fideo.

Cysylltwch â’r llys os nad ydynt wedi dweud wrthych sut i fynychu eich gwrandawiad. Gallwch chwilio am fanylion cyswllt y llys ar GOV.UK.

Cynllunio eich taith

Gallwch ddod o hyd i fap a chyfarwyddiadau ar gyfer y llys rydych chi’n mynd iddo ar adnodd dod o hyd i lysoedd a thribiwnlysoedd GOV.UK.

Mae’n syniad da cynllunio eich taith i’r llys ymlaen llaw er mwyn i chi allu sicrhau bod gennych chi ddigon o amser ar ddiwrnod yr achos. Os nad ydych chi’n siŵr sut i gyrraedd y llys, gofynnwch i rywun o’r Gwasanaeth Tystion – bydd ganddyn nhw wybodaeth leol am yr ardal.

Os ydych chi’n gyrru i’r llys, parciwch yn rhywle y gallwch chi aros am y dydd - gallai’r achos gael ei ohirio neu gallai fynd ymlaen yn hirach na’r disgwyl.

Gallwch hawlio costau teithio, tâl parcio a thaliadau tagfeydd.

Os nad ydych chi’n gallu fforddio cyrraedd y llys

Gallwch gael arian ymlaen llaw os ydych chi’n dyst i’r erlyniad – rhowch wybod i’r Uned Gofal Tystion.

Os ydych chi’n dyst i’r amddiffyniad, siaradwch â chyfreithiwr yr amddiffyniad.

Os ydych chi’n cael gwŷs tyst, gall yr heddlu dalu i chi deithio os oes angen.

Os ydych chi’n anabl

Gallwch ddefnyddio adnodd dod o hyd i lysoedd a thribiwnlysoedd GOV.UK i gael gweld:

  • pa gyfleusterau parcio, mynediad a thoiledau anabl sydd ar gael yn y llys

  • a oes gan y llys gyfleusterau cymorth clyw

Helpwch ni i wella ein cyngor ar fynd i'r llys. Dywedwch wrthym sut y gallwn wella ein gwefan yn yr arolwg 3 munud hwn.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.