Mynd i’r llys fel tyst os ydych chi dan 18 oed
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi gweld trosedd neu wedi dioddef trosedd, efallai y bydd gofyn i chi fynd i’r llys i siarad am y peth. Mynd i’r llys fel tyst yw’r enw ar hyn.
Peidiwch â phoeni – byddwch chi’n gallu cael cymorth a chefnogaeth. Mae’n bwysig cofio nad chi sydd mewn trwbwl.
Siarad â’r heddlu
Os ydych chi’n rhoi gwybod am drosedd, bydd angen i chi ddweud beth ddigwyddodd wrth yr heddlu. Bydd yr heddlu yn ysgrifennu’r hyn rydych chi’n ei ddweud ar bapur neu’n gwneud fideo ohono – datganiad yw’r enw ar hyn.
Bydd yr heddlu a phobl eraill sy’n rhan o’ch achos – er enghraifft y barnwr, yn darllen eich datganiad neu’n gwylio eich fideo. Efallai y bydd yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn llys.
Fel arfer, ni fydd eich rhieni neu bwy bynnag sy’n gofalu amdanoch chi yn yr ystafell gyda chi pan fyddwch chi’n gwneud datganiad. Os ydych chi am stopio a’u gweld nhw, gofynnwch i swyddog yr heddlu.
Beth sy’n digwydd nesaf
Cewch glywed a oes angen i chi fynd i’r llys ai peidio, gan yr heddlu neu gyfreithiwr fel arfer os ydych chi’n dyst i’r amddiffyn.
Os oes raid i chi fynd i’r llys, efallai na fydd yn rhaid i chi hyd yn oed roi tystiolaeth ar y diwrnod. Er enghraifft, gall hyn ddigwydd os yw’r person sydd dan amheuaeth gan yr heddlu yn cyfaddef hynny.
Cymorth os oes raid i chi fynd i’r llys
Os oes raid i chi fynd i’r llys, gallwch gael cymorth gan y Gwasanaeth Tystion. Byddant yn eich helpu gydol y broses.
Bydd yr heddlu neu’r person a ofynnodd i chi fynd i’r llys yn trefnu i’r Gwasanaeth Tystion eich helpu. Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth.
Bydd rhywun o’r Gwasanaeth Tystion yn:
dod i’ch cartref, ysgol neu rywle lle byddwch chi’n teimlo’n saff i drafod beth fydd yn digwydd yn y llys
ateb cwestiynau sydd gennych chi am yr achos
eich cefnogi yn y llys ar ddiwrnod yr achos
Bydd y Gwasanaeth Tystion yn cysylltu â’ch rhieni neu bwy bynnag sy’n gofalu amdanoch chi cyn yr achos.
Y cymorth y byddwch chi’n ei gael os oes rhaid i chi roi tystiolaeth
Bydd y llys yn penderfynu sut byddwch chi’n rhoi tystiolaeth ond mae’n bwysig eu bod yn gwybod sut rydych chi’n teimlo wrth iddyn nhw wneud eu penderfyniad
Gallwch drafod yr opsiynau ar gyfer rhoi tystiolaeth gyda gwirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion sy’n eich helpu. Er enghraifft, efallai y byddwch chi am:
roi eich tystiolaeth mewn ffordd arbennig yn ystafell y llys – er enghraifft y tu ôl i sgrin fel na fyddwch yn gallu gweld y person sydd wedi’i gyhuddo o’r drosedd
rhoi tystiolaeth y tu allan i ystafell y llys - er enghraifft drwy gyswllt fideo
cael y barnwr a chyfreithwyr i wisgo dillad arferol yn hytrach na’u wigiau a’u gynau
cael rhywun i eistedd wrth eich ochr yn y llys i’ch helpu i ddeall unrhyw eiriau anodd y bydd y barnwr neu gyfreithwyr yn eu defnyddio
Gallwch hefyd ofyn am gael mynd i mewn i’r llys trwy fynedfa wahanol i’r brif fynedfa fel nad ydych yn gweld unrhyw un sy’n ymwneud â’r achos.
Pethau i’w gwneud cyn diwrnod yr achos
Gallwch ymweld â’r llys cyn diwrnod yr achos. Mae’n syniad da gwneud hyn gan ei fod yn golygu y byddwch yn gwybod beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod. Os nad ydych chi’n gallu mynychu ystafell y llys, gofynnwch i wirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion a allwch chi weld un cyn i chi roi tystiolaeth ar y diwrnod. Os nad oes ystafell llys ar gael, byddant yn dangos llun i chi.
Gall gymryd cryn amser cyn i chi orfod mynd i’r llys i siarad am yr hyn sydd wedi digwydd i chi neu’r hyn a welsoch chi. Peidiwch â phoeni am anghofio’r hyn ddywedoch chi yn eich datganiad – cewch weld eich datganiad cyn yr achos.
Beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod yr achos
Bydd gwirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion yno i’ch cyfarfod a’ch cefnogi drwy’r dydd - gallant hefyd helpu eich rhieni neu bwy bynnag sy’n dod gyda chi.
Byddant yn dangos y llys i chi ac yn egluro beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n rhoi’ch tystiolaeth.
Bydd y person sy’n eich helpu hefyd yn dangos lle gallwch chi aros - bydd hyn i ffwrdd o’r bobl eraill sy’n rhan o’r achos. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros rhywfaint cyn rhoi’ch tystiolaeth felly mae’n syniad da dod â rhywbeth i’w ddarllen neu gem i basio’r amser gyda chi.
Gallwch ddefnyddio’ch ffôn wrth aros ond chewch chi ddim ei ddefnyddio i siarad am yr achos – mae hyn yn cynnwys gwefannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Snapchat.
Beth fydd yn digwydd yn ystafell y llys
Os oes rhaid i chi fynd i ystafell y llys i roi tystiolaeth, byddwch yn sefyll mewn blwch tystion.
Sut bynnag y byddwch chi’n rhoi eich tystiolaeth, os ydych chi’n 14 oed neu’n hŷn bydd yn rhaid addo eich bod am ddweud y gwir cyn i chi ateb cwestiynau am yr hyn a ddigwyddodd. Mae’n erbyn y gyfraith peidio â dweud y gwir pan fyddwch chi’n rhoi tystiolaeth.
Yna, bydd y cyfreithwyr yn gofyn cwestiynau i chi ynglŷn â beth ddigwyddodd a bydd y barnwr neu ynadon a phobl eraill yn y llys yn gwrando.
Pan fydd y cyfreithiwr yn gofyn cwestiynau i chi gallwch:
ofyn iddyn nhw ailadrodd y cwestiwn neu ei ofyn mewn ffordd wahanol
dweud os nad ydych chi’n gwybod yr ateb
gofyn iddyn nhw egluro unrhyw eiriau nad ydych chi’n eu deall
Weithiau bydd y cyfreithwyr yn awgrymu atebion i’w cwestiynau eu hunain - does dim rhaid i chi gytuno â nhw oni bai bod eu hawgrym yn wir.
Dywedwch wrth y barnwr neu’r ynad os ydych chi’n:
gwneud camgymeriad neu’n drysu
teimlo’n ofidus ac eisiau stopio
angen diod o ddŵr
angen hoe neu fynd i’r toiled
Mae’r llys am glywed beth ddigwyddodd yn eich geiriau chi eich hun felly peidiwch â bod ofn cymryd eich amser.
Ar ôl yr achos
Ar ôl i chi ateb yr holl gwestiynau yn ystafell y llys, gallwch chi fynd adref.
Os ydych chi am gael clywed beth ddigwyddodd yn yr achos, gallwch ofyn i’r heddlu neu’r person a ofynnodd i chi roi tystiolaeth.
Os ydych chi am siarad am eich profiad o roi tystiolaeth, gofynnwch i wirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion.
Helpwch ni i wella ein cyngor ar fynd i'r llys. Dywedwch wrthym sut y gallwn wella ein gwefan yn yr arolwg 3 munud hwn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.