Os ydych chi’n cael gwŷs tyst
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi bod yn dyst i drosedd, efallai y byddwch chi’n cael gwŷs tyst yn dweud wrthych chi am fynd i’r llys. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi fod yn y llys ar ddiwrnod y treial a rhoi tystiolaeth os gofynnir i chi wneud hynny.
Dylech fynd i'r llys os ydych chi'n cael gwŷs – gall yr heddlu eich arestio a mynd â chi i'r llys fel arall.
Gallwch gael gwŷs gan y llys:
os nad ydyn nhw wedi gallu cysylltu â chi gyda rhybudd tyst
os ydynt nhw'n credu na fyddwch chi'n dod ar y diwrnod o bosibl
os ydych chi wedi dweud na fyddwch chi'n mynd i'r llys
os cawsoch chi wybod dyddiad yr achos ond na wnaethoch chi fynd
Os yw'ch cyflogwr wedi dweud na fydden nhw'n rhoi amser i ffwrdd i chi, gallai'r llys roi gwŷs i chi ei dangos i'ch cyflogwr.
Os ydych chi’n poeni am fynd i’r llys
Gallwch gael cymorth cyfrinachol am ddim gan y Gwasanaeth Tystion. Gallant roi cymorth emosiynol i chi a'ch helpu i ddeall proses y llys.
Gallwch ddarganfod mwy am y Gwasanaeth Tystion a sut i gael cymorth.
Helpwch ni i wella ein cyngor ar fynd i'r llys. Dywedwch wrthym sut y gallwn wella ein gwefan yn yr arolwg 3 munud hwn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.