Gwirio a ydych wedi profi trosedd casineb neu ddigwyddiad casineb

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi wedi profi trosedd, mae hefyd yn drosedd casineb os ydych chi'n meddwl bod ymddygiad yr unigolyn wedi'i ysgogi gan ragfarn yn eich erbyn:

  • oherwydd eich hil neu grefydd

  • oherwydd eich rhywioldeb

  • oherwydd eich bod yn anabl

  • oherwydd eich bod yn trawsrywiol

Er enghraifft, mae’n drosedd casineb os bydd rhywun yn ymosod arnoch chi ac yn defnyddio iaith homoffobaidd neu’n taflu bricsen drwy’ch ffenest ac yn ysgrifennu graffiti hiliol ar eich tŷ.

Mae’n dal i fod yn drosedd casineb os yw rhywun wedi gwneud camgymeriad ynglŷn â’ch hunaniaeth. Er enghraifft, os gwnaethant ymosod arnoch oherwydd eu bod yn meddwl eich bod yn Fwslimaidd, ond nid ydych.

Mae'r gosb ar gyfer trosedd yn fwy difrifol os yw'n drosedd casineb.

Os ydych chi wedi profi rhywbeth nad oedd yn drosedd, ond rydych chi'n meddwl ei fod wedi'i ysgogi gan ragfarn yn eich erbyn, mae'n ddigwyddiad casineb. Er enghraifft, pe bai rhywun yn gweiddi geiriau cas arnoch chi o'u car.

Os ydych chi'n profi mwy nag un digwyddiad casineb gan yr un person neu grŵp o bobl, gallai gyfrif fel aflonyddu. Gall aflonyddu fod yn drosedd. Er enghraifft, gallai fod yn aflonyddu os bydd rhywun ar eich stryd yn gweiddi'n sarhaus arnoch chi.

Os nad ydych yn siŵr a oedd yr hyn a ddigwyddodd yn drosedd casineb neu’n ddigwyddiad casineb, gallwch gael help gan wasanaeth cymorth troseddau casineb.

Gwiriwch beth allwch chi ei wneud am drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb

Gallwch roi gwybod i’r heddlu os ydych wedi:

  • profi trosedd neu ddigwyddiad casineb

  • gweld trosedd neu ddigwyddiad casineb yn digwydd i rywun arall

Mae’n werth ei riportio i’r heddlu hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl ei fod yn ddifrifol iawn. Weithiau gall digwyddiadau casineb bach arwain at rai mwy difrifol. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun yn dechrau trwy wneud jôcs sarhaus - ond fe allent frifo rhywun yn y pen draw.

Os ydych chi’n profi mwy nag un digwyddiad casineb gan yr un person neu grŵp o bobl, mae’n werth riportio pob digwyddiad i’r heddlu.

Gwiriwch sut i riportio trosedd casineb i'r heddlu.

Cael cymorth gan wasanaeth cymorth troseddau casineb

Gallwch gael cymorth a chefnogaeth gan wasanaeth cymorth troseddau casineb, hyd yn oed os nad ydych am riportio’r drosedd neu’r digwyddiad casineb. Er enghraifft, efallai y gallant eich helpu i atgyweirio difrod a achoswyd gan drosedd casineb neu eich cyfeirio at gwnsela.

Gall rhai gwasanaethau cymorth troseddau casineb hefyd riportio’r drosedd neu ddigwyddiad casineb i’r heddlu ar eich rhan – er enghraifft, os nad ydych am fynd at yr heddlu. Bydd eich manylion yn cael eu cadw’n ddienw ac nid oes rhaid i chi gael unrhyw gysylltiad â’r heddlu os nad ydych chi eisiau.

Gwiriwch sut i gael cymorth gan wasanaeth cymorth troseddau casineb.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.