Llinell gymorth gwahaniaethu Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi profi gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallwch gael help gan linell gymorth y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). Gwiriwch a ydych wedi profi gwahaniaethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Gall Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb eich helpu i ddelio â’ch problem heb orfod mynd i’r llys neu dribiwnlys. Gallant:
esbonio beth mae'r gyfraith yn ei ddweud a sut mae hyn yn berthnasol i chi
esbonio sut mae modd datrys sefyllfa
eich cefnogi chi i geisio datrys materion yn anffurfiol - er enghraifft, efallai y gallant gysylltu â'r sefydliad a wahaniaethodd yn eich erbyn
os nad oes modd datrys y materion yn anffurfiol, eich cyfeirio chi at wasanaeth cymodi neu gyfryngu
eich helpu i ganfod a allwch gael cymorth cyfreithiol os ydych am fynd i’r llys
esbonio sut i gychwyn hawliad llys
Ni all Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb roi cyngor cyfreithiol i chi. Os byddwch yn mynd i’r llys neu dribiwnlys, ni allant eich helpu gyda’ch achos ar ôl i chi ddechrau eich hawliad. Mae hyn yn golygu na allant:
cynrychioli chi yn y llys
dweud wrthych pa mor gryf yw eich achos
dweud wrthych pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch
rhoi cyngor i chi am brosesau llys neu dribiwnlys
Sut i gysylltu ag Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb
Llinell Gymorth Gwasanaeth Cynghori ar Gydraddoldeb (EASS)
RHADBOST
Llinell Gymorth EASS
FPN6521
Rhif ffôn: 0808 800 0082
Ffôn testun: 0808 800 0084
Llun i Gwener, 9am i 7pm
Dydd Sadwrn, 10am i 2pm
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS
www.equalityadvisoryservice.com
Mae'r gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg (o ddydd Llun i ddydd Gwener) a gallwch ddefnyddio'r Llinell Iaith i gael cyngor mewn ieithoedd eraill ac yn y Gymraeg ar benwythnosau. Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth yn y Gymraeg, ffoniwch rif y llinell gymorth a dewiswch yr opsiwn ar gyfer cynghorydd sy'n siarad Cymraeg.
Darganfod sut i gael help EASS yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Weithiau gall y gwasanaeth drefnu cymorth ychwanegol fel bod pobl ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl yn gallu defnyddio’r llinell gymorth a deall y cyngor. Os oes angen help ychwanegol arnoch, gofynnwch i gynghorydd EASS.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.