Atgyweiriadau - lleithder

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Dydy hi ddim yn hawdd gwybod bob tro a yw'ch landlord yn gyfrifol am ddatrys problemau gyda lleithder. Y rheswm am hyn yw ei bod yn anodd weithiau canfod union achos lleithder heb gymorth syrfëwr, oni bai bod y broblem yn amlwg, fel to yn gollwng dŵr.

Dylech nodi pa fath o leithder sydd gennych chi

Mae lleithder yn broblem gyffredin i lawer o denantiaid sy'n rhentu llety. Mae sawl math o leithder:

  • lleithder sy'n codi, sy'n digwydd pan fydd lleithder yn codi o'r ddaear drwy'r gwaith maen i uchder o tua metr

  • lleithder treiddiol, sy'n digwydd pan fydd dŵr yn treiddio i mewn i ffabrig adeilad o'r tu allan i'r tu mewn, er enghraifft, oherwydd pibell ddŵr yn gollwng

  • lleithder adeiladwaith, lle mae lleithder yn cael ei achosi gan broblem yn y modd y dyluniwyd yr eiddo

  • lleithder anwedd, sy'n digwydd fel arfer pan na all eiddo ymdopi â lefelau arferol o anwedd dŵr oherwydd diffyg inswleiddio, awyru neu wresogi, neu gyfuniad o'r elfennau hyn.

Ymdrin â lleithder sy'n codi

Mae lleithder sy'n codi yn fwy cyffredin mewn adeiladau hŷn. Yn gyffredinol, mae'n effeithio ar ran isaf llawr gwaelod eiddo hyd at uchder o tua 1 metr. Felly, os ydych yn byw'n uwch na'r llawr gwaelod mewn bloc o fflatiau a bod gennych broblem lleithder, nid lleithder sy'n codi fydd e.

Pwy sy'n gyfrifol am leithder sy'n codi

Mewn llawer o achosion, eich landlord sy'n gyfrifol am ymdrin â lleithder sy'n codi. Mae hyn oherwydd bod un o’r telerau sydd ymhlyg yn eich cytundeb tenantiaeth yn nodi mai cyfrifoldeb y landlord yw cadw ochr allanol ac adeiledd eich cartref mewn cyflwr da.

Os oes problem gyda chwrs gwrthleithder (DPC) yn eich cartref sy'n achosi'r lleithder, yna mae eich landlord yn debygol o fod yn gyfrifol am ei atgyweirio.

Os nad oes gan eich cartref DPC, mae'n bosibl na fydd eich landlord yn gyfrifol am osod un. Mae hyn oherwydd y gellir ystyried y gwaith yn welliant yn hytrach nag yn waith atgyweirio. Byddai'n rhaid ystyried pob achos ar sail y ffeithiau perthnasol.

Dylech gadarnhau pa atgyweiriadau y mae'n rhaid i'ch landlord eu cwblhau os ydych yn rhentu'ch cartref oddi wrth:

Fel arfer, mae'ch landlord yn gyfrifol am ddatrys y broblem pan fydd yn dod yn ymwybodol ohoni, felly dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwybod iddo am y broblem  ar unwaith.

Ymdrin â lleithder treiddiol

Gall lleithder treiddiol gael ei achosi gan nifer o broblemau atgyweirio, er enghraifft:

  • to sy'n gollwng dŵr

  • mur sydd wedi hollti

  • cafnau bondo neu bibellau allanol sy'n gollwng dŵr

  • pibell ddraenio sy'n gollwng dŵr

  • ffenestri neu ddrysau sydd wedi pydru.

Pwy sy'n gyfrifol am leithder treiddiol

Mewn llawer o achosion lle mae'r lleithder wedi'i achosi gan broblemau fel y rhai a restrir uchod, y landlord sy'n gyfrifol am ddatrys y broblem. Mae hyn oherwydd bod un o’r telerau sydd ymhlyg yn eich cytundeb tenantiaeth yn nodi bod yn rhaid i'r landlord gadw ochr allanol ac adeiladwaith eich cartref mewn cyflwr da, yn ogystal â gosodiadau fel basnau, sinciau, baddonau, toiledau a'u pibellau.

Dylech gadarnhau pa atgyweiriadau y mae'n rhaid i'ch landlord eu cwblhau os ydych yn rhentu'ch cartref oddi wrth:

Fel arfer, mae'ch landlord yn gyfrifol am ddatrys y broblem pan fydd yn dod yn ymwybodol ohoni, felly dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwybod iddo am y broblem ar unwaith.

Ymdrin â lleithder adeiladwaith

Mae lleithder adeiladwaith yn cael ei achosi gan broblem gyda dyluniad eiddo. Er enghraifft, mae diffyg dylunio mewn eiddo yn golygu bod y llawr isaf yn mynd yn llaith wrth i'r lefel trwythiad godi.

Pwy sy'n gyfrifol am leithder adeiladwaith

Mewn achosion o leithder adeiladwaith, os nad yw'r broblem ddylunio yn effeithio ar adeiledd neu ochr allanol eich cartref, nac yn achosi difrod i'r adeilad, mae'n bosibl na fydd eich landlord yn gyfrifol am atal y lleithder o dan delerau'r cytundeb tenantiaeth.

Fodd bynnag, mae'ch landlord yn gyfrifol am atgyweiriadau os yw problem ddylunio yn achosi difrod i'r adeilad, er enghraifft i un o'r muriau neu i waith plastr y nenfwd.

Dylech gadarnhau pa atgyweiriadau y mae'n rhaid i'ch landlord eu cwblhau os ydych yn rhentu'ch cartref oddi wrth:

Fel arfer, mae'ch landlord yn gyfrifol am ddatrys y broblem pan fydd yn dod yn ymwybodol ohoni, felly dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwybod iddo am y broblem ar unwaith.

Ymdrin â lleithder anwedd

Gall lleithder anwedd ymddangos unrhyw le ar un o'r muriau. Gall ymddangos ar waelod y mur, neu o'r brig i'r gwaelod. Mae'n gallu arwain at dwf llwydni, difrod i ddodrefn ac eiddo, ac mewn rhai achosion, pla gwiddon.

Pwy sy'n gyfrifol am leithder anwedd

Mae'n debyg y bydd eich landlord yn gyfrifol am ymdrin â lleithder yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • mae'ch cytundeb tenantiaeth yn nodi mai'ch landlord sy'n gyfrifol - neu fod y cytundeb yn datgan y bydd eich landlord yn sicrhau bod eich cartref yn "ffit i fyw ynddo" neu rywbeth tebyg

  • roedd y lleithder wedi'i achosi gan fethiant eich landlord i wneud atgyweiriadau penodol i'ch cartref - er enghraifft, methu atgyweirio'r system wres neu awyru

  • mae'r lleithder wedi creu difrod i'ch cartref y mae'n rhaid i'ch landlord ei atgyweirio - er enghraifft, os yw wedi pydru fframiau ffenestri neu ddifrodi gwaith plastro

Dylech gadarnhau pa atgyweiriadau y mae'n rhaid i'ch landlord eu cwblhau os ydych yn rhentu'ch cartref oddi wrth:

Fel arfer, mae'ch landlord yn gyfrifol am ddatrys y broblem pan fydd yn dod yn ymwybodol ohoni, felly dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwybod iddo am y broblem ar unwaith.

Defnyddio eich cartref mewn ffordd resymol

Os oes lleithder anwedd yn eich cartref, mae sut rydych yn defnyddio'ch cartref yn elfen bwysig. Gallai rhai pethau rydych yn eu gwneud o ddydd i ddydd ei gwneud yn anodd profi mai'ch landlord sy'n gyfrifol. Gall y pethau canlynol greu lleithder ychwanegol neu leihau lefelau awyru:

  • defnyddio gwresogyddion nwy neu baraffin cludadwy – mae'r gwresogyddion hyn yn rhyddhau llawer o leithder i’r aer, felly dylech geisio osgoi eu defnyddio

  • sychu dillad gwlyb ar wresogyddion - mae'n well sychu dillad yn yr awyr agored neu yn yr ystafell ymolchi gyda'r drws ar gau a'r ffenestr ar agor neu gyda ffan ymlaen

  • defnyddio peiriant sychu dillad heb awyrell allanol – os nad yw'r peiriant sychu dillad yn gallu cyddwyso ei hun, mae angen ei gysylltu â system awyru allanol

  • rhwystro'r system awyru - er enghraifft, gorchuddio awyrellau, cau awyryddion a diffodd neu analluogi gwyntyllau. Mae angen system awyru yn eich cartref i gael gwared ar leithder

Cymorth gyda gwresogi ac inswleiddio eich cartref

Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys am grantiau sydd ar gael i inswleiddio'r cartref a gwella'r system wresogi. Hefyd, mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am sut i wresogi ac inswleiddio'ch cartref yn effeithiol.

Dewch o hyd i grant yn www.energysavingsttust.org.uk

Cymryd camau gweithredu oherwydd lleithder

Os ydych chi wedi rhoi gwybod i'ch landlord am broblemau lleithder ond nad yw wedi ymateb, gallwch gymryd camau gweithredu.

Mewn rhai achosion, gall landlord preifat benderfynu troi tenant allan yn hytrach na gwneud gwaith atgyweirio. Dylech sicrhau eich bod yn gwybod a ydych mewn perygl o gael eich troi allan cyn cymryd camau gweithredu.

  • Mwy o wybodaeth am denantiaid preifat a'r perygl o gael eu troi allan

Cysylltu â'r awdurdod lleol

Gallai tenantiaid mewn cartrefi wedi'u rhentu'n breifat a thenantiaid cymdeithasau tai gysylltu ag adran Iechyd yr Amgylchedd yr awdurdod lleol.

Os yw'r lleithder yn eich cartref yn niweidiol i'ch iechyd neu'n niwsans, gall fod yn niwsans statudol. Mewn achosion o niwsans statudol, mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn gallu gorfodi'ch landlord i ymdrin â'r broblem.

Neu gallai'r lleithder fod yn berygl i'ch iechyd neu'ch diogelwch ac felly'n berygl o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS).

Cymryd camau gweithredu yn y llys

Os yw'ch landlord yn gyfrifol am ymdrin â lleithder ac nad yw'n gwneud hynny, mae'n bosibl dwyn achos llys yn ei erbyn. Gall cymryd camau gweithredu yn y llys fod yn gostus a chymryd llawer o amser, a dylid gwneud hyn fel dewis olaf yn unig.

Rhagor o wybodaeth am gymryd camau yn y llys gan fod y landlord wedi methu â gwneud atgyweiriadau ar gyfer tenantiaid mewn cartrefi wedi'u rhentu'n breifat

Rhagor o wybodaeth am gymryd camau yn y llys gan fod y landlord wedi methu â gwneud atgyweiriadau ar gyfer tenantiaid mewn tai cymdeithasol

Dewisiadau eraill

Mae dewisiadau eraill ar gael wrth ymdrin â phroblemau atgyweirio fel lleithder.

Camau nesaf

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.