Cam 2: yn erbyn pwy allwch chi gymryd camau

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud eich bod yn gallu cymryd camau yn erbyn cwmnïau neu bobl sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn os ydynt:

  • yn gwerthu neu rentu cartref, fel rhentu eiddo drwy asiant gosod – gelwir hyn yn ‘cael gwared ar eiddo’ yn y gyfraith

  • angen cytuno i werthu neu rentu cartref, fel cydberchennog – gelwir hyn yn ‘ganiatâd i gael gwared ar eiddo’ yn y gyfraith

  • yn rheoli cartref, fel landlordiaid, asiantau a phobl sy’n casglu rhent - gelwir hyn yn ‘rheoli eiddo’ yn y gyfraith.

Efallai y bydd gwerthwr eiddo yn gweithredu ar ran landlord felly os yw landlord wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y byddwch yn gallu cymryd camau yn erbyn y naill a’r llall.

Mae adrannau 33 i 35 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi gwybodaeth am bwy y gallwch gymryd camau yn eu herbyn.

Os ydych chi wedi gofyn am newidiadau i helpu gyda’ch anabledd

Gallwch gymryd camau yn erbyn y rhan fwyaf o bobl sy’n gofalu am eiddo – sef ‘rheolyddion eiddo’ yn y gyfraith:

  • landlordiaid

  • rheolwyr eiddo

Os mai cymdeithas cyd-ddeiliaid sy’n berchen ar eich adeilad, gallwch gymryd camau yn eu herbyn hwythau hefyd.

Mae adran 26 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi gwybodaeth am bwy y gallwch gymryd camau yn eu herbyn.

Os yw’ch problem yn gysylltiedig ag unrhyw un o’r bobl hyn, gallwch weld a yw'r hyn maent yn ei wneud yn torri cyfraith wahaniaethu yng ngham 3.

Os oes rhywun arall wedi’ch trin yn annheg neu’n wahanol

Efallai y byddwch yn gallu cymryd camau yn erbyn darparwyr gwasanaethau os ydych chi wedi cael eich trin yn annheg neu’n wahanol gan rywun arall sy’n delio â’ch cartref, er enghraifft:

  • syrfewyr a phriswyr

  • cyfreithwyr

  • benthycwyr morgeisi

Os ydych chi’n cael eich trin yn wael gan denantiaid eraill neu gymdogion

Gallwch gwyno am eich cymydog.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 28 Ionawr 2019