Cam 4: paratoi ar gyfer y llys
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Bydd rhaid i chi baratoi rhai pethau cyn i chi fynd i’r llys. Gofalwch eich bod chi’n cwblhau popeth ar yr adegau iawn fel na fydd yn effeithio ar eich tebygolrwydd o ennill neu orfod talu costau ychwanegol.
Bydd y llys yn anfon ‘holiadur cyfarwyddiadau’ atoch chi i’w lenwi – bydd yn defnyddio’r holiadur hwn i benderfynu sut i ymdrin â’r achos.
Os ydych chi eisiau i arbenigwr roi tystiolaeth yn y llys ar eich rhan, bydd angen i chi nodi hyn yn glir yn yr holiadur cyfarwyddiadau – gelwir hyn yn ‘dystiolaeth arbenigol’. Er enghraifft, efallai y byddwch chi am ddefnyddio tystiolaeth arbenigol os oes gennych chi anabledd a bod y diffynnydd yn credu nad oes gennych chi anabledd. Gallai’r arbenigwr fod yn feddyg neu’n weithiwr meddygol proffesiynol arall.
Dylech chi ddefnyddio’r holiadur i roi gwybod i'r llys am:
unrhyw ddyddiadau na allwch chi, eich arbenigwr neu'ch tystion fynd i’r llys
faint o dystion sydd gennych chi
Ar ôl i’r llys benderfynu pa gyfarwyddiadau i’w rhoi, byddan nhw’n ysgrifennu at y ddwy ochr gyda chyfarwyddiadau ar yr hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud – ‘gorchymyn cyfarwyddiadau’ yw hwn.
Gwirio ar ba ‘drac’ mae'ch achos
Bydd y llys yn rhoi eich achos ar un o 3 llwybr (o’r enw ‘traciau’) yn seiliedig ar werth yr achos a pha mor gymhleth ydyw – os yw’n llai cymhleth, bydd y broses yn llai ffurfiol. Bydd y gorchymyn cyfarwyddiadau yn dweud wrthych chi ar ba ‘drac’ fydd eich achos yn cael ei roi.
Mae’n bwysig gwybod ar ba drac mae’r achos wedi’i roi gan fod hyn yn effeithio ar ba reolau llys y bydd angen i chi eu dilyn a pha gostau y bydd angen i chi eu talu o bosib.
Gallai'ch achos gael ei roi ar y:
trac hawliadau bychain – fel arfer ar gyfer achosion sydd ddim yn gymhleth iawn ac sydd ddim yn werth mwy na £10,000 (ond nid achosion aflonyddu na throi allan yn anghyfreithlon)
trac cyflym – fel arfer ar gyfer hawliadau sy’n werth mwy na £10,000 a heb fod yn fwy na £25,000 y gellir delio â nhw mewn diwrnod, er y gall achosion cymhleth gael eu rhoi ar yr aml-drac
amldrac – fel arfer ar gyfer achosion mwy cymhleth sy’n werth mwy na £25,000 neu a fydd yn para mwy na diwrnod
Os yw'ch achos ar y trac hawliadau bychain, ni fydd rhaid i chi dalu costau cyfreithiol y diffynnydd os byddwch chi'n colli gan amlaf – ac ni fydd rhaid i'r diffynnydd dalu'ch costau chi os byddwch chi’n ennill. Ond efallai y gallwch chi gael ad-daliad o ffioedd y llys.
Mae’r rheolau ar gostau ar y trac hawliadau bychain yn rheol 27.14 y Rheolau Trefniadaeth Sifil.
Ni fydd eich hawliad yn hawliad bychan os ydych chi wedi hawlio:
aflonyddu yn erbyn eich landlord, neu
droi allan yn anghyfreithlon
Mae hyn yn rheol 26.7(4) y Rheolau Trefniadaeth Sifil.
Nid y trac hawliadau bychain yw’r trac arferol ar gyfer hawliadau sy’n cynnwys hawliad am iawndal am anaf personol os yw’r rhan honno o’r hawliad yn werth mwy na £1,000. Mae hyn yn rheol 26.6(1)(a) y Rheolau Trefniadaeth Sifil.
Os bydd eich achos yn cael ei ddyrannu i’r trac cyflym neu’r amldrac, yn wahanol i’r trac hawliadau bychain, fel arfer bydd y parti sy’n colli yn cael ei orchymyn i dalu costau cyfreithiol y parti sy’n ennill (yn hytrach na dim ond ffi’r llys). Mae’r rhestr lawn o ffactorau mae’r llys yn eu hystyried wrth benderfynu i ba drac i ddyrannu achos yn rheoli 26.8 y Rheolau Trefniadaeth Sifil.
Os dyrennir eich achos i’r aml-drac, dylech chi gael cyngor cyfreithiol gan arbenigwr tai neu gyfreithiwr. Mae rheolau’r weithdrefn yn fwy cymhleth ac mae’r costau posibl yn uwch.
Darllenwch fwy am y trac hawliadau bychain, y trac cyflym a’r amldrac yn GOV.UK.
Mae’r rheolau y mae’n rhaid i chi eu dilyn yn ystod eich achos yn dibynnu ar i ba drac mae'ch achos wedi csel ei ddyrannu – mae ‘rheol trefniadaeth sifil’ a ‘chyfarwyddyd ymarfer’ ar gyfer pob un. Mae’n syniad da i’w darllen nhw yn GOV.UK fel eich bod chi’n gwybod beth y mae disgwyl i chi ei wneud:
trac hawliadau bychain – Rheol Trefniadaeth Sifil 27
trac cyflym – Rheol Trefniadaeth Sifil 28
amldrac – Rheol Trefniadaeth Sifil 29
Gofyn am yr hyn rydych chi ei angen os oes gennych chi wrandawiad cyfarwyddiadau
Weithiau, bydd y ‘cyfarwyddiadau’ yn cael eu trafod mewn gwrandawiad llys. Fel arfer, bydd gwrandawiad cyntaf ar gyfer hyn – efallai y bydd yr achos ei hun yn cael ei drafod mewn gwrandawiadau diweddarach. Bydd dal angen i chi roi gwybodaeth am eich tystion, ond gallwch chi ofyn am bethau fel hyn hefyd:
digon o amser i gael datganiadau gan eich tystion – dywedwch faint o ddiwrnodau fydd hyn yn ei gymryd yn eich tyb chi
digon o amser i baratoi ar gyfer y llys ar ôl cael datganiadau tyst eich landlord – rhowch nifer y diwrnodau
nodiadau a chofnodion eich landlord amdanoch chi – efallai y bydd hyn yn eich helpu i ddeall pam maen nhw’n eich trin chi’n annheg
unrhyw bolisïau sydd gan eich landlord sy’n berthnasol i’r sefyllfa, er enghraifft, ei bolisi ar gefnogi tenantiaid anabl
arbenigwr i roi tystiolaeth yn y llys ar eich rhan, er enghraifft, meddyg i’ch helpu chi i brofi eich bod chi’n anabl os nad yw'ch landlord yn credu eich bod chi'n anabl – gelwir hyn yn ‘dystiolaeth arbenigwr’
Fel arfer, bydd y llys yn disgwyl i chi ddefnyddio ‘cyfarwyddiadau safonol’. Mae’r rheolau ar y cyfarwyddiadau yn dibynnu ar i ba drac mae'ch achos wedi’i ddyrannu.
Os yw'ch achos ar y trac hawliadau bychain, mae’r rheolau ar gyfarwyddiadau yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 27 a dylech chi ddefnyddio cyfarwyddiadau safonol y trac hawliadau bychain yn Atodiad B yn GOV.UK.
Os yw'ch achos ar y trac cyflym, mae’r rheolau ar gyfarwyddiadau yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 28 a dylech chi ddefnyddio cyfarwyddiadau safonol y trac cyflym yn yr Atodiad yn GOV.UK.
Os yw'ch achos wedi’i ddyrannu i’r amldrac, bydd disgwyl i chi anfon cyfarwyddiadau drafft i’r llys neu gytuno arnyn nhw gyda’r ochr arall. Gallwch chi ddod o hyd i’r rheolau ar gyfarwyddiadau ar gyfer achosion aml-drac yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 29. Gallwch chi ddod o hyd i enghreifftiau o ‘gyfarwyddiadau safonol amldrac’ yn GOV.UK.
Dilyn cyfarwyddiadau’r llys
Bydd y llys yn anfon cyfarwyddiadau atoch chi yn dweud pryd a sut mae angen i chi anfon tystiolaeth. Neu gallen nhw ofyn i chi fynd i wrandawiad i benderfynu ar y pethau hyn.
Pan fyddwch chi’n cael y gorchymyn cyfarwyddiadau, gwiriwch y dyddiadau a gofalwch eich bod chi’n cymryd sylw o unrhyw ddyddiadau cau.
Os ydych chi’n ceisio dod i setliad, gallwch chi wneud cais i’r llys ohirio’r broses gyfreithiol a newid y dyddiadau cau ar gyfer eich cyfarwyddiadau – byddai hyn yn rhoi mwy o amser i chi drafod. Dylai’r ddau barti gytuno i wneud hyn.
Os ydych chi eisiau gwneud hyn, llenwch y ffurflen hawlio N244 yn GOV.UK a’i hanfon i’r llys cyn gynted ag y gallwch chi. Fel arfer, bydd angen i chi dalu ffi o £255 i wneud y cais. Os ydych chi’n gwneud cais gyda chytundeb yr ochr arall (y term cyfreithiol am hyn yw ‘trwy gydsyniad’), y ffi fydd £100. Os ydych chi ar incwm isel, efallai y gallwch chi gael help gyda’r ffioedd.
Os yw'ch hawliad ar y trac hawliadau bychain, efallai y bydd y llys yn oedi’r hawliad ei hun heb i chi orfod gwneud cais (y term cyfreithiol am hyn yw ‘gohirio’r hawliad’) i alluogi’r ddau barti i setlo, neu gallai gynnig cyfryngu os bydd y ddau barti’n cytuno.
Enghreifftiau o gyfarwyddiadau
Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w ysgrifennu, gallwch chi weld enghraifft o gyfarwyddiadau 72.7 KB . Os na allwch chi gael mynediad at y ddogfen, gallwch chi weld y fersiwn hon, ond nid yw hyn yn dangos y fformatio mae’r llys yn ei ddefnyddio. Os na fyddwch chi’n defnyddio’r fformat sydd yn rheolau’r llys, gallai hynny gael effaith negyddol ar eich achos. Gallwch chi gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n poeni am fformatio eich dogfen.
Mae’r enghraifft hon yn ymdrin â hawliad gan rywun sy’n dweud bod ei landlord wedi methu â gwneud addasiadau rhesymol i’w eiddo ac wedi aflonyddu arno oherwydd ei anabledd. Nid yw ei landlord yn cytuno bod ganddo anabledd, felly mae’r llys wedi dweud bod angen un arbenigwr ar y cyd rhwng y ddwy ochr.
Gan mai achos ar y trac hawliadau bychain yw hwn, mae’r llys wedi cyfyngu ar y ffi am yr arbenigwr. Os ydych chi angen cyngor ac arweiniad manylach, gallwch chi gael mwy o help.
Os ydych chi’n gweithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol cleient, dylech chi gyfeirio atyn nhw fel ‘yr Hawlydd’ ar y ffurflen hawlio yn hytrach na defnyddio’r person cyntaf.
Efallai na fydd y ffeithiau yn addas i’ch sefyllfa benodol chi. Peidiwch â’u copïo nhw rhag ofn nad ydyn nhw’n berthnasol i chi.
Paratoi datganiad tyst
Bydd angen i chi ddarparu datganiad tyst ysgrifenedig ar gyfer pob person a fydd yn rhoi tystiolaeth i’r llys, yn cynnwys chi eich hun – bydd y cyfarwyddiadau yn dweud wrthych chi pryd mae angen i chi anfon y rhain.
Mae ysgrifennu'ch datganiad tyst yn gallu cymryd amser maith, felly gofalwch eich bod chi’n dechrau arni yn gynnar.
Cyn ysgrifennu'ch datganiad, gofalwch eich bod chi’n deall ac yn canolbwyntio ar:
ba ddigwyddiadau rydych chi'n dweud oedd yn wahaniaethu – efallai y bydd mwy nag un
pa fath o wahaniaethu oedd pob un – fel uniongyrchol, anuniongyrchol neu fethiant i wneud addasiadau rhesymol
beth sydd angen ei brofi ar gyfer pob math o wahaniaethu
pa ffeithiau mae’r parti arall yn cyfaddef iddyn nhw a pha rai maen nhw’n anghytuno â nhw
Dylech chi gynnwys holl ffeithiau'ch achos – cofiwch gynnwys popeth rydych chi’n ei roi yn eich ffurflen hawlio ac unrhyw fanylion ychwanegol. Fel arfer, y peth gorau i’w wneud yw esbonio’r ffeithiau yn nhrefn dyddiad.
Os oes gennych chi hawliadau eraill ar ben y gwahaniaethu, gallech chi ymdrin â’r rheini ar wahân. Er enghraifft, esboniwch sut mae rhywun wedi aflonyddu arnoch chi ac esboniwch sut roedd eich landlord heb fynd ati i wneud yr atgyweiriadau y dylai fod wedi eu gwneud o fewn amser rhesymol.
Dylech chi roi unrhyw ddogfennau perthnasol ynghlwm wrth y datganiad hefyd os ydych chi’n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad tyst. Os nad oes gennych chi gopïau, bydd angen i chi esbonio pam yn eich datganiad.
Os ydych chi’n cyfeirio at ddogfennau yn eich datganiad tyst, rhowch rif i bob un – y term cyfreithiol am hyn yw ‘arddangosyn’. Rhowch lythrennau cyntaf eich enw ar y ddogfen. Er enghraifft, os mai Angharad Williams yw'ch enw, gallech chi roi ‘AW1’ ar yr arddangosyn cyntaf, ac yna ‘AW2’ ar y nesaf. Defnyddiwch y llythrennau a rhifau wrth gyfeirio at y dogfennau yn eich datganiad tyst.
Peidiwch â chael eich temtio i orliwio ffeithiau'ch achos neu'ch hawliadau – ni fydd hyn yn helpu'ch achos ac efallai na fydd y llys yn eich credu chi. Os byddwch chi’n dweud rhywbeth nad yw’n wir yn eich datganiad tyst, efallai y bydd hynny’n cael ei ystyried yn ‘ddirmyg llys’ oni bai eich bod chi wir yn credu ei fod yn wir.
Esboniwch unrhyw anghysondebau mawr rhwng eich datganiad a datganiad yr ochr arall neu'ch tystion eich hun. Mae hyn yn golygu bod gennych chi gyfle i gyflwyno'ch fersiwn eich hun yn hytrach na disgwyl i’r llys neu’r ochr arall dynnu sylw at yr anghysondebau.
Dilynwch y canllawiau ar gwblhau datganiad tyst yn GOV.UK.
Paratoi eich tystion
Os oedd rhywun yn dyst i’r gwahaniaethu neu os oes gan rywun wybodaeth sy’n cefnogi'ch achos, gofynnwch iddo ysgrifennu datganiad ar wahân ar eich cyfer. Dylai ddilyn yr un canllawiau â chi. Bydd angen iddo lofnodi’r datganiad hefyd.
Gofynnwch i’ch tyst ddod i’r llys i roi tystiolaeth mewn person – gofalwch ei fod yn gwybod dyddiadau’r llys. Os na fydd yn dod i’r llys, ni fydd y llys yn rhoi cymaint o bwys i’w dystiolaeth – gelwir hyn yn ‘dystiolaeth ail-law'.
Os ydych chi’n gwybod na all eich tyst fod yn bresennol, gallwch chi ddefnyddio'i ddatganiad fel tystiolaeth ond bydd angen i chi gyflwyno ‘hysbysiad tystiolaeth ail-law’ pan fyddwch chi’n anfon ei ddatganiad yn dweud pam na all fod yn bresennol. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, bydd llai o bwys yn cael ei roi i’w dystiolaeth. Mae’r rheolau ar hyn yn Rheol Trefniadaeth Sifil 33 yn GOV.UK.
Enghraifft o ddatganiad tyst
Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w ysgrifennu, gallwch chi weld enghraifft o ddatganiad tyst 105 KB . Os na allwch chi gael mynediad at y ddogfen, gallwch chi weld y fersiwn hon, ond nid yw hyn yn dangos y fformatio mae’r llys yn ei ddefnyddio. Os na fyddwch chi’n defnyddio’r fformat sydd yn rheolau’r llys, gallai hynny gael effaith negyddol ar eich achos. Gallwch chi gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n poeni am fformatio eich dogfen.
Dyma enghraifft o ddatganiad tyst mewn achos gwahaniaethu uniongyrchol. Os ydych chi angen cyngor ac arweiniad manylach, gallwch chi gael mwy o help.
Peidiwch â chopïo’r enghraifft – efallai na fydd y ffeithiau'n addas i’ch sefyllfa benodol.
Gweld a ydych chi angen tystiolaeth feddygol arbenigol
Os yw'ch landlord neu reolwr/rheolydd eich eiddo yn anghytuno ag unrhyw rannau o’ch achos am eich anabledd, efallai y bydd y llys yn dweud wrthych nad yw'ch tystiolaeth feddygol eich hun yn ddigon.
Bydd angen i chi fynd at arbenigwr meddygol annibynnol i gael ‘adroddiad arbenigwr ar y cyd’. Efallai y byddwch chi angen adroddiad arbenigwr ar y cyd i:
brofi eich bod chi’n anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
dangos sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi
esbonio sut byddai addasiad rhesymol yn golygu na fyddai'ch anabledd yn eich rhoi dan anfantais
dangos bod eich anabledd yn eich rhoi dan anfantais o gymharu â phobl sydd ddim yn anabl
dangos yr effaith mae’r gwahaniaethu wedi ei chael arnoch chi
awgrymu ffyrdd eraill y gallai'ch landlord fod wedi delio â’r broblem a fyddai wedi gwahaniaethu llai yn eich erbyn
Dyma’r math cryfaf o dystiolaeth gan y bydd wedi’i hysgrifennu gan arbenigwr annibynnol, ond mae’n gallu costio cannoedd o bunnoedd.
Mae’n debygol y bydd angen i chi wneud apwyntiad i weld yr arbenigwr meddygol.
Bydd angen i chi sicrhau eich bod chi’n cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan y llys ynghylch y math o adroddiad arbenigwr ar y cyd y mae am i chi ei gael. Efallai y bydd y llys yn eich gorchymyn i:
sicrhau bod y cais am yr adroddiad yn gofyn cwestiynau penodol neu’n rhoi sylw i faterion penodol, er enghraifft, am effaith eich anabledd
cytuno gyda’ch landlord ar eiriad y llythyr at yr arbenigwr a sut byddwch chi’n gofyn unrhyw gwestiynau dilynol
cytuno pwy fydd yn darparu’r adroddiad
cytuno pwy fydd yn talu’r ffioedd neu sut byddan nhw’n cael eu rhannu – fel arfer, byddan nhw’n cael eu rhannu’n gyfartal oni bai bod y llys yn dweud fel arall
sicrhau bod yr adroddiad yn cael ei anfon i’r llys erbyn dyddiad penodol
sicrhau bod yr adroddiad yn cael ei anfon at eich landlord yr un pryd ag y mae’n cael ei anfon atoch chi
Gofalwch fod yr arbenigwr yn ymwybodol y bydd ei adroddiad yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth yn y llys. Bydd angen iddo gynnwys datganiad yn dweud ei fod yn deall ei ddyletswydd i’r llys ac wedi cydymffurfio â rheolau’r llys yn Rhan 35 y Rheolau Trefniadaeth Sifil a Chyfarwyddyd Ymarfer 35. Dylech chi ofyn iddo roi’r datganiad hwn yn yr adroddiad a’i lofnodi:
Rwy’n cadarnhau fy mod wedi nodi’n glir pa ffeithiau a materion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn sydd o fewn fy ngwybodaeth a pha rai nad ydynt o fewn fy ngwybodaeth. Rwy’n cadarnhau bod y rhai sydd o fewn fy ngwybodaeth yn wir. Mae’r safbwyntiau rwyf wedi’i mynegi yn cynrychioli fy safbwyntiau proffesiynol gwir a chyflawn ar y materion y maent yn cyfeirio atynt.
Gallwch chi ddarllen y rheolau ar arbenigwyr yn Rhan 35 y Rheolau Trefniadaeth Sifil a Chyfarwyddyd Ymarfer 35 yn GOV.UK.
Os yw’r hawliad ar y trac hawliadau bychain, dim ond rhai o’r rheolau arferol ar arbenigwyr sy’n berthnasol. Mae hyn yn rheol 27.2 y Rheolau Trefniadaeth Sifil.
Dangos yr holl dystiolaeth sydd gennych chi
Efallai y bydd y llys yn dweud wrthych chi am ddangos dogfennau penodol i’r ochr arall – gallai hyn gynnwys tystiolaeth sy’n helpu eich achos a thystiolaeth sydd ddim yn helpu'ch achos. Y term cyfreithiol am hyn yw ‘datgelu’.
Fel arfer, bydd y llys yn dweud wrthych chi yn ei gyfarwyddiadau pryd fydd angen i chi ddatgelu’r dogfennau hyn.
Bydd angen i chi ddweud wrth yr ochr arall am y dogfennau sy’n bodoli neu sydd wedi bodoli.
Ystyr ‘dogfen’ yw unrhyw fath o wybodaeth wedi’i chofnodi – nid rhywbeth wedi’i ysgrifennu ar bapur yn unig. Gallai fod yn e-bost, yn ffotograff, yn neges destun neu’n fideo.
Disgwylir i chi chwilio drwy'ch cofnodion a datgelu unrhyw beth sy’n berthnasol i’r achos i’r ochr arall hyd yn oed os nad yw’n helpu'ch achos. Darllenwch fwy am y dogfennau y mae angen i chi eu datgelu yn GOV.UK.
Does dim rhaid i chi gynnwys rhai dogfennau. Gelwir y rhain yn ddogfennau ‘breintiedig’, a gallen nhw gynnwys pethau fel llythyrau wedi’u hysgrifennu gan eich cyfreithiwr yn rhoi cyngor cyfreithiol i chi ar yr achos. Bydd y cyfarwyddiadau yn dweud wrthych chi beth i’w wneud. Darllenwch fwy yn Rheol 31 y Rheolau Trefniadaeth Sifil.
Nid yw’r rheolau ar ddatgelu mor gaeth os yw'ch achos ar y trac hawliadau bychain. Darllenwch fwy yn Rheol 27 y Rheolau Trefniadaeth Sifil.
Gwneud ‘bwndel treial’
Mae angen i chi greu ffeil gyda’r holl ddogfennau sy’n ymwneud â’r achos – gelwir hwn yn ‘fwndel’. Dylech chi ond cynnwys dogfennau sy’n berthnasol i’ch hawliad – fel adrannau perthnasol Deddf Cydraddoldeb 2010 yn hytrach na’r Ddeddf gyfan.
Dylech chi gynnwys yr holl ddogfennau rydych chi’n dibynnu arnyn nhw a holl ddogfennau’r ochr arall. Os oes gan y diffynnydd gyfreithwyr yn gweithredu ar ei ran, efallai y bydd y llys yn eu gorchymyn i baratoi’r bwndel.
Trefnwch y dogfennau mewn adrannau – yn gyntaf eich ffurflen hawlio, manylion yr hawliad a phapurau'r amddiffyniad, yna'ch datganiad tyst ac yna unrhyw ddogfennau eraill fel eich llythyr cyn cymryd camau ac unrhyw ddatganiadau tyst eraill sydd gennych chi.
Rhowch nhw yn nhrefn dyddiad ac ysgrifennwch rif y dudalen ar y gornel dde ar frig pob tudalen. Peidiwch ag ysgrifennu’r rhifau tan eich bod chi’n siŵr bod eich bwndel yn gyflawn.
Dylech chi ysgrifennu tudalen mynegai i’w rhoi yn nhu blaen y ffeil ac ysgrifennu ‘Mynegai’ ar y top. Ysgrifennwch enw’r achos, enw’r llys a rhif yr achos ar y dudalen mynegai, yna rhestrwch yr holl ddogfennau yn y ffeil a rhifau’r tudalennau.
Anfonwch gopi o’r mynegai ac unrhyw ddogfennau nad ydych chi wedi’u hanfon at yr ochr arall a gofynnwch iddyn nhw gytuno i’r bwndel. Ar ôl iddyn nhw gytuno iddo, bydd angen i chi anfon copi o fwndel y treial i’r llys a chadw copi eich hun. Bydd y cyfarwyddiadau yn dweud wrthych chi pryd fydd angen i chi wneud hyn.
Os nad yw'ch achos ar y trac hawliadau bychain, mae rheolau ychwanegol y mae angen i chi gydymffurfio â nhw wrth wneud bwndel y treial – darllenwch fwy ym mharagraff 3.1 Cyfarwyddyd Ymarfer 39 yn GOV.UK
Enghraifft o fynegai bwndel 51.7 KB
Os na allwch chi weld yr enghraifft ac nad ydych chi’n siŵr beth i’w roi ym mynegai’r bwndel, gallwch chi gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 28 Ionawr 2019