C5: rheoli triniaethau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Beth mae’r cwestiwn hwn yn ei olygu
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr iechyd yn ei gwneud hi’n anodd i chi:
reoli eich triniaethau
monitro eich cyflwr iechyd eich hun, gan gynnwys eich iechyd meddwl
cymryd camau i atal eich cyflwr rhag gwaethygu
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am driniaethau sydd gennych chi yn eich cartref sydd wedi’u rhagnodi neu eu hargymell gan weithiwr meddygol proffesiynol.
Os ydych chi angen rhywun i’ch helpu chi gyda therapi, er enghraifft, ymarferion ffisiotherapi neu ddialysis cartref, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisiau gwybod am faint o amser maen nhw’n eich helpu chi mewn wythnos arferol. Mae’n bwysig i chi fod mor benodol â phosibl ynglŷn â faint o amser mae rhywun yn ei dreulio yn eich helpu chi er mwyn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi.
Werth gwybod
Cofiwch feddwl am yr holl feddyginiaethau, triniaethau a therapïau rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer eich cyflyrau neu eich anableddau, er enghraifft:
anadlyddion a nebiwlyddion
hylifau
hufenau a thrwythau
pigiadau (e.e. inswlin os ydych chi’n ddiabetig)
tawddgyffuriau
diferion clust a llygad
tabledi
ffisiotherapi
osteopathi
rhwymynnau cywasgu
gorchudd clwyf neu wlser
dialysis cartref
peiriant TENS i helpi i leihau poen
ymarferion i atal cymhlethdodau
Cwestiwn ticio bocs 5a
"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu declyn i fonitro eich cyflyrau iechyd, i gymryd meddyginiaeth neu i reoli triniaethau cartref, er enghraifft, defnyddio bocs ‘dosette’ ar gyfer tabledi."
Ydw
Nac ydw
Weithiau
Dylech dicio “ydw” siŵr o fod:
os ydych chi’n defnyddio bocs ‘dosette’ (bocs pils gydag adrannau) i wneud yn siŵr eich bod chi’n cymryd y meddyginiaethau iawn ar yr amser iawn
os ydych chi angen larwm neu rywun i’ch atgoffa chi i gymryd eich meddyginiaeth ar yr amser iawn
Cwestiwn ticio bocs 5b
"Ydych chi angen help gan berson arall i fonitro eich cyflyrau iechyd, i gymryd meddyginiaeth neu i reoli triniaeth yn y cartref?"
Ydw
Nac ydw
Weithiau
Dylech dicio “ydw” siŵr o fod os ydych chi angen help:
i ddefnyddio hufenau neu drwythau
gyda photeli tabledi neu becynnau pothell
gyda thriniaethau, er enghraifft, newid gorchuddion
gyda therapïau, er enghraifft, ymarferion ffisiotherapi
i fonitro cyflyrau iechyd, er enghraifft, gwirio lefel y siwgr yn y gwaed neu gymryd eich tymheredd i fonitro eich iechyd meddwl
Dylech dicio "ydw" hefyd os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael ar hyn o bryd.
Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu
Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio eich sefyllfa yn y bocs.
Dyma’ch cyfle chi i roi darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i reoli’ch triniaethau. Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.
Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn hefyd i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.
Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio
Rhestrwch y cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio i’ch helpu chi, gan gynnwys pethau fel bocsys ‘dosette’ a larymau.
Peidiwch byth â hepgor cymorth o’ch rhestr am eich bod chi’n meddwl ei fod yn amlwg, a chofiwch:
esbonio sut maen nhw’n eich helpu chi
esbonio beth fyddai’n digwydd os na fyddech chi’n eu defnyddio nhw
nodi’n glir os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori chi i’w defnyddio nhw
cynnwys unrhyw gymhorthion a fyddai’n eich helpu chi pe bai gennych chi nhw
cynnwys unrhyw gymhorthion y mae’ch cyflwr yn eich atal chi rhag eu defnyddio nhw
Rhywun yn eich atgoffa, eich goruchwylio neu’n eich helpu chi
Nodwch yn glir os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael.
Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu chi (er enghraifft, gofalwr neu ffrind) ac esboniwch:
pam maen nhw’n helpu
sut maen nhw’n helpu, er enghraifft, efallai eu bod nhw’n rhoi trefn ar eich meddyginiaeth neu’n eich helpu chi gydag ymarferion
pa mor aml maen nhw’n helpu ac am ba hyd
Dywedwch yn glir os ydych chi angen iddyn nhw:
eich atgoffa chi i reoli’ch triniaethau
eich helpu chi yn gorfforol
helpu drwy’r amser, weithiau neu os yw’n rhy anodd i chi ragfynegi
bod wrth law – er enghraifft, rhag ofn y byddwch chi angen iddyn nhw helpu neu wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel
Cofiwch esbonio beth sy’n digwydd (neu beth fyddai’n digwydd) os nad ydych chi’n cael help. Er enghraifft:
rydych chi’n fwy tebygol o gael damwain neu anaf
rydych chi’n fwy tebygol o ddioddef symptomau corfforol neu feddyliol fel poen, anghysur neu ddryswch
bydd hi’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi reoli’ch triniaethau o gymharu â rhywun heb eich cyflwr
Diogelwch: damweiniau a risg o gael anaf
Esboniwch os ydych chi erioed wedi:
cymryd y swm anghywir o feddyginiaeth – naill ai gormod neu ddim digon
anghofio cymryd eich meddyginiaeth
gwneud eich cyflwr yn waeth trwy beidio â chael y driniaeth neu’r therapi a argymhellwyd
Nodwch yn glir os cododd y problemau hyn oherwydd:
na chawsoch chi help neu oruchwyliaeth
eich bod chi’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio
eich bod chi’n drysu
Dylech ddweud hefyd os ydych chi’n meddwl y gallech chi wneud hyn yn y dyfodol. Dylech sôn am:
ba mor aml mae risg yn codi, hyd yn oed os nad yw’n codi’n rheolaidd
pa mor wael y gallech chi gael eich niweidio
a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i atal y risg rhag codi
Diwrnodau da a diwrnodau gwael
Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.
Nodwch yn glir:
os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael
pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael
os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio
sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael
Sgil-effeithiau fel poen, anghysur, blinder neu ddryswch
Esboniwch a yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael o ran rheoli eich triniaethau yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi (fel poen, anghysur, blinder neu ddiffyg brwdfrydedd).
Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:
pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw
am faint maen nhw’n para
os ydyn nhw’n debygol o gynyddu’r risg o ddamwain
os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP
Enghraifft o ateb i gwestiwn 5
“Rwy’n gorfod gwneud ffisiotherapi am 40 munud y dydd. Mae ffisiotherapydd yn dod i ’nhŷ i bob mis i’m helpu i gyda fy ymarferion.
"Mae fy ffrind yn fy helpu i pan nad yw’r ffisiotherapydd o gwmpas. Mae hi’n gorfod dal fy nghoesau mewn lle penodol tra fy mod i’n gwneud yr ymarferion – dydy e ddim yn rhywbeth rwy’n gallu ei wneud ar fy mhen fy hun. Ar ôl gwneud fy ymarferion, rydw i fel arfer mewn poen am awr neu ddwy. Dywedodd fy meddyg teulu wrtha i am ddefnyddio peiriant TENS i helpu i reoli’r poen ac mae fy ffrind yn treulio 10 munud y dydd yn fy helpu i ddefnyddio’r peiriant.
“Mae hi’n fy helpu i gyda fy meddyginiaeth hefyd, gan wneud yn siŵr fy mod i’n cymryd y tabledi iawn ar yr amser iawn. Rwy’n cymryd 6 gwahanol fath o feddyginiaeth, sy’n golygu cymryd 20 o dabledi y dydd, ac rwy’n ei chael hi’n anodd gweithio allan beth rydw i angen ei gymryd a phryd.”
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.