C15: gwybodaeth ychwanegol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae cwestiwn 15 yn dudalen wag. Gallwch ei defnyddio os byddwch chi’n rhedeg allan o le ar y ffurflen hawlio.
Gallwch ei defnyddio hefyd i roi unrhyw wybodaeth ychwanegol rydych chi’n teimlo sy’n angenrheidiol. Does dim y fath beth â’r math cywir neu anghywir o wybodaeth i’w chynnwys, ond mae’n syniad da defnyddio’r gofod hwn i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau:
os oedd rhaid i rywun lenwi’r ffurflen ar eich rhan ac esbonio pam
os i chi lenwi’r ffurflen yn araf neu gyda phoen
os gwnaeth llenwi’r ffurflen achosi pryder neu straen i chi
os ydych chi’n cynnwys tystiolaeth feddygol i gefnogi’ch hawliad – er enghraifft, cynllun gofal
os oes unrhyw ffrindiau neu deulu yn gofalu amdanoch chi – gallwch chi gynnwys eu manylion cyswllt os ydych chi’n dymuno, ond cofiwch ofyn iddyn nhw yn gyntaf
Sylwadau gan bobl eraill
Os oes gan eich gofalwr, gweithiwr iechyd proffesiynol, ffrindiau neu deulu unrhyw wybodaeth y credwch y bydd yn helpu’ch cais PIP, gallan nhw ei hychwanegu yma.
Gofalwch fod eu sylwadau’n ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi gyflawni’r gweithgareddau a nodir yng nghwestiynau 3 i 15. Y rheswm am hyn yw bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn seilio ei phenderfyniad ar a ydych chi’n cael PIP ar y gweithgareddau hyn.
Mae’n iawn i chi ysgrifennu ar ddalen ar wahân os ydych chi angen mwy o le – defnyddiwch ein templed 802 Bytes . Cofiwch roi’r ddalen hon ynghlwm wrth eich ffurflen hawlio a chynnwys eich enw, eich rhif Yswiriant gwladol a rhif y cwestiwn.
Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.