Dechrau’r ffurflen gallu i weithio ar gyfer Credyd Cynhwysol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os na allwch chi weithio oherwydd eich bod yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fel arfer yn anfon ffurflen atoch i weld a ddylai eich Credyd Cynhwysol newid. Gelwir y ffurflen yn 'holiadur gallu i weithio' neu 'UC50'.
Y ffurflen yw eich cyfle i ddweud wrth y DWP sut mae eich cyflwr neu'ch anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio. Mae yna gwestiynau am yr hyn allwch chi ei wneud yn gorfforol a’ch iechyd meddwl.
Gwiriwch pryd i ddychwelyd y ffurflen
Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen o fewn pedair wythnos ar ôl i chi ei derbyn - neu efallai y bydd y DWP yn penderfynu eich bod yn gallu gweithio. Gwiriwch y llythyr a ddaeth gyda’r ffurflen am yr union ddyddiad.
Os oes gennych ganser, bydd angen i chi ofyn i'ch meddyg neu rywun arall sy'n eich trin lenwi tudalen olaf y ffurflen. Gallant ei llenwi cyn i chi orffen gweddill y ffurflen.
Os yw'n fwy na phedair wythnos ers i chi dderbyn y ffurflen, rhaid i chi ei llenwi a'i dychwelyd cyn gynted ag y gallwch. Efallai y bydd y DWP yn ei derbyn os oes rheswm da pam na allech ei hanfon yn gynt.
Gwiriwch beth sydd angen i’r DWP ei wybod
Bydd y DWP yn defnyddio'r ffurflen i benderfynu:
os ydych yn gorfod gweithio neu chwilio am waith;
os nad oes angen i chi weithio, ond rhaid i chi wneud pethau i baratoi ar gyfer gwaith - a elwir yn 'allu cyfyngedig i weithio' (LCW);
os nad oes angen i chi weithio na pharatoi ar gyfer gwaith - a elwir yn ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith' (LCWRA).
Mae'n bwysig dweud wrth y DWP am yr holl anawsterau sydd gennych, er mwyn iddynt allu gwneud y penderfyniad iawn.
Cymerwch eich amser wrth ateb pob cwestiwn, a chymerwch seibiant pan fydd angen. Bydd hyn yn eich helpu i ddarparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar y DWP.
Peidiwch â theimlo cywilydd am eich atebion. Mae'n iawn os na allwch wneud rhywbeth, neu os oes angen help arnoch - ond mae'n bwysig dweud wrth y DWP. Mae angen iddyn nhw wybod beth allwch chi ei wneud heb help rhywun arall.
Mae pethau y gallwch eu gwneud ymlaen llaw i'ch helpu chi i ddarparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar y DWP - er enghraifft, cadw dyddiadur a chael gafael ar y dystiolaeth arall sydd ei hangen arnoch. Gwiriwch sut i baratoi i lenwi’r ffurflen.
Llenwch adran gyntaf y ffurflen
Ar dudalennau 2 i 7 gallwch ddweud wrth y DWP amdanoch eich hun, eich manylion cyswllt ac unrhyw driniaeth yr ydych yn ei chael.
Os ydych yn dychwelyd y ffurflen ar ôl 4 wythnos
Eglurwch ar dudalen 3 pam na allech chi ddychwelyd y ffurflen yn gynharach. Efallai y bydd y DWP yn ei derbyn os oes rheswm da pam na allech ei hanfon yn gynt.
Dylech gynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch ynghylch pam na allech ei hanfon yn gynt, er enghraifft:
os na dderbynioch chi’r llythyr atgoffa - os bydd hyn yn digwydd, gwiriwch fod gan y DWP eich cyfeiriad cywir
os ydych chi wedi bod yn yr ysbyty
os oeddech yn rhy sâl
os cawsoch chi argyfwng gartref
os cawsoch brofedigaeth
os ydych chi wedi bod allan o’r wlad
Disgrifiwch eich cyflwr iechyd, salwch neu anableddau
Ar dudalen 6 gallwch ddweud wrth y DWP am eich cyflyrau iechyd, eich salwch a'ch anableddau. Dylech ddweud wrthynt:
ers faint rydych chi wedi cael eich cyflwr iechyd neu eich anabledd
pryd gawsoch chi ddiagnosis – os ydych chi wedi cael diagnosis
Os nad oes gennych ddiagnosis ar gyfer eich cyflwr neu anabledd, dylech ei gynnwys ar y ffurflen o hyd. Disgrifiwch eich symptomau a sut maen nhw’n effeithio arnoch chi.
Mae hefyd yn syniad da cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
sut mae eich cyflwr neu'ch anabledd yn effeithio ar yr hyn y gallwch ei wneud bob dydd
unrhyw beth na allwch chi ei wneud heddiw yr oeddech yn arfer gallu ei wneud – er enghraifft, os oeddech chi’n arfer gwneud ymarfer corff ond nawr, ni allwch wneud hynny
os yw eich cyflwr wedi gwaethygu dros amser
sut mae meddyginiaeth yn effeithio arnoch chi – er enghraifft, os ydych chi’n cael sgil-effeithiau
os bu'n rhaid i chi roi'r gorau i weithio oherwydd eich iechyd, a pham
os yw gweithio neu baratoi i weithio yn debygol o wneud eich iechyd yn waeth - er enghraifft, os byddai teithio i swyddi neu hyfforddiant yn gwneud eich cyflwr iechyd meddwl yn waeth
os yw gweithio neu baratoi i weithio yn debygol o olygu bod risg i rywun arall - er enghraifft, os byddech chi'n ymddwyn mewn ffordd sy'n beryglus i bobl eraill
Mae’r DWP eisiau gwybod beth allwch chi ei wneud y rhan fwyaf o ddiwrnodau. Os mae eich symptomau’n newid, neu os ydynt yn waeth ar rai diwrnodau o gymharu ag eraill, meddyliwch am y canlynol:
beth rydych chi fel arfer yn disgwyl ei wneud mewn diwrnod
yr hyn y gallwch ei wneud ar ddiwrnodau gwael - a pha mor aml y maent yn digwydd
yr hyn y gallwch ei wneud ar ddiwrnodau da - a pha mor aml y maent yn digwydd
Os oes angen mwy o le arnoch i egluro eich sefyllfa, defnyddiwch dudalen 21 y ffurflen. Gallwch hefyd anfon mwy o wybodaeth mewn ffeil neu ddarn o bapur ar wahân - cofiwch gynnwys eich enw a'ch rhif Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn ei anfon.
Os yw eich cyflwr yn newid o ddydd i ddydd
Efallai y byddwch yn ei chael yn anodd disgrifio diwrnod arferol os bydd eich symptomau’n newid neu os ydynt yn waeth ar rai diwrnodau o gymharu ag eraill.
Mae’r DWP eisiau gwybod beth allwch chi ei wneud y rhan fwyaf o ddiwrnodau. Meddyliwch am y canlynol:
beth rydych chi fel arfer yn disgwyl ei wneud mewn diwrnod
yr hyn y gallwch ei wneud ar ddiwrnodau gwael - a pha mor aml y maent yn digwydd
yr hyn y gallwch ei wneud ar ddiwrnodau da - a pha mor aml y maent yn digwydd
Defnyddiwch dudalen 6 i ddisgrifio os ydych chi’n cael diwrnodau da a drwg. Er enghraifft, os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi 4 diwrnod allan o 7 - mae gennych 3 diwrnod da yr wythnos, ond ar y dyddiau eraill mae angen i chi orffwys.
Os nad oes modd rhagweld eich patrymau, gall fod yn anodd esbonio. Gallech ysgrifennu rhywbeth fel hyn:
“Byddaf yn egluro sut mae fy nghyflwr yn effeithio arnaf o ddydd i ddydd o dan bob cwestiwn yng ngweddill y ffurflen.”
Os ydych chi’n defnyddio cymhorthion
Dylech nodi os ydych yn defnyddio pethau fel:
ffon gerdded neu ffrâm gerdded
canllawiau yn y bath - nodwch pryd y cawsant eu gosod
cadair olwyn
cymhorthion clyw
sedd toiled wedi'i chodi
cymhorthion gweledol
unrhyw offer i’ch helpu i wisgo
Os yw eich cyflwr yn gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol
Os oes unrhyw un o'ch cyflyrau iechyd neu anableddau yn gysylltiedig â phroblemau alcohol neu gyffuriau, mae'n bwysig disgrifio hyn ar dudalen 6.
Dylech gynnwys y canlynol:
pa gymorth neu driniaeth rydych chi’n ei gael
os ydych chi'n aros am asesiad meddygol
os nad ydych wedi cael cynnig unrhyw gymorth
Atebwch yr adran nesaf
Mae adran nesaf y ffurflen yn ymwneud â sut mae eich cyflwr neu’ch anabledd yn effeithio ar yr hyn rydych chi’n ei wneud. Mae cwestiynau am yr hyn y gallwch chi ei wneud yn gorfforol a’ch iechyd meddwl.
Os ydych chi'n cael triniaeth canser, dim ond os oes gennych chi gyflyrau iechyd neu anableddau eraill y bydd angen i chi lenwi'r adrannau hyn. Os nad oes gennych unrhyw gyflyrau neu anableddau eraill, dysgwch sut mae gorffen ac anfon y ffurflen.
Os oes gennych chi gyflyrau iechyd neu anableddau eraill neu os nad ydych chi’n cael triniaeth canser, dylech lenwi’r adran nesaf am sut mae eich cyflyrau’n effeithio arnoch chi.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 01 Rhagfyr 2022