Paratowch i lenwi’r ffurflen gallu i weithio ar gyfer Credyd Cynhwysol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n cael Credyd Cynhwysol ac yn methu gweithio oherwydd eich bod yn anabl neu fod gennych gyflwr iechyd, byddwch fel arfer yn cael ffurflen ychwanegol i'w llenwi. Gelwir y ffurflen yn 'holiadur gallu i weithio' neu 'UC50'.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio'r ffurflen i benderfynu:

  • os ydych yn gorfod gweithio neu chwilio am waith;

  • os nad oes angen i chi weithio, ond rhaid i chi wneud pethau i baratoi ar gyfer gwaith - a elwir yn 'allu cyfyngedig i weithio' (LCW);

  • os nad oes angen i chi weithio na pharatoi ar gyfer gwaith - a elwir yn ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith' (LCWRA).

Os nad ydych chi'n siŵr a fydd angen i chi lenwi'r ffurflen, canfyddwch bwy sydd angen llenwi'r ffurflen gallu i weithio.

Os oes angen i chi lenwi'r ffurflen, mae pethau y gallwch eu gwneud ymlaen llaw i sicrhau eich bod yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i’r Adran Gwaith a Phensiynau. 

Gallwch:

  • gynllunio faint o amser y bydd ei angen arnoch

  • cael tystiolaeth i'w hanfon gyda'r ffurflen

  • cadw dyddiadur i’ch helpu i gofio beth i’w gynnwys

Cynllunio faint o amser y bydd ei angen arnoch

Gall y ffurflen gymryd amser hir i'w llenwi. Neilltuwch amser i gymryd seibiant os gallwch chi - mae'n bwysig rhoi digon o wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) er mwyn iddynt allu gwneud y penderfyniad iawn.

Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen o fewn 4 wythnos ar ôl i chi ei derbyn - neu efallai y bydd y DWP yn penderfynu eich bod yn gallu gweithio. 

Os yw'n fwy na phedair wythnos ers i chi dderbyn y ffurflen, rhaid i chi ei llenwi a'i dychwelyd cyn gynted ag y gallwch. Efallai y bydd y DWP yn ei derbyn os oes rheswm da pam na allech ei dychwelyd yn gynt.

Cael tystiolaeth i'w hanfon gyda'r ffurflen

Gallwch anfon tystiolaeth feddygol o'ch cyflwr neu'ch anabledd ynghyd â'ch ffurflen. Gall tystiolaeth feddygol roi gwell syniad i'r DWP o sut mae eich cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio. 

Dylech anfon tystiolaeth os yw’n cefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud ar y ffurflen. Efallai ei fod wrth law yn barod - er enghraifft:

  • allbrint o’r feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd

  • llythyrau gan arbenigwyr 

  • canlyniadau pelydr-x

  • sganiau

  • taflen rhyddhau o’r ysbyty

  • cynllun gofal therapydd galwedigaethol

Os ydych chi’n cael problemau gyda’ch iechyd meddwl, dylech feddwl am unrhyw ddogfennau neu lythyrau sydd gennych gan bobl fel:

  • nyrs seiciatrig gymunedol (CPN)

  • therapydd galwedigaethol - er enghraifft cynllun gofal

  • therapydd neu gwnselydd

  • gweithiwr cymdeithasol

Os nad oes gennych ddiagnosis

Mae’n bosibl na chewch ddiagnosis os oes gennych symptomau anesboniadwy megis problemau gyda’ch stumog, blinder neu bendro.

Os nad oes gennych unrhyw dystiolaeth i'w hanfon, gofynnwch i'ch meddyg a all roi llythyr i chi yn esbonio'ch cyflwr a sut mae'n effeithio ar eich gallu i weithio. 

Peidiwch â phoeni bod y ffurflen yn dweud na ddylech ofyn am wybodaeth newydd na thalu amdani - gallwch anfon tystiolaeth newydd os yw'n eich helpu i ddangos i'r DWP beth yw eich sefyllfa.

Os gofynnir i chi dalu am dystiolaeth

Efallai y bydd rhai meddygon yn codi tâl arnoch am lythyr neu adroddiad newydd.

Os na allwch chi fforddio talu, mae'n werth gofyn am gopïau o lythyrau neu nodiadau meddygol diweddar gan unrhyw arbenigwyr y maent wedi eich cyfeirio atynt - fel arfer mae'n rhaid iddynt roi copïau i chi am ddim. 

Gallech hefyd anfon llythyr gan eich partner neu ofalwr.

Os nad ydych yn siŵr pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch

Gallwch chi gael cyngor os ydych chi’n:

  • ansicr a oes angen i chi anfon darn o dystiolaeth

  • ansicr a ddylid gofyn am ragor o dystiolaeth i gefnogi eich achos

  • cael trafferth cael gafael ar y dystiolaeth sydd ei hangen arnoch

Siaradwch â chynghorydd os nad ydych chi’n siŵr pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch.

Cadw dyddiadur

I wneud y penderfyniad iawn, mae angen i'r DWP wybod am yr holl anawsterau sydd gennych oherwydd eich cyflwr iechyd neu anabledd. Maen nhw eisiau gwybod beth allwch chi ei wneud yn gorfforol a’ch iechyd meddwl.

Gallech gadw dyddiadur cyn anfon y ffurflen, felly mae'n haws i ni weld beth rydych chi'n ei wneud fel arfer. Peidiwch ag oedi o ran anfon y ffurflen wrth i chi gadw'r dyddiadur - gallwch anfon mwy o wybodaeth wedyn os oes angen.

Yn y dyddiadur, dylech gynnwys yr anawsterau sydd gennych oherwydd:

  • eich cyflwr iechyd neu anabledd

  • y feddyginiaeth neu’r driniaeth rydych chi'n ei chael ar gyfer cyflwr neu anabledd

  • cymhorthion - fel ffon gerdded, teclyn cymorth clyw, ci tywys neu ganllawiau yn eich cartref

Peidiwch â theimlo cywilydd am yr hyn rydych yn ei wneud neu ddim yn ei wneud. Mae'n iawn os na allwch wneud rhywbeth, neu os oes angen help arnoch - ond mae'n bwysig dweud wrth y DWP. Mae angen iddyn nhw wybod beth allwch chi ei wneud heb help rhywun arall.

Dechrau llenwi’r ffurflen

Pan fyddwch yn cael y ffurflen, mae'n bwysig rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar y DWP i wneud y penderfyniad cywir. Dysgwch beth mae’r ffurflen yn gofyn amdano a beth i’w gynnwys.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Medi 2022