Llenwch y ffurflen gallu i weithio: sut mae eich cyflyrau'n effeithio arnoch chi
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Fel arfer, bydd angen i chi lenwi ffurflen ychwanegol os ydych chi'n cael Credyd Cynhwysol ac na allwch chi weithio oherwydd eich bod yn anabl neu fod gennych gyflwr iechyd. Gelwir y ffurflen yn 'holiadur gallu i weithio' neu 'UC50'.
Ar ôl yr adran gyntaf, mae adran nesaf y ffurflen yn ymwneud â sut mae eich cyflwr iechyd neu eich anabledd yn effeithio ar yr hyn a wnewch.
Os nad ydych wedi dechrau'r ffurflen eto, canfyddwch sut i ddechrau'r ffurflen.
Os ydych chi’n cael triniaeth canser
Dylech lenwi’r adrannau hyn os oes gennych chi gyflyrau iechyd neu anableddau eraill hefyd.
Os nad oes gennych unrhyw gyflyrau neu anableddau eraill, does dim angen i chi lenwi'r adrannau hyn - gallwch fynd yn syth i dudalennau 22 a 23.
Bydd angen i chi ofyn i'ch meddyg neu rywun arall sy'n eich trin lenwi tudalen olaf y ffurflen.
Gwiriwch pryd i ddychwelyd y ffurflen
Rhaid i chi ddychwelyd eich ffurflen o fewn 4 wythnos i’w derbyn. Gwiriwch y llythyr a ddaeth gyda’r ffurflen am yr union ddyddiad.
Os yw'n fwy na phedair wythnos ers i chi dderbyn y ffurflen, rhaid i chi ei llenwi a'i dychwelyd cyn gynted ag y gallwch. Efallai y bydd y DWP yn ei derbyn os oes rheswm da pam na allech ei hanfon yn gynt.
Gwiriwch beth sydd angen i’r DWP ei wybod
Mae angen i’r DWP wybod am yr holl anawsterau sydd gennych, er mwyn iddyn nhw allu gwneud y penderfyniad iawn am eich Credyd Cynhwysol.
Cymerwch eich amser wrth ateb pob cwestiwn, a chymerwch seibiant pan fydd angen. Bydd hyn yn eich helpu i ddarparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar y DWP.
Peidiwch â theimlo cywilydd am eich atebion. Mae'n iawn os na allwch wneud rhywbeth, neu os oes angen help arnoch - ond mae'n bwysig dweud wrth y DWP. Mae angen iddyn nhw wybod beth allwch chi ei wneud heb help rhywun arall.
Sut mae’r DWP yn gwneud penderfyniad
Mae’r DWP yn defnyddio rhestr o ddatganiadau i benderfynu pa mor anodd yw’r gweithgareddau ym mhob cwestiwn i chi. Gelwir y datganiadau’n ‘ddisgrifyddion’.
Ar gyfer pob cwestiwn, bydd y DWP yn gwirio pa ddisgrifydd sy’n cyfateb i’ch ateb.
Mae rhai disgrifyddion yn golygu nad oes rhaid i chi weithio na pharatoi ar gyfer gwaith. Gelwir hyn yn ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith’ (LCWRA). Os ydych chi'n cael LCWRA, byddwch hefyd yn cael arian ychwanegol gyda'ch hawliad.
Os nad ydych chi'n cael LCWRA, bydd y DWP yn gwirio pa ddisgrifyddion eraill rydych chi'n cyfateb â nhw. Mae gan bob disgrifydd nifer o bwyntiau. Po fwyaf anodd yw’r gweithgaredd hwnnw i chi, y mwyaf o bwyntiau y gallech eu cael.
Er enghraifft, ar gyfer cwestiwn 1, os na allwch symud mwy na:
50 metr heb gymorth, gallwch gael 15 pwynt
100 metr neu ddringo dwy ris heb gymorth, gallwch gael 9 pwynt
200 metr heb gymorth, gallwch gael 6 pwynt
Os gallwch symud mwy na 200 metr heb gymorth, byddwch yn cael 0 pwynt.
Mae'r DWP yn ychwanegu'r holl bwyntiau a gewch o'r ffurflen gyfan at ei gilydd. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi gael pwyntiau ar gyfer pob cwestiwn.
Os cewch o leiaf 15 pwynt o’r ffurflen gyfan, ni fydd yn rhaid i chi weithio. Bydd yn rhaid i chi wneud pethau i baratoi ar gyfer gwaith, fel hyfforddi neu ysgrifennu CV. Gelwir hyn yn ‘allu cyfyngedig i weithio’ (LCW).
Os na chewch chi 15 pwynt, efallai y byddwch yn dal i gael LCW neu LCWRA os yw gweithio neu baratoi ar gyfer gwaith yn gallu bod yn risg i’ch iechyd chi neu iechyd rhywun arall.
Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn esbonio'r holl anawsterau sydd gennych, er mwyn i'r DWP allu penderfynu a oes rhaid i chi weithio neu baratoi ar gyfer gwaith.
Os nad ydych yn siŵr sut y bydd y DWP yn asesu'r cwestiynau, gallwch siarad â chynghorydd.
Atebwch Ran 1: Swyddogaethau corfforol
Mae’r adran hon ar dudalennau 8 i 13 y ffurflen.
1. Symud o gwmpas a defnyddio grisiau
Os oes angen i chi ddefnyddio rhywbeth i’ch helpu i gerdded, seiliwch eich ateb ar sut rydych chi’n cerdded pan fyddwch chi’n ei ddefnyddio.
Os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn â llaw, seiliwch eich ateb ar sut rydych chi’n mynd o gwmpas pan fyddwch chi’n ei defnyddio. Os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn drydan, seiliwch eich ateb ar sut byddech chi’n symud o gwmpas hebddo.
Peidiwch â theimlo cywilydd am eich atebion - mae'n bwysig bod y DWP yn gwybod beth allwch chi ei wneud heb help rhywun arall.
“Pa mor bell allwch chi symud yn ddiogel a dro ar ôl tro ar dir gwastad heb fod angen stopio?”
50 metr
100 metr
200 metr neu fwy
Mae’n amrywio
Mae’n iawn os nad ydych chi’n gwybod beth i’w dicio ar unwaith. Ceisiwch symud i weld pa mor bell rydych chi’n mynd. Mae 50 metr oddeutu hyd 5 bws deulawr.
Beth i’w egluro am symud o gwmpas
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch. Dylech egluro:
faint o amser mae'n ei gymryd fel arfer i chi symud 50 metr, 100 metr a 200 metr neu fwy - os na allwch symud y pellteroedd hynny, dylech esbonio hynny
os yw symud yn achosi poen i chi, ac am faint o amser fel arfer
os yw’n gwneud i chi deimlo’n flinedig, yn anghyfforddus neu allan o wynt
os yw’n gwneud i chi deimlo’n benysgafn neu’n ansefydlog ar eich traed
os ydych chi wedi disgyn yn y gorffennol - cofiwch ddweud pa mor aml mae hyn yn digwydd, ac a oedd angen rhywun arall arnoch i'ch helpu i godi
a fyddech yn gallu symud y pellter hwnnw eto yn ystod y dydd
os ydych chi’n cael diwrnodau da a drwg, a beth yw’r gwahaniaethau
sut ydych yn teithio o gwmpas pan fyddwch yn gadael y tŷ os mai dim ond yn eich cartref y gallwch symud o gwmpas
“A allwch chi fynd i fyny neu i lawr dwy ris heb help gan rywun arall, os oes canllaw i ddal gafael arni?”
Gallaf
Na allaf
Mae’n amrywio
Peidiwch â theimlo cywilydd am ddweud "na" - er enghraifft, dylech dicio "na" os na allwch fynd i fyny neu i lawr dwy ris, neu byddai'n eich blino'n lân neu’n achosi poen am weddill y diwrnod. Mae’n bwysig bod y DWP yn gwybod hyn.
Beth i’w egluro am ddefnyddio grisiau
Os byddai defnyddio grisiau yn achosi poen i chi, dylech egluro yn y blwch:
pa mor ddrwg fyddai’r boen, er enghraifft, mor ddrwg fel na allech chi symud
natur y boen, er enghraifft poen sy’n plycio, poen yn y stumog neu boen sydyn
am ba hyd y byddech chi mewn poen, er enghraifft, tua 4 awr
a fyddai'n eich atal rhag gwneud unrhyw beth arall ac am ba hyd, er enghraifft, byddai'n rhaid i chi orwedd am 20 munud
Os byddai mynd i fyny ac i lawr grisiau yn eich gwneud yn flinedig neu’n fyr o wynt, dylech ddweud:
pa mor flinedig fyddech chi, er enghraifft, a fyddai angen i chi eistedd neu orwedd i lawr
am ba hyd y byddech chi wedi blino (gallwch amcangyfrif hyn)
a fyddai bod yn flinedig yn eich atal rhag gwneud pethau eraill, ac am ba hyd
sut y byddai'n effeithio ar weddill eich diwrnod, er enghraifft, byddech yn rhy flinedig i siarad â rhywun
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 1
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 1 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
1 (a) Ni all yr hawlydd wneud y canlynol heb gymorth unigolyn arall: (i) symud mwy na 50 metr ar dir gwastad heb stopio er mwyn osgoi anghysur neu flinder sylweddol; neu (ii) symud 50 metr, dro ar ôl tro, o fewn amserlen resymol oherwydd anghysur neu flinder sylweddol. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Ni all yr hawlydd ddringo i fyny neu gamu i lawr dwy ris heb gymorth unigolyn arall neu heb gymorth canllaw. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(c) Ni all yr hawlydd wneud y canlynol heb gymorth unigolyn arall: (i) symud mwy na 100 metr ar dir gwastad heb stopio er mwyn osgoi anghysur neu flinder sylweddol; neu (ii) symud 100 metr, dro ar ôl tro, o fewn amserlen resymol oherwydd anghysur neu flinder sylweddol. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(d) Ni all yr hawlydd wneud y canlynol heb gymorth unigolyn arall: (i) symud mwy na 200 metr ar dir gwastad heb stopio er mwyn osgoi anghysur neu flinder sylweddol; neu (ii) symud 200 metr, dro ar ôl tro, o fewn amserlen resymol oherwydd anghysur neu flinder sylweddol. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(e) Nid yw’r gweithgareddau uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
2. Sefyll ac eistedd
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae eich cyflwr neu eich anabledd yn effeithio ar p’un a allwch chi newid seddi, eistedd a sefyll.
“A allwch chi symud o un sedd i’r llall, wrth ymyl ei gilydd, heb help gan rywun arall?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Meddyliwch a fyddech chi'n gallu eistedd mewn cadair swyddfa y gellir ei haddasu, yn hytrach na chadair freichiau neu unrhyw fath arall o sedd y byddech chi'n ei defnyddio gartref.
Os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn, meddyliwch a oes angen help corfforol arnoch i fynd o'ch cadair olwyn i sedd wahanol neu i mewn i'r car.
Peidiwch â theimlo cywilydd wrth dicio “na”, er enghraifft:
os byddai angen cymorth rhywun arall arnoch
os byddech chi'n colli eich cydbwysedd ac yn syrthio os na fyddai rhywun yn eich helpu
os byddech chi'n ei chael hi'n anodd symud seddi fwy nag unwaith mewn diwrnod heb help gan rywun arall - efallai oherwydd y byddai'n anghyfforddus, yn boenus, yn eich gadael yn fyr o wynt neu'n flinedig
“Wrth i chi sefyll neu eistedd (neu gyfuniad o’r ddau), pa mor hir allwch chi aros mewn un lle a bod yn rhydd o boen heb gymorth rhywun arall?”
Llai na 30 munud
30 munud i 1 awr
Mwy nag awr
Mae’n amrywio
Meddyliwch am yr adegau pan rydych chi’n aros am fws neu apwyntiad meddyg. Eglurwch os oes rhaid i chi wneud pethau fel codi bob 10 munud i ymdopi â’r teimlad anghyfforddus o eistedd a sefyll.
Ceisiwch beidio â goramcangyfrif am ba hyd y gallwch sefyll, eistedd, neu eistedd a sefyll.
Er enghraifft, os ydych chi'n eistedd ar gadair gartref, efallai y bydd angen i chi sefyll ar eich traed ar ôl ychydig funudau, ond nid ydych yn sylwi pa mor aml rydych chi'n gwneud hynny.
Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “llai na 30 munud”, er enghraifft:
os na allwch sefyll am y cyfnod hwnnw oni bai fod gennych ddwy ffon neu faglau - ac ni allwch eistedd am 30 munud ychwaith
os byddech chi mewn poen ar ôl 30 munud, ond byddech chi’n gorfodi eich hun i ymdopi
Beth i’w esbonio am sefyll ac eistedd
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch. Dylech egluro pethau fel:
os yw'n anodd i chi newid o sefyll i eistedd i lawr, neu o eistedd i sefyll - a beth sy'n ei gwneud yn anodd i chi
os byddai angen i chi wneud rhywbeth ar ôl eistedd neu sefyll yn rhy hir, er enghraifft lleddfu'r boen drwy orwedd i lawr
pa broblemau sydd gennych pan fyddwch yn eistedd neu'n sefyll yn rhy hir - megis teimlo'n sâl, blinder, trafferth anadlu, poen yn y cyhyrau neu boen yn y cymalau
pam mae gennych broblemau, er enghraifft mae eich cefn tost yn ei gwneud yn anodd cynnal eich cydbwysedd
a oes safleoedd na allwch eistedd ynddynt oherwydd eu bod yn achosi poen i chi
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 2
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 2 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
2 (a) Nid yw’r hawlydd yn gallu symud rhwng un safle eistedd a safle eistedd arall gerllaw, heb gael cymorth corfforol gan unigolyn arall. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Nid yw’r hawlydd yn gallu aros wrth orsaf waith am gyfnod amser estynedig, naill ai: (i) yn sefyll heb gymorth unigolyn arall (hyd yn oed os yw’n rhydd i symud o gwmpas); neu (ii) yn eistedd (hyd yn oed mewn cadair y gellir ei haddasu); neu (iii) gyfuniad o (i) a (ii) am fwy na 30 munud, cyn gorfod symud er mwyn osgoi anghysur neu flinder sylweddol. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’r hawlydd yn gallu aros wrth orsaf waith am gyfnod amser estynedig, naill ai: (i) yn sefyll heb gymorth unigolyn arall (hyd yn oed os yw’n rhydd i symud o gwmpas); neu (ii) yn eistedd (hyd yn oed mewn cadair y gellir ei haddasu); neu (iii) gyfuniad o (i) a (ii) am fwy nag awr, cyn gorfod symud er mwyn osgoi anghysur neu flinder sylweddol. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
3. Ymestyn
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a allwch chi ymestyn i fyny gyda’r naill fraich neu’r llall, uwchben canol y corff.
“A allwch chi godi o leiaf un o’ch breichiau’n ddigon uchel fel petaech chi’n rhoi rhywbeth ym mhoced uchaf côt neu siaced tra byddwch chi’n ei gwisgo?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Wrth benderfynu sut i ateb, efallai y byddai’n ddefnyddiol meddwl am y canlynol:
pa mor anodd yw ymestyn at boced
a allech chi ei wneud fwy nag unwaith, a beth fyddai'n digwydd pe baech yn ceisio ei wneud dro ar ôl tro
a fyddai ymestyn at boced siaced yn achosi poen i chi, pa mor ddifrifol yw’r boen honno, a sut y byddai’n effeithio arnoch chi
“A allwch chi godi un o’ch breichiau uwchben eich pen?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Wrth benderfynu sut i ateb, efallai y byddai’n ddefnyddiol meddwl am y canlynol:
pa mor anodd yw’r profiad i chi
a fyddai’n achosi poen i chi, pa mor ddifrifol yw’r boen honno, a sut y byddai’n effeithio arnoch chi
a allech chi ei wneud fwy nag unwaith, a beth fyddai'n digwydd pe baech yn ceisio ei wneud dro ar ôl tro
Beth i’w egluro am ymestyn
Defnyddiwch y blwch i egluro beth sy’n digwydd pan fyddwch yn ceisio codi eich breichiau. Er enghraifft:
os ydych bob amser yn cael trafferth, neu os yw'r ffordd y mae'ch cyflwr yn effeithio arnoch yn newid - er enghraifft 4 allan o 7 diwrnod
sut mae’n teimlo pan fyddwch yn ceisio codi eich breichiau
os yw'n achosi poen neu anghysur i chi, pa mor ddifrifol ydyw a sut mae'n effeithio arnoch chi
os mae’n gwneud i chi deimlo’n flinedig, pa mor eithafol yw’r blinder, a sut mae'r blinder yn effeithio arnoch chi
os oes angen help arnoch gan rywun arall ar gyfer rhai pethau penodol - fel golchi eich gwallt
pa mor aml mae angen help arnoch chi, a beth mae angen help arnoch chi i’w wneud
os ydych chi’n cael diwrnodau da a drwg, a sut maen nhw’n gwahaniaethu
beth sy'n digwydd os ceisiwch ymestyn eich breichiau ar ddiwrnod gwael
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 3
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 3 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
3 (a) Nid yw’r hawlydd yn gallu codi’r naill fraich na’r llall fel pe bai’n rhoi rhywbeth ym mhoced uchaf cot neu siaced. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Nid yw’r hawlydd yn gallu codi’r naill fraich na’r llall at lefel y pen, fel pe bai’n gwisgo het. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’r hawlydd yn gallu codi'r naill fraich na’r llall uwchben uchder y pen, fel pe bai’n ymestyn am rywbeth. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
4. Codi a symud pethau
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â pha mor hawdd yw hi i chi godi a symud gwahanol bethau.
“A allwch chi godi a symud carton hanner litr (un peint) yn llawn hylif?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Ceisiwch godi peint o laeth neu wydr peint o ddŵr. Peidiwch â theimlo cywilydd wrth dicio “na”, er enghraifft:
os na allwch ei godi - efallai y bydd yn rhaid i chi ei dynnu tuag atoch yn lle hynny
os mae’n achosi poen i chi - er enghraifft yn eich bysedd, eich breichiau, eich cefn neu eich gwddf
os na allwch chi ei symud yn llyfn - byddech yn ei ollwng yn y pen draw
“A allwch chi godi a symud carton litr (dau beint) yn llawn hylif?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Unwaith eto, peidiwch â theimlo cywilydd am dicio “na”. Ceisiwch godi carton 2 beint o laeth os nad ydych chi’n siŵr.
“A allwch chi godi a symud gwrthrych mawr, ysgafn, fel bocs cardfwrdd gwag?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Mae'n iawn os na allwch wneud hyn - ond mae'n bwysig ticio “na”.
Mae'r DWP eisiau gwybod pa mor hawdd yw hi i chi symud unrhyw beth sy'n fawr ac yn ysgafn. Os nad ydych chi’n siŵr pa mor hawdd fyddai symud blwch cardfwrdd, ceisiwch feddwl am symud clustog o un ochr y gwely i’r llall.
Beth i’w esbonio am godi a symud pethau
Dylech egluro yn y blwch:
sut rydych chi fel arfer yn codi ac yn symud pethau
beth sy'n digwydd os byddwch chi'n codi ac yn symud pethau fwy nag unwaith, nid dim ond unwaith yn unig
os ydych chi’n cael problemau symud pethau’n ddidrafferth, a sut mae hyn yn effeithio ar eich gallu i godi pethau
a ydych chi’n gollwng pethau – gallech roi enghraifft, a dweud beth ddigwyddodd ar ôl i chi ollwng rhywbeth (e.e. roedd yn rhaid i chi fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys)
Dylech hefyd ddisgrifio sut mae codi a symud pethau yn gwneud i chi deimlo - er enghraifft:
os mae’n achosi poen neu anghysur i chi - er enghraifft yn eich bysedd, eich breichiau, eich cefn neu eich gwddf
pa mor hir mae'r boen yn para, a pha mor ddifrifol ydyw (os bydd codi a symud pethau yn achosi poen i chi)
a yw codi a symud pethau yn achosi i chi fod yn fyr o wynt, i deimlo'n benysgafn neu’n flinedig
Os yw’n wahanol ar ddiwrnodau da a gwael, esboniwch sut beth yw diwrnod da a diwrnod gwael, a pha mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael.
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 4
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 4 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
4 (a) Nid yw’r hawlydd yn gallu codi a symud carton 0.5 litr yn llawn hylif. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Nid yw’r hawlydd yn gallu codi a symud carton litr (dau beint) yn llawn hylif. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’r hawlydd yn gallu trosglwyddo gwrthrych ysgafn ond swmpus fel blwch cardfwrdd gwag. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
5. Medrusrwydd llaw
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a ydych chi’n ei chael hi’n anodd defnyddio eich dwylo a’ch arddyrnau oherwydd cyflwr corfforol fel clefyd Parkinson neu sglerosis ymledol (MS).
“A allwch chi ddefnyddio un o’ch dwylo i: bwyso botwm, fel bysellbad ffôn, troi tudalennau llyfr, codi darn £1, defnyddio beiro neu bensil, defnyddio bysellfwrdd neu lygoden addas?”
Rhai o’r pethau hyn
Dim un o’r pethau hyn
Mae’n amrywio
Mae'r DWP am wybod a allwch wneud unrhyw un o'r tasgau hyn yn ddigon da gydag un o'ch dwylo. Mae ‘digon da’ yn golygu a allwch chi wneud y canlynol:
gwneud marc, er enghraifft tic neu groes gyda beiro neu bensil
defnyddio bysellfwrdd (gan gynnwys bysellfwrdd wedi'i addasu) gydag un llaw - does dim angen i chi allu teipio'n gyflym
troi tudalennau llyfr yn llyfn
Os nad ydych chi’n siŵr am y tasgau a nodir yn y cwestiwn, meddyliwch a ydych chi’n cael trafferth gwneud tasgau eraill, fel paratoi llysiau, troi tapiau ymlaen neu dynnu eich arian allan o waled neu bwrs.
Peidiwch â bod ofn dweud na allwch wneud unrhyw un o'r tasgau, er enghraifft os ydych yn profi:
cryndod
sbasmau
poen
stiffrwydd
problemau gyda gafael
anawsterau pinsio
Beth i’w egluro am ddefnyddio eich dwylo
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Dylech egluro os, er enghraifft:
mae'n rhaid i rywun arall lenwi ffurflenni ar eich rhan oherwydd allwch chi ddim gafael mewn beiro
mae'n cymryd amser hir i chi wisgo oherwydd mae'n anodd i chi gau sipiau, botymau neu gareiau esgidiau
mae defnyddio eich dwylo, er enghraifft i agor caead jar neu eich drws ffrynt gydag allwedd, yn achosi poen i chi
rydych chi’n gollwng pethau oherwydd nad ydych chi’n gallu gafael ynddyn nhw neu eu pinsio
nid ydych yn gallu gyrru oherwydd eich cyflwr, er enghraifft os na allwch afael yn y llyw neu ddefnyddio ffon newid gêr
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 5
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 5 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
5 (a) Nid yw’r hawlydd yn gallu pwyso botwm (fel bysellbad ffôn) gyda'r naill law na'r llall, neu nid yw’r hawlydd yn gallu troi tudalennau llyfr gyda'r naill law na'r llall. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Nid yw’r hawlydd yn gallu codi darn £1, neu debyg, â’r naill law na’r llall. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’r hawlydd yn gallu defnyddio beiro na phensil i wneud marc ystyrlon gyda’r naill law na’r llall. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r hawlydd yn gallu defnyddio llygoden na bysellfwrdd addas ar ei ben ei hun. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(e) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
6. Cyfathrebu (siarad, ysgrifennu a theipio)
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a ydych chi’n ei chael hi’n anodd gwneud i bobl eich deall chi. Mae’n ymwneud ag anawsterau corfforol, er enghraifft cael atal dweud neu fod yn hollol fyddar.
Efallai y byddwch hefyd yn cael anawsterau oherwydd anaf neu gyflwr corfforol, e.e. anaf i’r ymennydd, strôc neu glefyd Parkinson.
Os ydych chi’n cael anawsterau oherwydd problem iechyd meddwl fel gorbryder, gallwch egluro hynny mewn cwestiwn yn nes ymlaen.
“A allwch chi gyfleu neges syml i bobl eraill, e.e. presenoldeb rhywbeth peryglus?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Ar gyfer y cwestiwn hwn, peidiwch â meddwl am ddweud wrth rywun am rywbeth peryglus yn unig.
Er enghraifft, a allech chi archebu beth hoffech chi ei gael mewn caffi? Gallai hyn fod naill ai drwy ddweud beth yr hoffech chi neu ei ysgrifennu ar ddarn o bapur.
Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft os na allwch gyfleu neges syml oherwydd:
byddai angen help arnoch gan rywun arall, fel dehonglydd iaith arwyddion
rydych chi’n cael trafferth siarad, anawsterau lleferydd, neu dydych chi ddim yn gallu siarad
os yw eich cyflwr yn golygu eich bod yn cael trafferth ysgrifennu a theipio, yn ogystal â siarad
dydych chi ddim yn gallu siarad yn ddigon uchel neu am ddigon o amser i gael sylw rhywun
mae siarad, ysgrifennu neu deipio yn achosi poen i chi neu'n eich gadael yn fyr o wynt
Beth i’w esbonio am siarad, ysgrifennu a theipio
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am eich anawsterau wrth gyfathrebu â phobl. Er enghraifft, eglurwch:
os nad yw pobl yn eich deall - rhowch enghreifftiau os gallwch
sut mae’n gwneud i chi deimlo os na all rhywun eich deall
os byddwch yn osgoi cyfathrebu oherwydd ei fod yn anodd, yn cymryd gormod o amser, neu'n eich gwneud i chi deimlo’n rhwystredig
a oes rhywun yn eich helpu i gyfathrebu, a sut maen nhw’n eich helpu chi
pa mor aml yr ydych yn cael anawsterau
os ydych chi’n cael diwrnodau da a drwg, a beth yw’r gwahaniaethau
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 6
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 6 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
6 (a) Nid yw’r hawlydd yn gallu cyfleu neges syml, fel presenoldeb perygl. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Mae'r hawlydd yn cael anhawster sylweddol yn cyfleu neges syml i ddieithriaid. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(c) Mae'r hawlydd yn cael peth anhawster yn cyfleu neges syml i ddieithriaid. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
7. Cyfathrebu (clywed a darllen)
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a ydych chi’n cael trafferth deall beth mae pobl yn ei ddweud wrthych, ac a ydych chi’n cael trafferth darllen.
“A allwch chi ddeall negeseuon syml gan bobl eraill trwy glywed neu ddarllen gwefusau heb gymorth person arall?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Peidiwch â theimlo cywilydd wrth dicio “na”, er enghraifft:
os ydych chi'n fyddar neu os ydych chi'n colli'ch clyw ac nad ydych chi'n darllen gwefusau
os ydych chi’n gallu darllen gwefusau pobl rydych chi’n eu hadnabod, ond nid dieithriaid
os oes angen dehonglydd iaith arwyddion arnoch
os ydych weithiau yn camddeall pethau sy’n cael eu dweud wrthych
Os ydych chi’n defnyddio teclyn cymorth clyw, dylech ateb y cwestiynau fel petaech chi’n ei ddefnyddio.
“A allwch chi ddeall negeseuon syml gan bobl eraill drwy ddarllen print mawr neu ddefnyddio Braille?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Unwaith eto, peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio "na", er enghraifft os oes gennych amhariad ar eich golwg ac nad ydych yn defnyddio Braille.
Beth i’w esbonio am glywed a darllen
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Os ydych chi’n defnyddio unrhyw gymhorthion i’ch helpu i ddeall pobl eraill, neu i’ch helpu i ddarllen, rhowch y manylion yn y blwch.
Enghreifftiau o gymhorthion y gallech eu defnyddio:
Braille, print bras neu fformatau sain
goleuadau arbennig i'ch helpu i ddarllen
teclyn cymorth clyw neu declyn laryncs trydan
ffôn testun neu offer chwyddo sain i'ch helpu i glywed
Yn ogystal ag ysgrifennu am gymhorthion sy'n eich helpu, mae'n bwysig esbonio pethau fel:
a yw’n cymryd amser hir i chi ddarllen rhywbeth, neu ddeall rhywun
os ydych chi'n defnyddio dehonglydd iaith arwyddion, a beth fyddai'n digwydd pe na bai gennych un
os bydd rhywun yn darllen pethau i chi, neu'n esbonio beth mae pobl eraill wedi'i ddweud
sut mae methu â darllen rhywbeth neu glywed rhywun wedi achosi problemau i chi
sut rydych chi’n teimlo pan nad ydych chi’n gallu deall yr hyn sy’n cael ei ddweud neu ei ysgrifennu
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 7
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 7 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
7 (a) Nid yw’r hawlydd yn gallu deall neges syml, fel lleoliad dihangfa dân, oherwydd amhariad ar y synhwyrau. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Mae’r hawlydd yn cael anhawster sylweddol wrth ddeall neges syml gan ddieithryn oherwydd amhariad ar y synhwyrau. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(c) Mae’r hawlydd yn cael trafferth deall neges syml gan ddieithryn oherwydd amhariad ar y synhwyrau. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
8. Teithio o gwmpas yn ddiogel
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â chyflyrau iechyd corfforol.
Does dim angen i chi ysgrifennu am eich iechyd meddwl yma. Os oes gennych gyflwr iechyd meddwl sy’n ei gwneud yn anodd i chi symud o gwmpas yn ddiogel ar eich pen eich hun (er enghraifft gorbryder neu agoraffobia), ysgrifennwch amdano yng nghwestiwn 15.
Os oes gennych gyflwr corfforol sy'n effeithio ar eich gallu i symud o gwmpas yn ddiogel, dylech ei gynnwys - er enghraifft:
golwg gwan
meigryn - os ydynt yn effeithio ar eich golwg neu’n rhoi pendro neu benysgafnder i chi
colli clyw - os yw'n ei gwneud yn fwy anodd i chi symud o gwmpas yn ddiogel
narcolepsi - anhwylder sy’n gwneud i bobl syrthio i gysgu ar adegau amhriodol
Clefyd Meniere – os yw’n gwneud i chi deimlo’n benysgafn neu’n rhoi pendro i chi
Os ydych chi fel arfer yn defnyddio sbectol neu lensys cyffwrdd, ci tywys, teclyn cymorth clyw neu unrhyw declyn cymorth arall, atebwch y cwestiynau ar sail sut rydych chi'n symud o gwmpas pan fyddwch chi'n eu defnyddio.
“A allwch chi weld er mwyn croesi’r ffordd ar eich pen eich hun?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Meddyliwch am geisio croesi ffordd nad ydych chi erioed wedi'i chroesi o'r blaen - er enghraifft, ar y ffordd i apwyntiad mewn lle newydd.
Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft os byddai angen cymorth gan berson arall arnoch.
Gallech dicio "mae'n amrywio" os yw'n dibynnu ar y tywydd ac os yw hi yn ystod y dydd neu ar ôl iddi dywyllu.
“A allwch chi symud o gwmpas lleoliad nad ydych chi wedi bod iddo o’r blaen heb help?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na” oherwydd y byddai angen cymorth gan berson arall arnoch - er enghraifft:
pe na allech symud o gwmpas lleoliad newydd heb help ar ôl iddi dywyllu
os oes gennych olwg niwlog neu ddwbl
os yw eich anawsterau clywed yn golygu na fyddech yn gallu gofyn am help
Beth i’w egluro am symud o gwmpas yn ddiogel
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch - ar gyfer croesi'r ffordd a symud o gwmpas llefydd newydd. Mae’n bwysig iawn esbonio pethau fel:
beth fyddai'n eich atal rhag croesi'r ffordd ar eich pen eich hun
a ydych chi wedi disgyn yn y gorffennol
os ydych chi'n cael diwrnodau da a drwg (er enghraifft, os oes gennych feigryn) - a sut beth yw hynny i chi ar wahanol ddiwrnodau
a allwch chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio o gwmpas - er enghraifft, allwch chi ddim gweld y rhif ar y bws, felly nid ydych yn gwybod ai dyma'r llwybr cywir
os gallwch symud o gwmpas archfarchnad i ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano
os gallwch ganolbwyntio ar bethau pan fydd angen gwneud - er enghraifft arwyddion ffordd
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 8
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Does dim modd i chi gael LCWRA drwy gyfateb ag unrhyw un o’r disgrifyddion hyn.
Bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
8 (a) Nid yw’r hawlydd yn gallu llywio o amgylch lleoliadau cyfarwydd, heb gymorth person arall, oherwydd amhariad ar y synhwyrau. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Nid yw’r hawlydd yn gallu cwblhau tasg a allai fod yn beryglus yn ddiogel, e.e. croesi’r ffordd, heb gymorth person arall, oherwydd amhariad ar y synhwyrau. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’r hawlydd yn gallu llywio o amgylch lleoliadau anghyfarwydd, heb gymorth person arall, oherwydd amhariad ar y synhwyrau. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
9. Rheoli eich coluddyn a’ch pledren a defnyddio dyfais gasglu
Mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a oes gennych broblem gyda'ch pledren neu'ch coluddyn tra byddwch yn effro - nid tra byddwch yn cysgu.
Mae’r cwestiwn hwn yn arbennig o berthnasol i bobl sydd â chyflyrau fel Syndrom Coluddyn Llidus (IBS) a chlefyd Crohn.
Efallai y byddwch hefyd yn cael problemau o ganlyniad i'ch meddyginiaeth neu gyflwr neu anabledd gwahanol - er enghraifft, os na allwch chi reoli eich pledren wrth gael trawiad epileptig.
“Oes rhaid i chi olchi neu newid eich dillad oherwydd ei bod yn anodd rheoli eich pledren, eich coluddyn neu ddyfais gasglu?”
Nac oes
Oes - bob wythnos
Oes - bob mis
Oes - llai na bob mis
Oes - ond dim ond os nad ydw i’n gallu cyrraedd toiled yn gyflym
Ceisiwch fod yn onest, hyd yn oed os yw’n codi cywilydd arnoch. Mae'n bwysig bod y DWP yn gwybod beth sy’n digwydd, er mwyn iddynt allu gwneud y penderfyniad iawn.
Os oes rhaid i chi lanhau eich hun a newid eich dillad oherwydd anymataliaeth, dywedwch pa mor aml mae hyn yn digwydd.
Os nad yw wedi digwydd, ond eich bod yn poeni y gallai ddigwydd, neu os nad yw wedi digwydd oherwydd eich bod yn aros yn agos at doiled, dylech roi tic yn y blwch olaf.
Os gallwch chi reoli eich cyflwr gyda phadiau anymataliaeth, er enghraifft, dylech chi dicio “na”. Os oes rheswm pam nad ydych yn eu defnyddio, neu os oes rhaid i chi newid eich dillad ar adegau, ticiwch "ie" ac esbonio yn y blwch.
Beth i’w esbonio am eich coluddyn a’ch pledren
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Dylech egluro pethau fel:
beth sy'n digwydd os na allwch gyrraedd toiled yn gyflym
pa mor aml sydd yn rhaid i chi olchi neu newid eich dillad oherwydd ei bod yn anodd rheoli eich pledren neu eich coluddyn
a ydych yn cario dillad sbâr rhag ofn y bydd angen i chi newid
os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth i reoli eich pledren neu'ch coluddyn, ac a yw'n gweithio
y problemau sydd gennych os ydych am fynd allan - er enghraifft, os oes angen i chi aros yn agos at doiled i osgoi damweiniau
pa mor aml rydych chi’n cael pyliau, er enghraifft os yw eich clefyd Crohn fel arfer yn cael ei reoli’n dda gan feddyginiaeth, ond rydych chi’n cael dolur rhydd difrifol unwaith bob 6 mis
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 9
Byddwch yn cael LCWRA os yw’r datganiad hwn yn cyfateb i’ch ateb:
“O leiaf unwaith yr wythnos:
(a) rydw i’n colli rheolaeth sy’n arwain at wagio’r coluddyn a / neu wagio’r bledren yn sylweddol; neu
(b) rydw i’n profi gollyngiadau sylweddol o gynnwys dyfais gasglu, sy’n ddigon i’w gwneud yn ofynnol i mi lanhau fy hun a newid fy nillad.”
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
9 (a) O leiaf unwaith y mis: (a) rydw i’n colli rheolaeth sy’n arwain at wagio’r coluddyn a / neu wagio’r bledren yn sylweddol; neu (b) rydw i’n profi gollyngiadau sylweddol o gynnwys dyfais gasglu, sy’n ddigon i’w gwneud yn ofynnol i mi lanhau fy hun a newid fy nillad. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) rydw i mewn perygl o golli rheolaeth y rhan fwyaf o’r amser, gan arwain at wagio’r coluddyn a / neu wagio’r bledren yn sylweddol, yn ddigonol i’w gwneud yn ofynnol i mi lanhau a newid fy nillad, os nad ydw i’n gallu cyrraedd toiled yn gyflym. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’r un o’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
10. Aros yn ymwybodol pan fyddwch yn effro
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a yw eich cyflwr neu eich anabledd yn effeithio ar eich ymwybyddiaeth. Er enghraifft, gallai’r canlynol effeithio ar eich ymwybyddiaeth:
epilepsi
diabetes
narcolepsi (anhwylder sy’n gwneud i bobl syrthio i gysgu ar adegau amhriodol)
meigryn difrifol
“Pan fyddwch chi’n effro, pa mor aml ydych chi’n llewygu neu’n cael ffitiau neu flacowts?”
Bob dydd
Bob wythnos
Bob mis
Llai na bob mis
Mae’r DWP eisiau gwybod pa mor aml rydych chi’n cael ffitiau, trawiadau neu flacowts, neu unrhyw beth arall sy’n amharu’n ddifrifol ar eich ymwybyddiaeth a’ch gallu i ganolbwyntio pan fyddwch chi’n effro.
Does ganddyn nhw ddim diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cysgu - naill ai yn y nos neu yn ystod y dydd.
Efallai na fyddwch chi bob amser yn colli ymwybyddiaeth yn llwyr pan fyddwch chi’n cael ffitiau neu drawiadau. Mae’n dal yn bwysig eu cynnwys a dweud sut maen nhw’n effeithio arnoch chi.
Beth i’w egluro am aros yn ymwybodol
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Dylech egluro:
os ydych yn cael unrhyw rybudd eich bod ar fin cael ffit neu drawiad
os ydych chi wedi cael eich cludo i'r ysbyty - dywedwch sawl gwaith mae hyn wedi digwydd
faint o amser mae’n cymryd i chi adfer
os ydych chi'n ofni mynd allan rhag ofn i chi gael ffit neu drawiad
os ydych chi wedi anafu eich hun neu wedi cael damwain yn ystod ffit neu drawiad, er enghraifft os ydych chi wedi taro eich pen
os yw eich meddyginiaeth yn rhoi sgil-effeithiau i chi - dywedwch beth ydyn nhw a beth rydych chi'n ei wneud amdanyn nhw
os ydych chi wedi colli eich trwydded yrru (neu os nad ydych chi erioed wedi cael un) oherwydd eich cyflwr neu'ch anabledd
Nodwch os ydych chi, ar ôl colli ymwybyddiaeth:
yn gorfod cymryd amser i wella, fel mynd i’r gwely
yn ansicr sut byddwch chi’n teimlo – efallai y byddwch chi’n ymddwyn yn ymosodol neu mewn ffordd annisgwyl
yn anymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd o’ch cwmpas
angen rhywun i ofalu amdanoch chi
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 10
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Does dim modd i chi gael LCWRA drwy gyfateb ag unrhyw un o’r disgrifyddion hyn.
Bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
10 (a) O leiaf unwaith yr wythnos, mae'r hawlydd yn cael pwl anwirfoddol o golli neu newid ymwybyddiaeth, sy’n arwain at amhariad sylweddol ar ei ymwybyddiaeth neu ei allu i ganolbwyntio. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) O leiaf unwaith y mis, mae'r hawlydd yn cael pwl anwirfoddol o golli neu newid ymwybyddiaeth, sy’n arwain at amhariad sylweddol ar ei ymwybyddiaeth neu ei allu i ganolbwyntio. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
Atebwch Ran 2: Galluoedd meddyliol, gwybyddol a deallusol
Mae’r adran hon ar dudalennau 14 i 17 y ffurflen.
Cymerwch eich amser wrth ateb pob cwestiwn, a chymerwch seibiant pan fydd angen. Mae'n bwysig rhoi'r holl wybodaeth i'r DWP er mwyn iddynt allu penderfynu pa gymorth sydd ei angen arnoch.
11. Dysgu sut i wneud tasgau
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae eich cyflwr iechyd meddwl neu amhariad gwybyddol yn effeithio ar eich gallu i wneud tasgau, er enghraifft os oes gennych:
anawsterau dysgu
iselder
gorbryder
anafiadau i'r ymennydd
amhariadau gwybyddol ar ôl strôc
anhawster deall iaith, er enghraifft dysffasia derbyn
Meddyliwch a ydych chi’n tueddu i gael trafferth ffocysu neu ganolbwyntio, neu os ydych chi’n poeni pan fydd yn rhaid i chi ddysgu sut i wneud rhywbeth newydd.
“A allwch chi ddysgu sut mae gwneud tasg bob dydd fel gosod cloc larwm?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Peidiwch â theimlo cywilydd wrth dicio “na”, er enghraifft:
os byddai'r switshys yn peri dryswch i chi
os na fyddech yn gallu gweithio cloc larwm ar eich pen eich hun, hyd yn oed pe bai rhywun wedi dangos i chi sut i wneud y dasg y diwrnod cynt
os na fyddech yn gallu ymdopi pe bai'n rhaid i chi godi ar amser gwahanol un diwrnod (ac roedd angen i chi newid amser eich larwm)
Nid mater o osod cloc larwm yn unig yw hyn – mae’n ymwneud â gwneud unrhyw dasg sylfaenol. Meddyliwch am y canlynol, er enghraifft:
dysgu sut i droi teledu ymlaen ac yna newid y sianel gan ddefnyddio eich teclyn rheoli o bell
troi’r gwres neu’r dŵr poeth ymlaen
“A allwch chi ddysgu sut mae gwneud tasg fwy cymhleth, fel defnyddio peiriant golchi?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Nid mater o ddefnyddio peiriant golchi yn unig yw hyn - mae’n ymwneud â gwneud unrhyw dasg fwy cymhleth. Meddyliwch am y canlynol, er enghraifft:
dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur newydd ar gyfer pethau fel anfon a derbyn negeseuon e-bost
gwneud paned o de i rywun – llenwi tegell, rhoi bagiau te mewn tebot, ei dywallt i gwpan ac yna ychwanegu llaeth a siwgr
Beth i'w esbonio am ddysgu tasgau
Dylech egluro yn y blwch:
os oes unrhyw beth na allech chi ddysgu ei wneud (neu unrhyw beth sydd wedi eich herio) oherwydd eich bod yn ei gael yn rhy anodd - er enghraifft defnyddio peiriant golchi llestri
os oes angen i chi ymarfer ac ailadrodd tasgau'n rheolaidd i'w dysgu - a faint o amser y byddai'n ei gymryd i chi
os oes angen rhywun arnoch i ddangos i chi sut i wneud y dasg fwy nag unwaith
a yw'r feddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd wedi effeithio ar eich gallu i ddysgu tasgau newydd - ceisiwch gymharu sut beth ydoedd cyn i chi ddechrau cymryd y feddyginiaeth
a allwch ganolbwyntio ar dasgau
os ydych chi’n cael problemau gyda’ch cof tymor byr
os ydych chi'n cael diwrnodau da a drwg - a sut brofiad yw hynny i chi ar wahanol ddiwrnodau
a fyddech chi'n gallu dysgu mwy nag un dasg newydd mewn diwrnod
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 11
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 11 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
11 (a) Nid yw’r hawlydd yn gallu dysgu sut mae gwneud tasg bob dydd fel gosod cloc larwm. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Nid yw’r hawlydd yn gallu dysgu unrhyw beth y tu hwnt i dasg syml, fel gosod cloc larwm. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’r hawlydd yn gallu dysgu unrhyw beth y tu hwnt i dasg gymharol gymhleth, fel y camau sy’n gysylltiedig â defnyddio peiriant golchi dillad i lanhau dillad. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(e) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
12. Ymwybyddiaeth o beryglon
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae eich iechyd meddwl neu amhariad gwybyddol yn effeithio ar eich ymwybyddiaeth o beryglon. Er enghraifft, efallai eich bod yn llai ymwybodol o berygl oherwydd:
sgil-effeithiau meddyginiaeth
cyflwr iechyd meddwl, e.e. iselder neu seicosis
cyflwr niwrolegol fel epilepsi
anaf i’r ymennydd
anabledd dysgu
Meddyliwch am y canlynol:
a ydych yn deall y risgiau sy’n gysylltiedig â thasgau bob dydd, fel berwi dŵr a defnyddio gwrthrychau miniog
a allwch chi aros yn ddiogel weithiau, er eich bod yn cael damweiniau o bryd i’w gilydd - meddyliwch pam maen nhw'n digwydd, er enghraifft os ydych chi wedi torri eich hun ar rywbeth miniog, neu wedi llosgi eich hun yn y gegin neu gyda haearn smwddio
a ydych yn gwybod sut i osgoi perygl, er enghraifft, nid ydych yn poeni am draffig neu groesi ffyrdd
os ydych chi erioed wedi syrthio neu anafu eich hun ar y stryd (meddyliwch am sut mae wedi effeithio arnoch chi wedyn) - e.e. fe gawsoch chi anaf a nawr rydych yn osgoi rhai strydoedd penodol
“A oes angen goruchwyliaeth arnoch chi (rhywun i aros gyda chi) am y rhan fwyaf o’r amser i gadw’n ddiogel?”
Nac oes
Oes
Mae’n amrywio
Os nad oes gennych unrhyw un i'ch goruchwylio, dylech ddal nodi pam eich bod mewn perygl.
Peidiwch â theimlo cywilydd am ddweud "oes" - os oes angen cymorth arnoch, mae'n bwysig dweud hynny.
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Beth i’w egluro am ymwybyddiaeth o berygl
Dylech egluro yn y blwch (a rhoi enghreifftiau):
os ydych chi mewn perygl o niweidio eich hun - er enghraifft, dydych chi ddim bob amser yn sylwi pan fydd rhywbeth yn beryglus oherwydd iselder neu orbryder
os ydych weithiau'n gweithredu'n fyrbwyll a dim ond yn sylweddoli pa mor beryglus ydoedd ar ôl hynny - er enghraifft, mae gennych chi anhwylder deubegwn ac rydych yn cymryd risgiau pan fyddwch chi mewn cyfnod o or-hapusrwydd (mania neu hypomania)
os rydych yn anghofio bod yn ofalus, yn ymddwyn yn afresymol neu’n cymryd risgiau sydyn mewn ffordd annisgwyl
os ydych yn ei chael yn anodd canolbwyntio - er enghraifft, oherwydd eich meddyginiaeth
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 12
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 12 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
12 (a) Mae llai o ymwybyddiaeth o beryglon bob dydd yn arwain at risg sylweddol o’r canlynol: (i) anaf personol neu i eraill; neu (ii) difrod i eiddo fel bod yr hawlydd angen goruchwyliaeth am y rhan fwyaf o’r amser i gynnal diogelwch. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Mae llai o ymwybyddiaeth o beryglon bob dydd yn arwain at risg sylweddol o’r canlynol: (i) anaf personol neu i eraill; neu (ii) difrod i eiddo fel bod angen goruchwyliaeth ar yr hawlydd yn aml i gynnal diogelwch. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(c) Mae llai o ymwybyddiaeth o beryglon bob dydd yn arwain at risg sylweddol o’r canlynol: (i) anaf personol neu i eraill; neu (ii) difrod i eiddo fel bod angen goruchwyliaeth ar yr hawlydd o bryd i'w gilydd i gynnal diogelwch. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
13. Dechrau a gorffen tasgau
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a allwch gynllunio, trefnu a chwblhau o leiaf 2 dasg arferol, un ar ôl y llall.
Nid yw'r DWP yn gofyn am eich problemau corfforol yn y cwestiwn hwn. Maen nhw eisiau gwybod a oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl sy’n effeithio ar eich gallu i ddechrau a gorffen tasgau arferol.
“A allwch chi lwyddo i gynllunio, dechrau a gorffen tasgau dyddiol?”
Byth
Weithiau
Mae’n amrywio
Mae tasgau arferol yn cynnwys pethau fel:
cael cawod
gwisgo
casglu presgripsiwn
paratoi pryd sylfaenol
smwddio dillad
talu bil
gwneud apwyntiadau
Meddyliwch a allech chi gwblhau 2 o’r tasgau hyn, un ar ôl y llall, er enghraifft cyn i chi adael y tŷ i fynd i apwyntiad.
Er enghraifft, dychmygwch eich bod yn gwneud paned o de a bod y ffôn yn canu. A fyddech chi’n gallu stopio gwneud y te, ateb y ffôn ac yna gorffen gwneud y te ar ôl yr alwad ffôn?
Meddyliwch a fyddech chi’n gallu gwneud y rhain a thasgau arferol eraill dro ar ôl tro yn ystod yr un diwrnod.
Beth i'w esbonio am ddechrau a gorffen tasgau
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Mae’n bwysig esbonio:
a yw eich cyflwr yn ei gwneud yn anodd i chi ganolbwyntio
bod angen i chi gael eich atgoffa neu eich annog
eich bod yn drysu
eich bod yn colli ffocws
eich bod yn teimlo’n orbryderus neu wedi’ch gorlethu
eich bod yn anghofio beth rydych chi’n ei wneud
bod eich meddyginiaeth yn effeithio ar sut rydych chi’n cwblhau tasgau
bod eich cyflwr yn gwneud i chi golli cymhelliant
bod eich cyflwr yn gwneud i chi fod yn brin o egni neu’n flinedig
eich bod yn cael dyddiau da a dyddiau gwael
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 13
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 13 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
13 (a) Ni all yr hawlydd, oherwydd amhariad ar ei allu meddyliol, gychwyn na chwblhau o leiaf 2 weithred bersonol ddilyniannol yn ddibynadwy. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Ni all yr hawlydd, oherwydd amhariad ar ei allu meddyliol, gychwyn na chwblhau o leiaf 2 weithred bersonol ddilyniannol y rhan fwyaf o’r amser. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(c) Ni all yr hawlydd, oherwydd amhariad ar ei allu meddyliol, gychwyn na chwblhau o leiaf 2 weithred bersonol ddilyniannol yn fynych. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
14. Ymdopi â newidiadau
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â beth sy’n digwydd a sut rydych chi’n teimlo os bydd eich trefn neu eich cynlluniau’n newid.
“A allwch chi ymdopi â newidiadau bach i’ch trefn arferol os ydych chi’n gwybod amdanynt cyn iddynt ddigwydd?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Meddyliwch am orfod bwyta cinio ar adeg wahanol i’r arfer – neu ddargyfeiriad bws sydd wedi’i gynllunio sy’n mynd â chi ar lwybr gwahanol adref.
Peidiwch â theimlo cywilydd wrth dicio “na”, er enghraifft:
os na allwch ymdopi â newid o gwbl - hyd yn oed os cewch eich rhybuddio amdano
os mae newid yn gwneud i chi encilio a gwrthod help
os mae newid yn effeithio ar eich ymddygiad
os mae newid yn eich atal rhag bod yn chi eich hun wedyn, er enghraifft, mae angen i rywun eich tawelu ac mae’n effeithio arnoch chi drwy’r dydd
“A allwch chi ymdopi â newidiadau bach i’ch trefn arferol os ydyn nhw’n annisgwyl?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Meddyliwch petai eich bws neu drên 15 munud yn hwyr, neu petai ffrind neu ofalwr yn dod i’ch tŷ yn gynharach neu’n hwyrach na’r disgwyl.
Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na allaf”, er enghraifft os oes angen llawer o gynllunio a pharatoi meddyliol i baratoi ar gyfer rhywbeth – a’ch bod yn ei chael yn anodd ymdopi os caiff ei ganslo.
Beth i’w egluro am ymdopi â newidiadau
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Dylech egluro pethau fel:
a ydych chi'n cael trafferth ymdopi â newidiadau i'ch diwrnod a gynlluniwyd
a allwch chi ymdopi â newidiadau sydyn
a yw eich meddyginiaeth yn effeithio ar sut rydych chi’n ymdopi â newid
sut rydych chi’n ymdopi â newid – defnyddiwch enghreifftiau, os gallwch chi
sut y byddai eich diwrnod yn cael ei effeithio pe bai eich trefn arferol yn newid, er enghraifft, a fyddech chi'n gallu gwneud yr hyn roeddech chi wedi'i gynllunio
pa mor aml y byddai newid yn effeithio arnoch chi fel hyn
unrhyw beth rydych chi’n osgoi ei wneud oherwydd problemau posibl, er enghraifft rydych chi’n osgoi cwrdd â ffrindiau am bryd o fwyd oherwydd byddech chi’n cynhyrfu os na allech chi eistedd mewn sedd ffenestr
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 14
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 14 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
14 (a) Nid yw’r hawlydd yn gallu ymdopi ag unrhyw newidiadau, i'r fath raddau nad oes modd iddo reoli ei fywyd o ddydd i ddydd. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Nid yw’r hawlydd yn gallu ymdopi â newidiadau bach sydd wedi’u cynllunio (e.e. newid wedi’i drefnu ymlaen llaw i’r amser arferol ar gyfer cymryd egwyl ginio), i'r fath raddau bod ei fywyd o ddydd i ddydd yn llawer mwy heriol. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’r hawlydd yn gallu ymdopi â newidiadau bach sydd heb eu cynllunio (e.e. newid i amser apwyntiad ar y diwrnod y mae i fod i ddigwydd), i'r fath raddau, yn gyffredinol, bod ei fywyd o ddydd i ddydd yn llawer mwy heriol. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
15. Mynd allan
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a allwch chi ymdopi’n feddyliol neu’n emosiynol â mynd allan – er enghraifft, os oes gennych chi orbryder, agoraffobia neu’n cael pyliau o banig.
Does dim angen i chi ysgrifennu am sut byddech chi’n cyrraedd llefydd yn gorfforol – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ysgrifennu am sut mae’n gwneud i chi deimlo pan fydd yn rhaid i chi fynd allan.
Eglurwch sut rydych chi’n teimlo am gyrraedd llefydd. Wrth feddwl am hyn, anwybyddwch unrhyw help y gallech ei gael gan fapiau neu apiau ffonau symudol.
Os bydd problemau corfforol yn eich atal rhag mynd allan, dylech egluro hyn yng nghwestiwn 1.
“A allwch chi adael eich cartref a mynd allan i lefydd cyfarwydd?”
Na allaf
Gallaf, os bydd rhywun yn mynd gyda mi
Mae’n amrywio
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â lleoedd cyfarwydd. Meddyliwch beth fyddai’n digwydd pe bai’n rhaid i chi fynd i’ch Swyddfa Bost, eich banc neu’ch archfarchnad leol ar eich pen eich hun.
Peidiwch â theimlo cywilydd wrth dicio “na allaf” neu “gallaf, os bydd rhywun yn mynd gyda mi” – er enghraifft:
os allwch chi ddim mynd i lefydd cyfarwydd y rhan fwyaf o'r amser, hyd yn oed os bydd rhywun arall yn dod gyda chi
os allwch chi fynd i lefydd cyfarwydd dim ond os bydd rhywun yn dod gyda chi
Os ydych chi’n gallu cyrraedd man cyfarwydd, ond dim ond os bydd rhywun yn dod gyda chi, esboniwch pam – er enghraifft, os byddech chi’n teimlo’n orbryderus neu’n ofidus pe baech chi’n ceisio mynd allan heb berson arall.
“A allwch chi adael eich cartref a mynd allan i lefydd anghyfarwydd?”
Na allaf
Gallaf, os bydd rhywun yn mynd gyda mi
Mae’n amrywio
Mae hyn yn ymwneud â llefydd anghyfarwydd. Meddyliwch beth fyddai’n digwydd pe bai’n rhaid i chi fynd i le newydd nad oeddech chi wedi bod iddo o’r blaen.
Peidiwch â theimlo cywilydd wrth dicio “na allaf” neu “gallaf, os bydd rhywun yn mynd gyda mi” – er enghraifft:
os ydych chi’n ei chael hi’n anodd mynd i apwyntiad yn rhywle newydd, hyd yn oed os bydd rhywun arall yn dod gyda chi
os na allwch chi fynd allan i brynu bwyd ar eich pen eich hun mewn siop nad ydych chi'n mynd iddi fel arfer - dim ond siopau cyfarwydd byddech yn defnyddio, neu’n aros nes bydd rhywun yn gallu eich cynorthwyo
os allwch chi fynd i lefydd newydd dim ond os bydd rhywun yn dod gyda chi
Os oes angen i rywun ddod gyda chi, esboniwch pam yn y blwch.
Beth i'w esbonio am fynd allan
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Dylech egluro pethau fel:
os yw cyflwr iechyd meddwl yn achosi problemau i chi wrth fynd allan - beth yw'r cyflwr a pha feddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd ar ei gyfer
beth fyddai'n digwydd pe baech yn ceisio mynd i le cyfarwydd neu anghyfarwydd ar eich pen eich hun
unrhyw anawsterau y byddwch yn eu hwynebu pan fyddwch yn mynd allan - er enghraifft pyliau o banig, mynd ar goll neu ddamweiniau ar y ffordd
y gwahaniaeth mae’n ei wneud os oes gennych chi rywun gyda chi
os ydych chi’n cael diwrnodau da a drwg, a beth yw’r gwahaniaethau
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 15
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Does dim modd i chi gael LCWRA drwy gyfateb ag unrhyw un o’r disgrifyddion hyn.
Bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
15 (a) Nid yw’r hawlydd yn gallu cyrraedd unrhyw le y tu allan i’w dŷ, hyd yn oed os yw’n gyfarwydd ag ef. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Nid yw’r hawlydd yn gallu cyrraedd man penodedig y mae’n gyfarwydd ag ef, heb i rywun arall ddod gydag ef. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’r hawlydd yn gallu cyrraedd man penodedig sy’n anghyfarwydd iddo, heb i rywun arall ddod gydag ef. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
16. Ymdopi â sefyllfaoedd cymdeithasol
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut rydych chi’n ymdopi â chwrdd â phobl a siarad â nhw.
Mae’n ymwneud ag a ydych chi’n cael anawsterau sy’n ymwneud â phobl, neu a yw cwrdd a siarad â phobl yn peri gofid sylweddol i chi.
Gallai’r rhesymau pam eich bod yn cael anawsterau gynnwys y canlynol:
mae gennych gyflwr fel awtistiaeth, sy'n golygu eich bod yn ei chael yn anodd uniaethu â phobl
mae gennych anabledd dysgu
mae gennych broblemau gyda dicter neu ymddygiad ymosodol
mae eich iechyd meddwl yn ei gwneud yn anodd bod o gwmpas pobl neu siarad â nhw
Er enghraifft, gallai fod yn anodd bod o gwmpas pobl neu siarad â nhw os oes gennych iselder, gorbryder neu anhwylder straen wedi trawma (PTSD).
Mae’r DWP yn ceisio deall:
a ydych yn cael anawsterau gyda phobl rydych chi’n eu hadnabod
a ydych yn cael anawsterau gyda phobl nad ydych yn eu hadnabod
pa mor aml rydych chi’n cael problemau – boed hynny drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser
“A allwch chi gwrdd â phobl rydych chi’n eu hadnabod heb deimlo’n rhy orbryderus neu ofnus?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Gallai hyn fod yn unrhyw un rydych chi wedi cwrdd ag ef o’r blaen, fel eich meddyg, eich cymdogion neu eich ffrindiau. Mae’n golygu mwy na phobl rydych chi’n agos atyn nhw.
Peidiwch â theimlo cywilydd wrth dicio “na allaf”, er enghraifft:
os mae gweld pobl rydych chi’n eu hadnabod yn gwneud i chi deimlo’n orbryderus neu’n ofnus, er enghraifft am ei fod yn gwneud i chi deimlo dan straen neu’n nerfus
os ydych chi’n osgoi cwrdd â phobl
“A allwch chi gwrdd â phobl nad ydych chi’n eu hadnabod heb deimlo’n rhy orbryderus neu ofnus?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Gallai hyn fod yn rhywun fel ariannwr mewn siop, rhywun yn y ciw bysiau, neu gymydog nad ydych chi erioed wedi cwrdd ag ef. Meddyliwch sut byddech chi’n teimlo pe bai angen i chi ddelio â’r cyhoedd mewn swydd, er enghraifft mewn siop neu westy.
Efallai y bydd angen i chi dicio “na allaf”:
os mae siarad â phobl nad ydych chi’n eu hadnabod yn gwneud i chi deimlo’n orbryderus neu’n ofnus, er enghraifft am ei fod yn gwneud i chi deimlo dan straen neu’n nerfus
os rydych chi’n ceisio osgoi cwrdd â phobl newydd a siarad â nhw
os rydych chi’n ceisio peidio â mynd allan oherwydd dydych chi ddim eisiau gweld pobl
Efallai y bydd angen i chi roi tic wrth ‘mae’n amrywio’ os yw cwrdd â phobl nad oeddech chi’n disgwyl cwrdd â nhw yn gwneud i chi deimlo’n orbryderus neu’n ofnus, ond rydych chi’n iawn pan fyddwch chi’n bwriadu cwrdd â nhw.
Os felly, esboniwch beth sy’n digwydd a sut mae’n gwneud i chi deimlo yn y blwch.
Beth i’w esbonio am sefyllfaoedd cymdeithasol
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Defnyddiwch y blwch i egluro sut rydych chi’n teimlo am dreulio amser gyda phobl eraill. Er enghraifft:
sut rydych chi’n teimlo pan fydd yn rhaid i chi gwrdd â phobl a siarad â nhw
os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymdeimlo â phobl – sut maen nhw’n ymateb i chi, a sut mae’n gwneud i chi deimlo
pa mor aml rydych chi’n osgoi gweld neu gwrdd â phobl
a ydych chi'n ei chael hi'n haws cwrdd â phobl eraill os oes rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo gyda chi
a ydych yn cael diwrnodau da a drwg
a allech chi ymdopi â chyfarfod neu siarad â mwy nag un person ar y tro
a yw'n effeithio arnoch chi'n gorfforol, er enghraifft yn gwneud i chi deimlo'n boeth neu’n benysgafn
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 16
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 16 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
16 (a) Mae ymgysylltu â sefyllfaoedd cymdeithasol bob amser yn cael ei atal oherwydd anhawster o ran ymdeimlo ag eraill neu drallod sylweddol a brofir gan yr hawlydd. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Mae ymgysylltu â sefyllfaoedd cymdeithasol â rhywun sy’n anghyfarwydd i’r hawlydd bob amser yn cael ei atal oherwydd anhawster o ran ymdeimlo ag eraill neu drallod sylweddol a brofir gan yr hawlydd. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(c) Nid yw’n bosibl i’r hawlydd gymryd rhan mewn sefyllfaoedd cymdeithasol â rhywun sy’n anghyfarwydd iddo am y rhan fwyaf o’r amser oherwydd anhawster o ran ymdeimlo ag eraill neu drallod sylweddol a brofir gan yr hawlydd. |
Pwyntiau
6 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
17. Ymddwyn yn briodol
Mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a yw'n anodd i chi reoli eich ymddygiad o flaen pobl eraill neu os ydych chi'n ymddwyn mewn ffordd anarferol o'u blaenau.
Gallai hyn fod oherwydd bod gennych gyflwr iechyd meddwl, cyflwr niwroamrywiol fel awtistiaeth, neu anaf i’r ymennydd. Gallai hefyd fod yn berthnasol os oes gennych gyflwr fel epilepsi neu ddiabetes – yn dibynnu os ydych yn dioddef o lefelau isel o siwgr yn y gwaed (hypoglycaemia neu hypos) neu drawiadau, a sut mae’r rhain yn effeithio arnoch chi.
Os yw’n anodd rheoli eich ymddygiad oherwydd alcohol, dylech ateb y cwestiwn hwn os oes gennych ddibyniaeth ar alcohol.
Dylech ateb y cwestiwn hwn os yw eich ymddygiad wedi gwneud i bobl eraill deimlo’n anghyfforddus, yn ofnus, yn ofidus neu dan fygythiad.
“Pa mor aml ydych chi’n ymddwyn mewn ffordd sy’n gofidio pobl eraill?”
Bob dydd
Yn aml
Weithiau
Meddyliwch pa mor aml rydych chi wedi methu rheoli eich ymddygiad neu eich ymatebion pan fydd pobl eraill o gwmpas. Gallai fod yn bobl rydych chi’n eu hadnabod neu’n bobl nad ydych chi’n eu hadnabod.
Ceisiwch fod yn onest, hyd yn oed os yw’n codi cywilydd arnoch.
Dylech ddweud os ydych chi wedi gofidio pobl, er enghraifft, drwy:
weiddi neu sgrechian
eu taro neu fygwth eu brifo
eu hanwybyddu’n llwyr
taflu rhywbeth gyda’r bwriad o’i dorri, fel mwg neu blât
dweud pethau amhriodol, er enghraifft os oes gennych chi gyflwr sy’n gwneud i chi regi
crïo'n afreolus neu drwy'r amser - cofiwch esbonio pam fod hyn yn digwydd
tynnu eich dillad
Beth i’w egluro am ymddwyn yn briodol
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Dylech egluro, er enghraifft:
os rydych chi wedi bod yn dreisgar tuag at rywun erioed - a nodwch os ydych chi wedi cael eich arestio oherwydd hynny
os rydych wedi'ch gwahardd o siop, tafarn neu le arall
os mae eich meddyginiaeth yn gwneud i chi ymddwyn mewn ffordd amhriodol neu anarferol
os oes gennych broblem gyda chyffuriau neu alcohol sy'n eich gwneud yn ymosodol neu’n gwneud i chi ymddwyn yn amhriodol
os rydych chi’n gwybod eich bod yn gofidio pobl, ond allwch chi ddim rheoli eich gweithredoedd
os rydych chi wedi bod mor gynhyrfus fel nad ydych chi’n gallu ymdawelu
os na fyddwch yn mynd allan oherwydd eich bod yn ofni y byddwch yn gwneud rhywbeth neu'n dweud rhywbeth a allai effeithio ar bobl eraill
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 17
Bydd y DWP yn gwirio pa un o’r disgrifyddion hyn sy’n cyfateb i’ch ateb.
Os ydych yn bodloni disgrifydd 17 (a), byddwch yn cael LCWRA.
Os ydych chi’n bodloni un o’r disgrifyddion eraill, bydd y DWP yn adio eich pwyntiau o’r ffurflen gyfan at ei gilydd i benderfynu a allwch chi gael LCW ai peidio.
Disgrifyddion | Pwyntiau |
---|---|
Disgrifyddion
17 (a) Mae’r hawlydd yn cael cyfnodau afreolus o ymddygiad ymosodol neu ddiymatal yn ddyddiol, a fyddai’n afresymol mewn unrhyw weithle. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(b) Mae’r hawlydd yn cael cyfnodau afreolus o ymddygiad ymosodol neu ddiymatal yn aml, a fyddai’n afresymol mewn unrhyw weithle. |
Pwyntiau
15 |
Disgrifyddion
(c) Mae’r hawlydd yn cael cyfnodau afreolus o ymddygiad ymosodol neu ddiymatal o bryd i’w gilydd, a fyddai’n afresymol mewn unrhyw weithle. |
Pwyntiau
9 |
Disgrifyddion
(d) Nid yw’r uchod yn berthnasol. |
Pwyntiau
0 |
Atebwch Ran 3: Bwyta neu yfed
Mae’r cwestiwn hwn ar dudalennau 18 y ffurflen.
Mae’n ymwneud â pha mor anodd yw hi i chi fwyta ac yfed. Mae hefyd yn ymwneud ag os na allwch chi fwyta, neu os nad ydych chi eisiau bwyta.
18. Bwyta neu yfed
“A allwch chi gael bwyd a diod i’ch ceg heb help neu heb gael eich ysgogi gan rywun arall?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Mae hyn yn fwy na dim ond a allwch chi gael bwyd neu ddiod i'ch ceg yn gorfforol - mae hefyd yn ymwneud ag a ydych chi'n anghofio bwyta neu yfed, ac os nad ydych chi eisiau bwyta neu yfed. Er enghraifft, efallai:
eich bod yn anghofio bwyta oherwydd iselder
eich bod yn osgoi bwyta oherwydd ei fod yn boenus i chi dreulio bwyd
bod gennych anhwylder bwyta
Peidiwch â theimlo cywilydd wrth dicio “na allaf”, er enghraifft:
os ydych chi’n cael problemau symudedd yn eich dwylo neu’ch breichiau
os oes cyflwr iechyd meddwl yn gwneud i chi anghofio bwyta, neu os nad ydych yn cael eich cymell i fwyta
os oes gennych anorecsia, bwlimia neu fath arall o anhwylder bwyta
os oes gennych gydsymudiad neu afael gwael, neu os oes gennych wendid neu gryndod
os ydych chi'n defnyddio tiwb bwydo i mewn i'ch stumog, neu linell fwydo i'ch gwythiennau
“A allwch chi gnoi a llyncu bwyd a diod heb help neu heb gael eich ysgogi gan rywun arall?”
Na allaf
Gallaf
Mae’n amrywio
Unwaith eto, peidiwch â theimlo cywilydd wrth dicio “na allaf”, er enghraifft:
os rydych chi’n ei chael hi’n anodd cnoi ac felly’n yfed hylifau’n bennaf, fel cawl
os mae bwyta neu yfed yn gwneud i chi besychu neu dagu
os rydych yn dod â bwyd yn ôl i fyny
pan fyddwch chi’n ei fwyta, mae’n teimlo fel bod rhywbeth yn sownd yn eich gwddf neu eich brest
os ydych chi'n defnyddio tiwb bwydo i mewn i'ch stumog, neu linell fwydo i'ch gwythiennau
Beth i’w egluro yn y blwch
Mae'n bwysig dweud mwy wrth y DWP drwy esbonio eich sefyllfa yn y blwch.
Eglurwch pa broblemau bwyta ac yfed sydd gennych, er enghraifft:
os oes angen i rywun eich atgoffa neu eich annog i fwyta neu yfed
os yw’n achosi poen i chi fwyta neu yfed, neu’n gwneud i chi deimlo allan o wynt
os yw'n cymryd amser hir i chi fwyta neu yfed oherwydd ei fod yn gorfforol anodd i chi, neu eich bod yn anghofio beth rydych chi'n ei wneud
os oes rhywun yn eich helpu i fwyta ac yfed, a sut maen nhw’n eich helpu chi
os yw eich cyflwr yn golygu eich bod yn anghofio bwyta neu ddim eisiau bwyta, sut mae hyn yn effeithio arnoch chi
Sut mae’r DWP yn rhoi pwyntiau ar gyfer cwestiwn 18
Byddwch yn cael LCWRA os oes un o'r disgrifyddion hyn yn cyfateb i’ch ateb:
(a) Nid yw’r hawlydd yn gallu codi bwyd neu ddiod i’w geg ei hun heb dderbyn cymorth corfforol gan rywun arall; neu
(b) Nid yw’r hawlydd yn gallu codi bwyd neu ddiod i’w geg ei hun heb stopio dro ar ôl tro neu brofi diffyg anadl neu anghysur difrifol; neu
(c) Nid yw’r hawlydd yn gallu codi bwyd neu ddiod i’w geg ei hun heb dderbyn anogaeth reolaidd gan rywun arall ym mhresenoldeb yr hawlydd; neu
(d) Oherwydd anhwylder difrifol o ran hwyliau neu ymddygiad, nid yw’r hawlydd yn gallu codi bwyd neu ddiod i’w geg ei hun heb dderbyn:
(i) cymorth corfforol gan rywun arall; neu
(ii) anogaeth reolaidd a roddir gan rywun arall ym mhresenoldeb yr hawlydd.
(e) Nid yw’r hawlydd yn gallu cnoi na llyncu bwyd neu ddiod; neu
(f) Nid yw’r hawlydd yn gallu cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod heb stopio dro ar ôl tro, colli gwynt neu brofi anghysur difrifol; neu
(g) Nid yw’r hawlydd yn gallu cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod heb dderbyn anogaeth reolaidd gan rywun arall ym mhresenoldeb yr hawlydd; neu
(h) Oherwydd anhwylder difrifol o ran hwyliau neu ymddygiad, nid yw’r hawlydd yn gallu gwneud y canlynol:
(i) cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod; neu
(ii) cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod heb dderbyn anogaeth reolaidd gan rywun arall ym mhresenoldeb yr hawlydd.
Gorffen ac anfon y ffurflen
Mae'r adran olaf yn ymwneud â rhannu gwybodaeth, a pha gymorth y byddai ei angen arnoch os byddwch yn gwneud asesiad meddygol. Yna, gallwch ddychwelyd y ffurflen gydag unrhyw dystiolaeth feddygol sydd gennych.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.